Mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu gradd er anrhydedd i'r bargyfreithiwr yr Arglwydd Carlile o Aberriw.

Cyflwynwyd y radd i'r Arglwydd Carlile heddiw (17 Rhagfyr 2019) yn ystod seremoni raddio Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton.

Magwyd Alex Carlile yn Rhiwabon, yng ngogledd Cymru, ac yn Sir Gaerhirfryn. Fe'i haddysgwyd yng Ngholeg Epsom ac aeth ymlaen i raddio yn y Gyfraith o Goleg y Brenin Llundain ym 1969. Flwyddyn yn ddiweddarach, fe'i galwyd i'r Bar gan Ysbyty Gray, lle mae'n Feinciwr hyd heddiw, a phenodwyd ef i Gwnsler y Frenhines ym 1984, pan oedd yn 36 oed yn unig. Ef oedd Cofiadur Er Anrhydedd Dinas Henffordd tan 2009, ac mae wedi bod yn Ddirprwy Farnwr yr Uchel Lys, Cofiadur Llys y Goron a Chadeirydd y Tribiwnlys Apeliadau Cystadlu.

Mae wedi ymddangos mewn nifer o achosion nodedig, megis amddiffyniad llwyddiannus bwtler y Dywysoges Diana, Paul Burrell; a'r twyll mwyaf yng Nghyfnewidfa Metel Llundain, R v Rastogi ac eraill. Mae ei brofiad cyfreithiol hefyd yn ymestyn i erlyn ac amddiffyn ugeiniau o achosion o lofruddiaeth, yn ogystal â chyfraith weinyddol, polisi cyhoeddus, a chyfraith ac ymarfer y Senedd. Ar ôl etholiad cyffredinol 1992, ef oedd unig Aelod Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, ac arweiniodd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru tan 1997. Daeth yn Arglwydd Croesfeinciol ym 1999.

Ef oedd yr Aelod Seneddol cyntaf i alw am hawliau i bobl drawsryweddol, a chyda Chynghrair Howard ar gyfer Diwygio Cosbi (sefydliad yr aeth ymlaen i'w gadeirio), arweiniodd Ymchwiliad 2006 i atal corfforol, carchariad unigol a gorfodi noeth-chwilio plant mewn carchardai a chartrefi plant diogel. Roedd yn wrthwynebydd llafar i Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr llywodraeth glymblaid y Deyrnas Gyfunol, ac yn un o bum Arglwydd a wrthwynebodd yn chwyrn gyflwyniad profion modd ar gyfer cyngor heddlu (i dalu costau cyfreithwyr yn ymgynghori mewn gorsafoedd heddlu).

O 2001 tan 2011, ef oedd Adolygwr Annibynnol Deddfwriaeth Terfysgaeth. Mae hefyd wedi bod yn Adolygwr Annibynnol Polisi PREVENT y Llywodraeth, a Pholisi Diogelwch Cenedlaethol yng Ngogledd Iwerddon.

Dyfarnwyd CBE iddo yn 2012 mewn cydnabyddiaeth am ei wasanaethau i ddiogelwch cenedlaethol.  

Mae nawr yn gyfarwyddwr sefydlol SC Strategy Ltd, ymgynghoriaeth strategaeth a pholisi cyhoeddus y sefydlodd gyda Syr John Scarlett, cyn-bennaeth MI6; ac mae'n ymwneud yn weithredol â nifer o sefydliadau, gan gynnwys yr elusen cyffuriau, alcohol a iechyd meddwl Addaction, a'r Gymdeithas Lluman Gwyn. Ef oedd cyd-sefydlwr yr elusen iechyd meddwl pobl ifanc, Rekindle.

Am dderbyn ei radd, dywedodd yr Arglwydd Carlile: "Mae'n anrhydedd mawr derbyn y radd er anrhydedd hon gan Brifysgol Abertawe. Rwy'n edmygu gwaith Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton yn fawr, ac mae'n bleser cyfrannu at ei gwaith. Mae derbyn y radd hon yn cryfhau'r berthynas honno. Rwy'n edrych ymlaen at waith pellach gyda Phrifysgol Abertawe yn y dyfodol."