Peirianneg Bwer ac Ynni Cynaliadwy, MSc

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Active building

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r cwrs MSc mewn Peirianneg Pŵer ac Ynni Cynaliadwy yn sicrhau eich bod yn meddu ar wybodaeth gadarn am ddyfeisiau a thechnolegau lled-ddargludol, electroneg pŵer uwch a systemau pŵer uwch.

Byddwch hefyd yn dysgu am dechnolegau cynhyrchu ynni adnewyddadwy, electroneg bylchau band eang, cynaeafu ynni, celloedd solar a biodanwyddau.

Mae pryderon cynyddol am allyriadau nwyon tŷ gwydr a chynhesu byd-eang yn golygu bod peirianneg pŵer ac ynni cynaliadwy yn bwnc hollbwysig.

Mae'r cwrs hwn yn cynnig cyfle i chi wneud blwyddyn ychwanegol ar gyfer Prosiect neu Leoliad Gwaith ym myd diwydiant, gan roi profiad gwaith gwerthfawr i chi a'r cyfle i wella sgiliau technegol a rhyngbersonol.

Ffïoedd cwrs yr ail flwyddyn Lleoliad Gwaith ym myd diwydiant yw £3600 i fyfyrwyr rhyngwladol a £1800 i fyfyrwyr cartref. Bellach rydym yn gallu cynnig bwrsariaethau sy'n seiliedig ar berfformiad academaidd i gyfrannu at ffïoedd cwrs yr ail flwyddyn.Am ragor o wybodaeth, ewch i'n tudalen MSc gyda Blwyddyn mewn Diwydiant.

Darperir cymorth ac arweiniad i'ch helpu i sicrhau eich lleoliad gwaith; fodd bynnag nid yw wedi'i warantu.

Pam Peirianneg Bwer ac Ynni Cynaliadwy yn Abertawe?

Wedi'i lleoli ar ein Campws y Bae arfordirol, sy'n edrych dros Fae Abertawe, mae gan Beirianneg yn Abertawe enw da rhyngwladol am ymchwil ac addysgu arloesol mewn ynni trydanol ac electroneg, yn ogystal â deunyddiau lled-ddargludol uwch. Caiff ein hanes cadarn ei adlewyrchu yn ein canlyniadau ardderchog i raddedigion, gyda 93% o raddedigion Peirianneg Electronig a Thrydanol mewn cyflogaeth neu’n ymgymryd ag astudiaethau pellach o fewn 15 mis ar ôl gadael Prifysgol Abertawe (HESA, 2025).

Mae gennym enw rhagorol rhyngwladol am ymchwil trydanol ac electroneg ym maes ynni a deunyddiau a dyfeisiau lled-ddargludol uwch. Byddwch hefyd yn archwilio datblygiadau cyffrous newydd megis electroneg bylchau band eang, cynaeafu ynni, celloedd solar a biodanwyddau, ochr yn ochr â datblygiadau diweddar mewn electroneg pŵer.

Rydym hefyd yn cynnig MSc mewn Peirianneg Electronig a Thrydanol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant ychwanegol opsiynol.

Eich Profiad Peirianneg Bwer ac Ynni Cynaliadwy

Ar y rhaglen hon, byddwch yn archwilio systemau pŵer uwch a thechnolegau lled-ddargludol sy'n torri tir newydd wrth archwilio'r datblygiadau diweddaraf mewn meysydd megis ynni adnewyddadwy, electroneg bylchau band eang, celloedd solar a chynaeafu ynni. Byddwch yn meithrin dealltwriaeth gref o sut mae'r technolegau hyn yn dylanwadu ar beirianneg electronig a thrydanol, a sut maen nhw'n cael eu cymhwyso mewn systemau byd go iawn.

