Chris Martin

Mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu gradd er anrhydedd i'r entrepreneur llwyddiannus o Gymru, Chris Martin.

Cafodd y dyfarniad ei gyflwyno i Mr Martin heddiw (18 Rhagfyr 2018) yn seremoni raddio'r Brifysgol ar gyfer yr Ysgol Reolaeth. 

Dechreuodd Chris Martin, a aned yn Sir Benfro, ei yrfa gynnar gyda Boots y Fferyllfa, ond daeth i sylweddoli'n fuan ei fod eisiau rhedeg ei fusnes ei hun. Aeth ymlaen i sefydlu dau fusnes fferyllfa annibynnol a llwyddiannus yn y gymuned – un yn Ne-orllewin Lloegr a'r ail yn Sir Benfro gyda'i wraig Amanda.

Mae ganddo brofiad helaeth yn y sector cyhoeddus ar ôl bod yn Gadeirydd pedwar sefydliad iechyd yng ngorllewin Cymru dros gyfnod o bymtheng mlynedd. Pan wnaeth ymddeol ym mis Mehefin 2014, roedd yn Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Cydffederasiwn GIG Cymru, ac yn Gadeirydd cydlynol pob sefydliad iechyd yng Nghymru. Dyma'r adeg y dechreuodd gydweithio â Phrifysgol Abertawe – perthynas hir a chynhyrchiol – gan bleidio dros yr Ysgol Feddygol, a chan gefnogi datblygiad Ysgol Fferylliaeth newydd yn Abertawe yn fwy diweddar. 

Mae'n aelod o Fwrdd Ymgynghorol Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe ac ef yw Dirprwy Gadeirydd Comisiwn Bevan, melin drafod o fri rhyngwladol a gynhelir gan Ysgol Reolaeth y Brifysgol, ac mae'n un o leisiau pennaf Academi Comisiwn Bevan sy'n hyrwyddo newid trawsffurfiol ar draws y GIG yng Nghymru.

Ac yntau'n Gadeirydd Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau, y porthladd ynni mwyaf yn y DU, mae wedi cefnogi Bargen Ddinesig Bae Abertawe, gwerth £1.3bn ac yn benodol Hwb Morol Doc Penfro, gwerth £78m sef y prosiect blaenllaw yn Sir Benfro.

Mae'n Rheolwr Gyfarwyddwr ei gwmni datblygu eiddo ei hun, yn ymgynghorydd anweithredol Alliance Healthcare sef y cyfanwerthwr fferyllol mwyaf yn y DU, yn Gadeirydd ac yn Gyfarwyddwr Anweithredol Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol yn Llywodraeth Cymru.

Mae ganddo sawl rôl wirfoddol ac elusennol, ac mae'n falch iawn o fod yn Ymddiriedolwr ac yn Gyfarwyddwr Marie Curie y DU, yn Llywodraethwr Coleg Sir Benfro ac yn Gadeirydd Bwrdd Ymgynghorol Marie Curie yng Nghymru.

Dyfarnwyd cymrodoriaeth iddo gan Gymdeithas Fferyllol Frenhinol Prydain Fawr yn 2006 am ei gyfraniad eithriadol i ymarfer y gymuned fferyllol.

Wrth dderbyn ei ddyfarniad, dywedodd Chris Martin: "Rwyf wrth fy modd ac yn teimlo'n falch iawn o dderbyn y gydnabyddiaeth fawreddog hon gan un o sefydliadau addysgol blaenllaw’r  DU. Mae'n bleser ac yn fraint o hyd gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr proffesiynol ym Mhrifysgol Abertawe, ac yn benodol â'r tîm gwych yn yr Ysgol Reolaeth. Pleser o'r mwyaf yw derbyn y radd er anrhydedd hon, a byddaf yn trysori'r diwrnod hwn am flynyddoedd lawer."