Mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu gradd er anrhydedd i'r Parchedicaf John D. E. Davies.

Cyflwynwyd y dyfarniad i'r Archesgob John heddiw (18 Rhagfyr 2019) yn seremoni raddio Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau.

Ganwyd yr Archesgob John yng Nghasnewydd. Yn gyn-gyfreithiwr yn arbenigo mewn cyfraith trosedd, cyn ei ordeinio, bu hefyd yn ymwneud â bywyd yr Eglwys ar lefel blwyfol, esgobaethol a thaleithiol.

Ym 1982, aeth o Goleg San Mihangel yn Llandaf, Coleg Diwinyddol Anglicanaidd, i hyfforddi i gael ei ordeinio i'r offeiriadaeth ac i astudio diwinyddiaeth. Ym 1984, cwblhaodd Ddiploma mewn Diwinyddiaeth gyda Phrifysgol Cymru. Yn ddiweddarach, dechreuodd astudiaethau ôl-raddedig mewn Cyfraith Ganon ym Mhrifysgol Caerdydd, a chwblhaodd radd Meistr y Gyfraith (LLM) ym 1995.

Gadawodd y gyfraith i fynd i'r offeiriadaeth, ac fe'i hordeiniwyd ym 1984. Gwasanaethodd Esgobaeth Mynwy mewn amrywiaeth o blwyfydd gwledig, ôl-ddiwydiannol a threfol, a hefyd yn Swyddog Ysgolion yr Esgobaeth a Swyddog Materion Eciwmenaidd. Fe'i penodwyd yn Ddeon Aberhonddu yn 2000, ac yn ystod wyth mlynedd yn y rôl honno, goruchwyliodd welliannau sylweddol yn ffabrig a litwrgi'r Eglwys Gadeiriol. Etholwyd ef yn nawfed Esgob Abertawe ac Aberhonddu yn 2008, yna cafodd ei ethol yn Archesgob Cymru ym mis Medi 2017. Yn dilyn ei orseddiad yn Archesgob, dywedodd ei fod am "adnewyddu gweledigaeth yr Eglwys fel sefydliad er mwyn cefnogi a maethu bywydau'r gymdeithas ehangach".

Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn cyfiawnder cymdeithasol ac mae wedi siarad ar ystod o broblemau, gan gynnwys digartrefedd a thai, problemau gwledig, rhoi organau, cymorth i farw, a thlodi. Mae wedi cynnal ei ddiddordeb brwd ym materion troseddu a chosbi, gyda phryder penodol ynghylch amodau carchardai, triniaeth ac adsefydlu troseddwyr, natur troseddoldeb, ac effeithiau safonau cymdeithasol ac addysgol gwael. Wedi bod yn gadeirydd ymddiriedolwyr hosbis fawr yng Nghasnewydd, mae hefyd yn pryderu ynghylch darpariaeth deg gofal iechyd, yn bennaf i'r rhai sydd ar ddiwedd eu hoes.

Wedi derbyn ei ddyfarniad, dywedodd yr Archesgob John, "Rwy'n teimlo'n ostyngedig ac yn ddiolchgar bod Prifysgol Abertawe wedi penderfynu fy anrhydeddu yn y modd hwn. I mi, mae arwyddocâd personol ac eithaf hiraethus i'r dyfarniad, oherwydd graddiodd fy nhad, a fu farw ar ddiwedd Mehefin eleni, ym 1947 o Goleg Prifysgol Cymru, Abertawe fel yr oedd bryd hynny. Roedd yn hynod falch o'r ffordd y tyfodd y Brifysgol mewn maint ac enw da dros y blynyddoedd, a byddai wedi bod wrth ei fodd o'r dyfarniad yr wyf mor falch o'i dderbyn. Rwy'n edrych ymlaen at weld enw da'r Brifysgol yn parhau i dyfu ac rwy'n croesawu ei chyfraniad at gymuned ac economi leol Abertawe. Yn benodol, croesawaf gydweithrediad awdurdodau'r Brifysgol mewn datblygu gwasanaeth Caplaniaeth sensitif a chroesawgar sy'n ceisio cynnig cefnogaeth fugeiliol a phersonol i fyfyrwyr a staff mewn amrywiaeth o amgylchiadau a sefyllfaoedd."