Byddwch yn dysgu mewn amgylchedd astudio ardderchog gyda mynediad at lyfrgell 24 awr y dydd ar y safle, labordai uwch, offer arbenigol, ystafelloedd gwaith penodedig i fyfyrwyr ôl-raddedig a rhaglen drwy gydol y flwyddyn o ddarlithoedd gwadd gan arbenigwyr y diwydiant a'r byd ymchwil. Mae'r cyfleusterau a'r profiadau hyn wedi'u dylunio i gefnogi eich dysgu, eich ymchwil a'ch datblygiad proffesiynol trwy gydol eich astudiaethau.

Byddwch hefyd yn rhan o gymuned myfyrwyr ffyniannus a chefnogol. Mae cymdeithas Peirianneg Electronig a Thrydanol y myfyrwyr yn chwarae rôl allweddol wrth eich helpu chi i gysylltu ag eraill ar eich cwrs, gan gynnig cyfleoedd i gwrdd â phobl newydd trwy ddigwyddiadau rheolaidd, tripiau maes, gweithdai technegol a gweithgareddau cymdeithasol. Mae'r profiadau hyn yn eich helpu i feithrin cyfeillgarwch, i gydweithio ar syniadau ac ehangu eich dealltwriaeth o'r pwnc y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth.

Mae'r rhaglen hon yn annog amrywiaeth ac yn hyrwyddo amgylchedd dysgu parchus, cynhwysol lle mae pob myfyriwr yn cael ei werthfawrogi. Beth bynnag yw eich cefndir neu brofiad blaenorol, byddwch chi'n cael eich annog i rannu eich syniadau, cymryd rhan mewn trafodaethau a chyfrannu at ddiwylliant dysgu cadarnhaol a chydweithredol.

Cyfleoedd Cyflogaeth Peirianneg Bwer ac Ynni Cynaliadwy

Fel myfyriwr graddedig y cwrs MSc mewn Peirianneg Pŵer ac Ynni Cynaliadwy, byddwch wedi'ch paratoi'n dda ar gyfer ystod eang o rolau arbenigol ar draws y sectorau ynni a pheirianneg. Mae'r sgiliau technegol uwch a'r profiad ymarferol rydych chi'n eu hennill yn ystod eich astudiaethau'n agor drysau i yrfaoedd mewn meysydd megis:

  • Peirianneg rheoli ac offeryniaeth
  • Peirianneg drydanol
  • Ymgynghoriaeth TG
  • Peirianneg rwydweithio
  • Dadansoddi systemau
  • Peirianneg daeareg

Bydd gennych chi'r sgiliau i weithio mewn sefydliadau sy'n amrywio o fusnesau bach a chanolig arloesol i gwmnïau amlwladol mawr, ar draws sectorau sy'n dibynnu ar arbenigedd mewn peirianneg electronig a thrydanol. Mae llawer o gyflogwyr yn ymgysylltu'n weithredol â'n myfyrwyr drwy ddiwrnodau sgiliau, gweithdai a digwyddiadau recriwtio, gan roi cyfleoedd gwerthfawr i chi feithrin cysylltiadau ac ennill gwybodaeth am y diwydiant.

Mae'r cwmnïau sy'n ymgysylltu, yn recriwtio ac yn cydweithio â'n myfyrwyr yn cynnwys sefydliadau megis Ymddiriedolaeth Ysbyty Prifysgol AMB, Arup, Infineon, Magstim, Mesuro, Microsemi, Nissan, SPTS, Thyssenkrupp, UltraElectronics, Würth, Tata Steel, GE, Renishaw, Rohde & Schwarz, Airbus a Silver Wing. Mae cyflogwyr nodedig eraill sydd wedi cyflogi ein graddedigion yn cynnwys Land Rover, Qinetiq a Horiba Mira, sy'n adlewyrchu'r ystod eang o ddiwydiannau sy'n gwerthfawrogi'r sgiliau a ddatblygir ar y rhaglen hon.

Gyda chysylltiadau cryf â byd diwydiant a chwricwlwm sy'n adlewyrchu heriau peirianneg go iawn, mae'r rhaglen hon yn rhoi'r sylfaen sydd ei hangen arnoch i ddilyn gyrfa gyffrous sy'n cael effaith mewn peirianneg pŵer, ynni cynaliadwy a thu hwnt.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.