Mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu gradd er anrhydedd i'r diddanwr enwog o Gymru, Dewi Pws Morris. 

Cafodd y dyfarniad ei gyflwyno i Mr Morris heddiw (18 Rhagfyr 2018) yn seremoni raddio'r Brifysgol ar gyfer Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton.

Cafodd Dewi ei eni a'i fagu ym mhentref Treboeth ger Abertawe. Ei enw oedd Dewi Gray Morris, ond o oedran ifanc iawn – er mwyn ei wahaniaethu rhag bechgyn eraill o'r enw Dewi – mae wedi cael ei adnabod ledled Cymru fel Dewi Pws, a dyma'r enw sy'n adnabyddus i bawb heddiw.

Cafodd ei addysgu yn ysgol gynradd ac iau cyfrwng Cymraeg Lôn Las ac Ysgol Ramadeg Dinefwr yn Abertawe. Wedi hynny, aeth i Goleg Cyncoed i hyfforddi'n athro a bu'n dysgu am rai blynyddoedd yn y Sblot, Caerdydd ar ôl iddo gymhwyso. 

Ar ôl addysgu, symudodd i fyd adloniant a dangos i bawb fod ganddo ddawn yn gerddor, yn gyfansoddwr, yn fardd, yn awdur, yn actor ac yn bersonoliaeth ar y teledu a'r radio. Mae'r rhan fwyaf o'r hyn y mae wedi'i gynhyrchu wedi bod drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys y ffilm deledu eiconig "Grand Slam" ym 1978. Ymysg rolau actio eraill, mae dramâu unigol, ffilmiau ac operâu sebon (yn Gymraeg ac yn Saesneg) – Taff Acre, Pobol Y Cwm a Rownd a Rownd.

Dyfarnwyd y wobr am y "Cyflwynydd Rhanbarthol Gorau" iddo yn 2003 am ei gyfres "Byd Pws" gan y Gymdeithas Deledu Frenhinol. 

Mae'n fardd medrus ac wedi ymddangos ar raglen gystadleuaeth farddoni Radio Cymru, Talwrn y Beirdd. Cafodd ei enwebu yn Fardd Plant Cymru yn 2010. Mae wedi ysgrifennu mwy na dwsin o lyfrau a llawer ohonynt i blant, ac roedd yn Gyflwynydd Gwadd ar gyfer yr Ŵyl Lenyddiaeth i Blant yng Nghaerdydd yn 2016. 

Roedd  yn un o aelodau sefydlu'r grŵp Y Tebot Piws, ac yn ddiweddarach, ymunodd â'r band roc chwyldroadol Cymreig, Edward H Dafis. Mae'n gyfansoddwr caneuon nodedig ac efe a gyfansoddodd y gân enwog o Gymru - Lleucu Llwyd - sy'n cael ei hystyried yn un o ganeuon gorau Cymru. Mae'n ymddiddori mewn creu cerddoriaeth o hyd a dros y blynyddoedd diwethaf mae wedi chwarae gyda'r band pync-gwerin Radwm ac mae wedi ymddangos ar lwyfan gyda'r banc gwerin Ar Log.

Yn 2018, fe’i dewiswyd yn feirniad gwadd ar gyfer "Cân i Gymru 2018" i S4C a'i brosiect mwyaf diweddar oedd y comedi tywyll "Toll" i Western Edge Pictures a gafodd ei ffilmio yng Nghaerdydd ac yn Sir Benfro a fydd yn cael ei ddangos am y tro cyntaf yn 2019. 

Wrth dderbyn ei ddyfarniad, dywedodd Dewi Pws Morris: “Mae’n hyfryd i ddychwelyd i’r ddinas lle gês i fy ‘ngeni i dderbyn yr anrhydedd hollol annisgwyl hon (a ‘sdim rhaid i fi ddysgu sgript!). Yma yn Abertawe ges i fy addysg gynnar lle ddysgais fod Cymru a’r  iaith Gymraeg yn bwysig i mi, a hefyd sut i adeiladu cestyll tywod gore’r byd.”