Mae Prifysgol Abertawe wedi cyflwyno gradd er anrhydedd i ofodwr/ffisegydd o Gymru/Ganada, Dr Dafydd Rhys Williams.

Cyflwynwyd y ddoethuriaeth er anrhydedd i Dr Williams heddiw (26 Gorffennaf) yn ystod seremoni raddio y Coleg Gwyddoniaeth.

Cafodd Dr Williams ei fagu yn Québec, ond ganwyd a magwyd ei dad ym Margoed, yng Nghwm Rhymni.  Mae Dafydd Williams yn priodoli ei synnwyr o antur i'w rieni ac, yn benodol, i'w dad, a oedd wedi'i gyfareddu gan y diwydiant hedfan a phobl yn hedfan i'r gofod. Yn hwyrach, bu ei fam, a oedd yn nyrs theatr, yn ysbrydoliaeth iddo ddod yn feddyg blaenllaw.

Enillodd radd Bagloriaeth mewn Bioleg, gradd Meistr mewn ffisioleg, a Doethuriaeth Meddygaeth a Meistr Llawdriniaeth o Brifysgol McGill yn Montreal.  Mae'n arbenigo mewn niwroleg, meddygaeth frys a thrawma, ac mae wedi bod yn feddyg brys yng Nghanolfan Gwyddorau Iechyd Sunnybrook, yn Toronto; yn gyfarwyddwr meddygol yng Nghlinig Gofal Brys Westmount, Ontario; ac yn Athro Llawdriniaeth ym mhrifysgolion Toroto a McGill.

Yn 1992, cafodd ei ddethol yn un o bedwar ymgeisydd ymhlith 5,330 gan Asiantaeth Gofod Canada i ddechrau hyfforddi fel gofodwr, ac ym 1995, cafodd ei ddethol i ymuno â grŵp rhyngwladol o arbenigwyr taith NASA, gan symud i Ganolfan Gofod Johnson yn Houston i hyfforddi.

Mae wedi hedfan i’r gofod ddwywaith, yn gyntaf, ym 1998 ar y wennol ofod Columbia, STS-90, fel arbenigwr y daith ym maes niwrowyddoniaeth. Yna, yn 2007, ar Endeavour, STS-118, lle helpodd i adeiladau'r orsaf ofod ryngwladol. 

Efe oedd yr unigolyn cyntaf nad oedd yn dod o'r Unol Daleithiau i ddal swydd Cyfarwyddwr yng Nghanolfan Ofod Johnson, pan gafodd ei benodi'n Gyfarwyddwr Gofod a'r Gwyddorau Bywyd yn Houston, ac yna'n Ddirprwy Weinyddwr Cysylltiol  Hedfan Gofodol ym mhrif swyddfeydd NASA.

Wrth gyflwyno ei wobr, meddai Ms Elin Rhys, y mae ganddi hithau hefyd wobr er anrhydedd gan Brifysgol Abertawe: “Mae Dafydd Rhys Williams yn Llysgennad dros Gymru, ac mae wedi cario ein baner ymhellach nag unrhyw un arall. Fe'i gwelwyd yn y gofod ar y teledu yn arddangos pethau Cymreig ac yn siarad iaith y nefoedd, yn fythol-falch o'i dreftadaeth Gymreig ac yn awyddus i sicrhau y gall pobl ifanc yng Nghymru edrych tua'r sêr, gan feddwl y gallant hwythau hefyd oresgyn yr heriau ac anelu'n uchel."

Wrth dderbyn ei wobr er anrhydedd, meddai Dr Williams: “Mae'n anrhydedd mawr derbyn gradd er anrhydedd gan Brifysgol Abertawe.  Byddai fy nhad yn hynod falch i wybod yr aeth ei fab â baner Cymru ag ef ar y ddau hediad i'r gofod a bod ganddo'r cyfle i ddweud ychydig o eiriau yn Gymraeg o'r gofod. Mae hefyd yn hyfryd bod yn ôl yng Nghymru, gwlad fendigedig rwy wrth fy modd yn ei harchwilio, i ddysgu mwy am fy nhreftadaeth. Diolchaf ichi o galon am gyflwyno'r Radd er Anrhydedd hon i mi gan y Brifysgol."