Mae Prifysgol Abertawe wedi cyflwyno gradd er anrhydedd i gyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe, yr Athro Dewi Meirion Lewis, sy'n un o ffisegwyr mwyaf blaenllaw y byd.

Cyflwynwyd y ddoethuriaeth er anrhydedd i'r Athro Lewis heddiw (26 Gorffennaf) yn ystod seremoni raddio y Coleg Gwyddoniaeth. 


Graddiodd Dewi Meirion Lewis gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Ffiseg o Brifysgol Abertawe ym 1969. Yn fyfyriwr israddedig, roedd yn un o grŵp o wirfoddolwyr myfyriwr a ddewiswyd i greu tîm achub gwirfoddol o Brifysgol Cymru a aeth i'r drychineb gloddio yng nghwm Aberfan.  Ef oedd y myfyriwr PhD cyntaf o Brifysgol Abertawe i ddechrau ymchwil ffiseg ar bositronau, gwrthfater electronau. 

Yn dilyn y brifysgol, daeth yn Gymrawd Gwyddoniaeth yn CERN, sef y Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Niwclear,yn Genefa, y Swistir. Yn hwyrach, fe'i penodwyd yn beiriannydd â gofal am wrthdrawydd hadronau cyntaf CERN, a oedd y cyflymydd gronynnau mwyaf pwerus y byd ar yr adeg honno. Daeth â'i arbenigedd 'malu atomau' yn ôl i ddiwydiant y DU i Amersham International PLC i ddatblygu a gweithgynhyrchu isotopau radio ar gyfer cymwysiadau meddygol. Aeth ymlaen i fod yn arbenigwr ag enw rhyngwladol mewn fferylleg ymbelydrol drwy ddefnyddio cyflymyddion cyclotron ac adweithwyr ymchwil niwclear.

Yr Athro Lewis oedd un o wyddonwyr cyntaf y Gorllewin i gael mynediad i'r ddinas gyfrinachol sofietaidd Chelyabinsk-65, ac yn y pen draw, creodd gwmni cyd-fenter isotopau radio â Gweinyddiaeth Ynni Atomig Rwsia.

Bu'n drefnydd y Pwyllgor Isotopau ac Adweithwyr ym Mrwsel am sawl blwyddyn a chafodd ei enwebu’n  Is-lywydd AIPES, Cymdeithas Delweddu Meddygol Diwydiannol Ewrop.

Yn 2010, dychwelodd i Geneva fel Ymgynghorydd Diwydiant CERN a bellach mae'n gweithio gyda phrifysgolion y DU ac asiantaethau Llywodraeth y DU yn ogystal â chwmnïoedd rhyngwladol. Mae'n Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru a'r Sefydliad Ffiseg ac mae ganddo gadair er anrhydedd yng ngholeg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe.

Wrth dderbyn ei wobr er anrhydedd, meddai'r Athro Lewis: "Mae'n fraint o'r mwyaf i mi dderbyn y wobr hon gan fy 'alma mater'.  Dyw e ddim yn teimlo'n hir iawn yn ôl ers i mi gerdded i Gampws Singleton Prifysgol Abertawe am y tro cyntaf gyda'm sach myfyriwr. Gofalodd yr Adran Ffiseg amdana i'n wych yn ystod fy amser yn y Brifysgol, gan gynnig sail i mi ar gyfer gyrfa gydol oes ym maes Ffiseg. Rwyf bob amser wedi cadw mewn cysylltiad â'r Adran ac mae arnaf ddyled benodol i'm cyn-fentor, y diweddar Athro Colyn Grey-Morgan. Diolch yn fawr unwaith eto.”