Mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu gradd er anrhydedd i un o gewri darlledu Cymreig a Chymraeg, Huw Llywelyn Davies.

Cyflwynwyd y dyfarniad i Mr Davies heddiw (17 Rhagfyr 2019) yn ystod seremoni raddio'r Ysgol Reolaeth.

Magwyd Huw Llywelyn Davies yng Ngwauncaegurwen yng Nghwm Tawe. Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg Pontardawe ac enillodd radd anrhydedd yn y Gymraeg o Goleg Prifysgol Cymru, Caerdydd.

Aeth yn athro yn y lle cyntaf, ond gadawodd y proffesiwn ym 1974 i ddilyn gyrfa fel darlledwr yn HTV yn gyflwynydd ar y rhaglen newyddion iaith Gymraeg, Y Dydd.

Tua diwedd y 1970au, symudodd i BBC Wales i ganolbwyntio ar gyflwyno chwaraeon, a daeth yn enw adnabyddus fel sylwebydd rygbi, yn Gymraeg yn y lle cyntaf ar BBC Radio Cymru ac yn ddiweddarach yn Saesneg gyda BBC Wales. Dechreuodd ei yrfa o sylwebu ar rygbi gyda Radio Cymru ym 1979.

Pan lansiwyd S4C ym 1982, ef ddarparodd y sylwebaeth iaith Gymraeg gyntaf ar gêm rygbi – y gêm rhwng Cymru a Lloegr ym 1983. Gweithiodd gyda Ray Gravell, arwr rygbi Llanelli a Chymru, ac roedd eu partneriaeth yn hollbwysig i sefydlu S4C fel darlledwr rygbi o fri. Yn ystod ei yrfa, sylwebodd Huw ar dair Camp Lawn, pum taith y Llewod a phum Cwpan Rygbi'r Byd. Wedi sylwebu ar 360 o gemau rhyngwladol, sylwebodd am y tro olaf yn y gêm rhwng Cymru a'r Alban yn 2014.

Yn ogystal â digwyddiadau chwaraeon, mae'n adnabyddus am gyflwyno Dechrau Canu, Dechrau Canmol. Ef hefyd oedd prif gyflwynydd BBC Cymru Wales yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol am 33 o flynyddoedd, rhwng 1980 a 2012. Ym 1987, daeth yn aelod o Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, yna dyrchafwyd ef i'r Wisg Wen ym 1994.

Wrth dderbyn ei radd, dywedodd Mr Davies: “Roedd dau deimlad amlwg pan ddaeth y cynnig caredig ond cwbl annisgwyl i dderbyn y radd hon yma heddiw. Syndod i ddechrau taw o Brifysgol Abertawe y daeth y llythyr o gofio taw cyn-fyfyriwr ydw i o Brifysgol Caerdydd - yr arch elynion ar y cae rygbi ac yn y Steddfod ryng-golegol!! Ond y balchder hefyd bod y cynnig wedi dod oddi wrth y Brifysgol agosaf at fy hen gartre ym mhen uchaf Cwm Tawe ym mhentref glofaol Gwauncaegurwen. Rwy’n ei theimlo hi’n fraint arbennig i fod yma heddiw'n derbyn gradd mewn Prifysgol agos iawn at fy hen filltir sgwâr, ac am ddiolch i bawb fu’n gyfrifol am feddwl fy mod i’n deilwng o’r fath anrhydedd.”