Gwyddor Data, MSc

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Student in the maker Lab

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd ein gradd MSc mewn Gwyddor Data yn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn cysyniadau a thechnolegau gwyddor data ar gyfer echdynnu gwybodaeth ac adeiladu gwybodaeth o ddata.

Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar dair thema graidd sef cloddio data, dysgu peirianyddol, a delweddu.

Byddwch yn astudio egwyddorion, dulliau a systemau cyfrifiadurol ar gyfer amrywiaeth o gymwysiadau byd go iawn sy'n gofyn am sylfeini mathemategol, sgiliau rhaglennu, meddwl beirniadol a dyfeisgarwch.

Gyda setiau data mawr bellach ar gael ar draws bron pob sector diwydiant, mae galw cynyddol am dechnolegau newydd arloesol a gwyddonwyr data medrus.

Sylwer, nid yw’r MSc mewn Gwyddor Data , yn briodol ar gyfer y rhai hynny heb radd israddedig mewn Cyfrifiadureg (neu gyfwerth - gweler y gofynion mynediad isod). Gweler Gwyddor Data Gymhwysol, MSc, lle na fydd angen gradd israddedig mewn Cyfrifiadureg neu Fathemateg (neu gyfwerth) arnoch.

Pam Gwyddor Data yn Abertawe?

Byddwch wedi'ch lleoli yn ein Ffowndri Gyfrifiadurol gwerth £32.5m, sydd wrth wraidd y cwrs hwn, ac yn ganolbwynt  cymuned fywiog ar gyfer arweinwyr ymchwil o'r radd flaenaf mewn cyfrifiadureg.

Mae ein hoffer addysgu ac ymchwil soffistigedig yn cynnwys Labordy Gweledigaeth a Biometrig, Labordy Gwneuthurwyr, Labordy Damcaniaeth, Labordy Seiberddiogelwch/Rhwydweithio, Labordy Defnyddwyr ac Ystafell Ddelweddu.

Cydnabyddir Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe yn adran flaenllaw yn y DU, ac mae mewn safle nodedig mewn llu o dablau sy’n adlewyrchu rhagoriaeth ymchwil ac addysgu. 

Mae'r rhaglen hon wedi'i rhestru ar hyn o bryd yn y safleoedd canlynol:

  • Ymysg y 201-250 gorau yn y byd (Tabl Prifysgolion y Byd 2025)
  • 201-250 yn y Byd ar gyfer Cyfrifiadureg a Systemau Gwybodaeth (Tablau Prifysgolion y Byd QS fesul Pwnc 2025), ac mae gennym ni
  • Sgoriau 100% Yn arwain y ffordd yn fyd-eang ac yn rhagorol yn Rhyngwladol ar gyfer Effaith Ymchwil (REF 2021), ac mae
  • 90% o'n gwaith ymchwil o safon fyd-eang ac yn rhagorol yn rhyngwladol (REF 2021)

Byddwch yn cael eich addysgu gan staff o grwpiau ymchwil Deallusrwydd Artiffisial o fri rhyngwladol, gan gynnwys yr Athro Matt Jones, sydd wedi cael Cymrodoriaeth bersonol pum mlynedd nodedig gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC)  yn ddiweddar i ddilyn agenda ymchwil Deallusrwydd Artiffisial anturus ac uchelgeisiol.

Mae ein gwybodaeth gyfunol am ddatblygiadau parhaus ym maes Deallusrwydd Artiffisial yn helpu i gadw’r hyn a ddysgir gennych yn gyfoes ac yn berthnasol i’r diwydiant yn ehangach.

Eich Profiad Gwyddoniaeth Data

I ddechrau byddwch yn ymgymryd â chyfres o fodiwlau, y bydd nifer ohonynt yn rhai gorfodol a rhai eraill y byddwch yn eu dewis. Mae cam nesaf y radd MSc yn cael ei lunio gan fodiwl prosiect mawr.

Mae datblygu sgiliau ymchwil yn elfen hanfodol o'r cwrs, gan eich galluogi i ddod â phersbectif beirniadol i ddisgyblaeth gwyddor data gyfredol, a'i gymhwyso i ddatblygiadau yn y dyfodol.

Rydych chi'n dysgu sut i gloddio data strwythuredig a data anstrwythuredig, gan ennill profiad ymarferol o gloddio data ochr yn ochr â dealltwriaeth systematig o ddata cymhleth a heterogenaidd.

Bydd technegau dysgu peirianyddol confensiynol ac o’r radd flaenaf yn cael eu dysgu drwy gymhwyso dulliau a thechnegau i syntheseiddio atebion.

Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn hyderus wrth gymhwyso cysyniadau mewn delweddu data, delweddu gwybodaeth, a dadansoddeg weledol i gefnogi prosesu data a darganfod gwybodaeth.

Dros gyfnod y cwrs hwn, byddwch yn cael eich addysgu gan staff o grwpiau ymchwil ag enw rhyngwladol. Mae eu gwybodaeth am ddatblygiadau cyson ym maes cyfrifiadureg yn helpu i gadw'r hyn a ddysgwch yn gyfoes ac yn berthnasol i'r diwydiant ehangach.

Yn ogystal, adlewyrchir ein hymrwymiad i ddilyn datblygiadau technoleg yn y caledwedd y byddwch chi'n gweithio gydag ef bob dydd.

Caiff ein labordai yn Abertawe eu hadnewyddu'n barhaus i sicrhau na fydd cyfarpar byth yn fwy na thair blwydd oed, ac yn brin iawn yn fwy na dwy flwydd oed. Mae tri labordy wedi'u cysylltu'n llawn yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd. Mae un yn cynnig Windows, un arall yn cynnig Linux ac mae’r trydydd labordy prosiect yn cynnwys cyfarpar arbenigol.

Cyfleoedd Cyflogaeth Gwyddoniaeth Data

Mae ystod o sgiliau cyflogadwyedd a rhinweddau personol wedi'u hymgorffori ym mhob un o'r modiwlau a'r rhaglen. Mae'r rhain yn cynnwys sgiliau rhaglennu, trin setiau data mawr, datrys problemau, defnyddio algorithmau newydd, a'r gallu i nodi ffynonellau data fel yr heriau y mae ymarferwyr o ddisgyblaethau eraill yn eu hwynebu.

Mae gan Wyddor Data ffocws cryf ar ofynion penodol gyrfa yn y diwydiant modern. Yn ymarferol, rydym yn disgwyl i lawer o raddedigion ddechrau gyrfaoedd nid yn unig yn y diwydiant cyfrifiadureg, ond hefyd mewn pynciau gwyddonol cymhwysol fel meddygaeth, sy'n ymdrin yn naturiol â symiau mawr o ddata.

Mae cwblhau'r radd MSc hon yn gwella eich rhagolygon gyrfa ym maes gwyddor data yn sylweddol. Mae ein graddedigion yn aml yn symud ymlaen i gyflogaeth werth chweil mewn sefydliadau uchel eu parch. Ceir rhestr isod o nifer o gyrchfannau diweddar:

  • Datblygwr Llif Gwaith, Irwin Mitchell
  • Rhaglennydd, Evil Twin Artworks
  • Datblygwr Gwe a Chymorth Gwe, VSI Thinking
  • Datblygwr Meddalwedd, Wireless Innovations
  • Dadansoddwr Rhaglenni Busnes Cyswllt, CDC Software
  • Datblygwr Meddalwedd, OpenBet Technologies
  • Datblygwr Meddalwedd, BMJ Group

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.