Mae Prifysgol Abertawe wedi cyflwyno gradd er anrhydedd i'r actores o Gymru, Eve Myles, sy'n seren y gyfres deledu boblogaidd, Keeping Faith.

Cyflwynwyd y wobr i Ms Myles heddiw (16 Rhagfyr 2019) yn ystod seremoni raddio Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau. 

Ganwyd Eve Myles yn Ystradgynlais, a mynychodd Ysgol Maes y Dderwen. Ar ôl hyfforddi i fod yn actores ac ennill Bagloriaeth y Celfyddydau mewn actio o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd, symudodd i Lundain.

Yn 2000, cymerodd Eve rôl ganolog Ceri Owen yn nrama BBC Cymru Belonging, rôl y byddai'n ei chwarae tan ddiwedd y gyfres yn 2009.

Wrth ymddangos yn Doctor Who yn 2005, daeth Eve at sylw'r prif ysgrifennwr Russell T. Davies a fyddai'n symud ymlaen i greu a chynhyrchu'r ddrama ffuglen wyddonol, Torchwood. Gan ei hystyried yn "un o gyfrinachau gorau Cymru", creodd Davies rôl Gwen Cooper yn Torchwood yn benodol i Eve.  Chwaraeodd Eve gymeriad Gwen Cooper am bedair cyfres rhwng 2006 a 2011. Enillodd ei rôl yn y gyfres wobr Bafta Cymru iddi am yr Actores Orau yn 2007.

Yn actores theatr fedrus, enillodd Eve Myles Wobr Ian Charleson yn 2004 am ei pherfformiadau yng nghynyrchiadau Cwmni Brenhinol Shakespeare o'r dramâu Titus Andronicus a The Taming of the Shrew. Mae credydau theatr pellach yn cynnwys Henry IV, Rhan I a II yn y Theatr Genedlaethol yn 2004, rôl Emma yn nangosiad cyntaf o ddrama Zach Braff All New People yn y DU yn 2012.

Yn 2017, bu Eve yn ymddangos ochr yn ochr â'i gŵr mewn bywyd o iawn, Bradley Freegard, yn y ddrama Gymraeg, Un Bore Mercher. Ffilmiwyd Un Bore Mercher yn Saesneg hefyd a chafodd ei dangos ar BBC One Cymru yn 2018 â'r teitl Keeping Faith, gydag Eve yn chwarae Faith Howells, cyfreithwraig y mae ei gŵr Evan, sy'n gweithio gyda hi yn eu cwmni cyfreithiol teuluol, yn diflannu tra ei bod ar gyfnod mamolaeth yn dilyn genedigaeth eu trydydd plentyn.

Yn 2018, chwaraeodd Eve rôl cariad Norman Scott, Gwen Parry-Jones, yn y ddrama i’r BBC, A Very English Scandal. Mae'r ddrama'n adrodd hanes carwriaeth y gwleidydd Jeremy Thorpe â Scott a'r achos llys diweddarach am ymgais i lofruddio ac mae'n seiliedig ar y nofel o'r un enw gan John Preston.

Wrth dderbyn ei gwobr, dywedodd Eve Myles: “Wrth dderbyn ei gwobr, dywedodd Eve Myles: “Mae’n fraint derbyn y dyfarniad hwn gan Brifysgol Abertawe. Rwy'n falch iawn o'm gwreiddiau yn Ystradgynlais, i fyny'r ffordd o Abertawe, ac rwy'n teimlo'n lwcus iawn o gael fy nghydnabod gan brifysgol mor mor flaengar ac sy'n falch o'i Chymreictod. Diolch yn fawr iawn.”