Mae Prifysgol Abertawe wedi cyflwyno gradd er anrhydedd i Mr John Francis Thrash, sefydlydd arloesol corfforaethau 'gwyrdd', gan gynnwys cwmni Thrash Oil and Gas, a hyrwyddwr technoleg a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Abertawe.

Cyflwynwyd y wobr i Mr Thrash heddiw (24 Gorffennaf 2019) yn ystod seremoni raddio'r Brifysgol yn yr Ysgol Reolaeth.

Ganwyd a magwyd John Thrash yn Odessa, Tecsas. Daeth o deulu a oedd yn rhan o'r busnes nwy ac olew ond, serch hynny, dewisodd ef ddilyn gyrfa ym maes meddygaeth.

Yn dilyn blynyddoedd lawer yn ymarfer fel meddyg yn Houston, Tecsas, ymunodd Dr Thrash â busnes adfer olew uwch lleol ei rieni amser llawn yn dilyn chwalu'r pris  olew yn y 1980au, gan reoli'r cwmni'n llwyddiannus ac osgoi methdalwriaeth.

Yn ogystal, ers 1998, mae John wedi bod yn Gadeirydd ac yn Uwch-Swyddog Gweithredol eCORP, gan greu cwmni un o'r datblygwyr 'gwyrdd' cyntaf.

Ei gysylltiad pennaf â Phrifysgol Abertawe yw ei rôl yn hyrwyddo technoleg dal CO2 a ddatblygwyd yn y Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni (ESRI), a chyda'i gymorth ef, cyflwynwyd technoleg ESRI i Lywodraeth Ffrainc, gan greu sail argymhellion allweddol.

Mae Dr Thrash wedi gweithio mewn rolau ymgynghori niferus ac wedi cyflwyno i amrywiaeth eang o asiantaethau rheoleiddio rhyngwladol, gan gynnwys Comisiwn Rheoleiddio Ynni Ffederal yr UD, Comisiwn Economaidd y Cenhedloedd Unedig dros Ewrop, a'r Alliance Nationale de Coordination de la Recherche pour l’Énergie, yn ogystal â fforymau cyhoeddus ar bynciau gwyddonol a phynciau sy'n gysylltiedig ag ynni.

Mae hefyd wedi cael gyrfa academaidd ac ymchwil ddisglair. Gan ddychwelyd i’w wreiddiau academaidd, Dr Thrash yw’r partner cyllido sefydlu ac yn Gyfarwyddwr Rheoli'r Ganolfan dros Ymchwil Foleciwlaidd i Glefydau Heintus, sydd wedi bod yn llwyddiannus wrth ddatblygu atebion arloesol i heriau meddygol.

Wrth dderbyn ei radd, dywedodd Mr Thrash: “Mae'r anrhydedd hon o bwysigrwydd personol a phroffesiynol enfawr.  Mewn sawl ffordd, mae'r ymchwil rydym yn ymgymryd â hi ynghyd â Phrifysgol Abertawe yn addo rheolaeth gref iawn o allyriadau sy'n gysylltiedig â ffurf benodol o greu pŵer, ynghyd â dal llawer o'r carbon deuocsid a dynnir o'r amgylchedd, ar yr un llaw; ac ar y llaw arall, leihau gofynion pŵer drwy leihau colledion trosglwyddo.  Byddaf yn fythol ddiolchgar i'r sawl sydd wedi bod yn rhan o'r rhaglenni hyn, i Brifysgol Abertawe, ynghyd â chydweithwyr a phobl gysylltiedig eraill ac, yn bennaf oll, am y gydnabyddiaeth y mae'r anrhydedd hon yn rhoi i ni oll sy'n gweithio tuag at yr amcanion amgylcheddol hanfodol hyn.