Mae George North yn chwaraewr rygbi proffesiynol sy'n chwarae dros y Gweilch yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig a thîm cenedlaethol Cymru. Mae hefyd wedi cynrychioli Llewod Prydain ac Iwerddon ac ar hyn o bryd, ef sydd â'r nifer mwyaf o geisiadau mewn rygbi rhyngwladol ar gyfer chwaraewr sy'n dal i chwarae. 

Er mai Sais yw tad George, ac er i George gael ei eni yn Norfolk, mae ei fam yn hanu o Ynys Môn, a symudodd y teulu yno pan oedd George yn ddwy flwydd oed. Ac yntau'n siaradwr Cymraeg rhugl, fe'i haddysgwyd yn Ysgol Uwchradd Bodedern ar Ynys Môn ac yn nes ymlaen yng Ngholeg Llanymddyfri.

Ym mis Hydref 2010, roedd George ymysg carfan o 33 o chwaraewyr a ddewiswyd ar gyfer cyfres ryngwladol yr hydref. Ar 11 Tachwedd 2010, fe'i henwyd yn nhîm Cymru i wynebu De Affrica ar 13 Tachwedd. Ef oedd y chwaraewr ifancaf ond dau i gynrychioli Cymru erioed ar y cyd ag Evan Williams, y tu ôl i Tom Prydie a Norman Biggs.

Dechreuodd George ei yrfa ryngwladol mewn modd trawiadol ar 13 Tachwedd 2010 mewn gêm yn erbyn pencampwyr y byd bryd hynny, gan sgorio dau gais dros Gymru wrth i'r tîm golli i Dde Affrica o 29–25 yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd. Creodd sawl record newydd o safbwynt Cymru a rygbi rhyngwladol yn ystod y gêm.

Ac yntau'n 18 mlwydd, 214 diwrnod oed, ef oedd y chwaraewr ifancaf erioed i sgorio cais ar ei fedydd dros Gymru. Deiliad blaenorol y record oedd Tom Pearson, a oedd yn 18 mlwydd, 238 niwrnod oed pan sgoriodd yn erbyn Lloegr ym 1891.

Yn dilyn ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf yng ngemau prawf diwedd blwyddyn 2010, daeth George North yn enw rheolaidd yn nhîm Cymru. 

Chwaraeodd dros Gymru yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2014, gan ddechrau pob un o'r pum gêm, gan gynnwys newid i safle'r canolwr allanol yn erbyn Ffrainc, yn y gobaith y byddai ei faint a'i gryfder yn ei wneud yn wrthwynebydd teilwng er mwyn mynd i'r afael â chorffolaeth 19 stôn Mathieu Bastareaud, a oedd yn dechrau yn yr un safle i Les Bleus. Bu'r cynllun yn llwyddiannus wrth i Gymru ennill o 27-6 gyda George yn sgorio cais ar ôl pum munud.

Aeth George ymlaen i chwarae dros Gymru yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2016, gan sgorio ceisiadau yn erbyn yr Alban, Ffrainc, Lloegr a'r Eidal.

Roedd yn rhan o garfan Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd yn 2019, gan sgorio cais yn y 76ain munud yn erbyn Georgia.

Ym mis Chwefror 2021, ef oedd y chwaraewr ifancaf i ennill ei ganfed cap dros Gymru, mewn gêm yn erbyn Lloegr.

Ym mis Mehefin 2019, priododd George â'i bartner hirdymor, Becky James, a enillodd ddwy fedal fel beiciwr yn y Gemau Olympaidd. Gyda'i gilydd, mae ganddynt ddau fab ifanc.