Peirianneg Fecanyddol, MSc

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Racing car

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein MSc mewn Peirianneg Fecanyddol yn rhoi dealltwriaeth gynhwysfawr i chi o dechnegau peirianneg fecanyddol modern, gan eich cyflwyno i enghreifftiau o bob disgyblaeth a diwydiant.

Mae'r rhaglen hon yn darparu addysg ôl-raddedig sy'n seiliedig ar ymchwil ac sy'n cyd-fynd â'r diwydiant. Mae'n datblygu eich gallu technegol uwch a'ch sgiliau dylunio creadigol, wrth wella eich barn broffesiynol, yn barod ar gyfer ymarfer peirianneg modern.

Mae'r cwrs yn adlewyrchu strwythur ein llwybr MEng wrth gynnig modiwlau arbenigol ar lefel MSc sy'n darparu dysgu dyfnach o safbwynt dadansoddol a chynaliadwy a chan ganolbwyntio ar ymchwil.

Mae gennych hefyd y cyfle i ymgymryd â blwyddyn ychwanegol ar gyfer lleoliad gwaith neu brosiect yn y diwydiant, gan roi profiad gwaith ychwanegol gwerthfawr i chi.

Pam Peirianneg Fecanyddol ym Mhrifysgol Abertawe?

Byddwch yn astudio ar Gampws y Bae, ein campws arfordirol sy'n edrych dros Fae Abertawe ar gyrion Penrhyn Gŵyr, lle bydd eich dysgu yn cael ei gyfoethogi drwy gael mynediad uniongyrchol at gyfleusterau o'r radd flaenaf.  Byddwch yn cael y cyfle i weithio mewn labordai blaengar fel ein Labordy Mecaneg Dynameg, ein Labordy Hylifau, ac Ystafell Profi Peiriannau JetCat P120. Gallwch hefyd hogi eich sgiliau gyda'n hunedau gweithgynhyrchu digidol a roboteg, gan sicrhau eich bod bob amser ar flaen y gad o ran datblygiadau technolegol.

Nid yw ein rhaglen Peirianneg Fecanyddol yn addysgu damcaniaeth yn unig; mae'n rhoi i chi'r profiad ymarferol sy'n eich gwneud chi'n ddeniadol yn y farchnad swyddi. Byddwch yn datblygu eich sgiliau dadansoddol a datrys problemau wrth gael cyfle amhrisiadwy i fynd i’r afael â heriau peirianneg y byd go iawn.

Yn Abertawe, rydym yn cydweithio'n agos â chwmnïau mawr megis Tata Steel a Ford, yn ogystal â chyda chwmnïau bach a chanolig. Rydym wedi gweithio gydag Astra-Zeneca, British Aerospace, Qinetiq, GKN, Rolls-Royce, SKF, Freeport, One Steel a Barrick Gold.

Eich profiad ym maes Peirianneg Fecanyddol

Mae'r cwrs MSc hwn yn flaengar ac yn canolbwyntio ar ymarfer. Byddwch yn gallu estyn eich gwybodaeth am beirianneg drwy sesiynau labordy, efelychu, prototeipio, gweithgareddau a arweinir gan ddylunio a thraethawd hir sylweddol, wrth atgyfnerthu eich sgiliau cyfathrebu, gwaith tîm ac ymchwil yn ogystal â'ch cyfrifoldeb proffesiynol. Bydd hyn yn eich paratoi ar gyfer ymarfer rhyngddisgyblaethol, rolau arweinyddiaeth a dilyniant tuag at gyflawni statws Peiriannydd Siartredig.

Mae'r addysgu yn tynnu ar Wyddor Peirianneg graidd, ac mae'n cael ei gyfoethogi gan bynciau fel Dylunio Cynaliadwy, Dylunio'n Seiliedig ar Efelychu, Rheoli Busnes, Peirianneg Gynaliadwy a Chymdeithasol, Systemau a Pholisi Ynni Cymhwysol, a Systemau Gweithgynhyrchu Uwch. Mae'r amrywiaeth hon yn eich galluogi i gysylltu damcaniaeth uwch â heriau peirianneg go iawn ar draws cynaliadwyedd, dylunio digidol, trawsnewid ynni a gweithgynhyrchu’r dyfodol.

Rydym yn darparu rhaglen o ddarlithoedd gwadd drwy gydol y flwyddyn, sy'n rhoi cyfle i chi ddyfnhau eich gwybodaeth a meithrin dealltwriaeth werthfawr o'r diwydiant. Hefyd, gallwch fanteisio ar ein cyfleusterau o'r radd flaenaf, gan gynnwys ein labordai uwch, ein llyfrgell ar y safle ac ystafelloedd gwaith ôl-raddedig pwrpasol.

Cyfleoedd cyflogaeth ym maes Peirianneg Fecanyddol

Mae ein MSc mewn Peirianneg Fecanyddol yn rhoi i chi'r wybodaeth dechnegol uwch, y gallu dadansoddol a'r ymddygiadau proffesiynol sydd eu hangen ar gyfer rolau ar lefel uchel ar draws y sector peirianneg.

Byddwch yn dysgu dehongli data meintiol ac ansoddol cymhleth, gwerthuso gofynion dylunio cystadleuol a llunio barn gadarn am beirianneg mewn cyd-destunau ansicr, amlddisgyblaethol neu sy'n newid yn gyflym.

Drwy waith labordy, gweithgareddau dylunio, dysgu'n seiliedig ar efelychu, a phrosiectau dylunio sylweddol ar sail unigol a/neu mewn grŵp, byddwch yn ennill profiad o ddatrys problemau, creadigrwydd, prototeipio, a gwneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Mae'r cwricwlwm yn eich annog i archwilio technolegau sy'n dod i'r amlwg a heriau peirianneg byd-eang, gan gynnwys gweithgynhyrchu digidol, roboteg, systemau ynni cynaliadwy, ymagweddau economi gylchol, a dylunio sy'n cael ei lywio gan ddata. Mae hyn yn meithrin arloesi a meddwl entrepreneuraidd, gan eich galluogi i nodi cyfleoedd ar gyfer cynhyrchion newydd, prosesau peirianneg gwell neu atebion wedi'u llywio gan dechnoleg i anghenion diwydiannol a chymdeithasol.

O ganlyniad, mae graddedigion wedi'u paratoi'n dda ar gyfer gyrfaoedd yn y sectorau mecanyddol, gweithgynhyrchu, ynni, trafnidiaeth, modurol ac ymgynghori, yn ogystal ag ar gyfer rolau ymchwil a datblygu technoleg. Byddwch yn gadael â'r blaengarwch, y gallu i addasu a'r ymwybyddiaeth broffesiynol sydd eu hangen i symud ymlaen tuag at statws Peiriannydd Siartredig, ac i gyfrannu'n hyderus at sefydliadau sefydledig neu fentrau peirianneg newydd.

Mae graddedigion Peirianneg Fecanyddol ar y trywydd iawn i fanteisio ar ystod o gyfleoedd gyrfa cyffrous, a allai fod yn unrhyw un o'r rolau canlynol:

  • Peiriannydd Modurol
  • Peiriannydd Awyrofod
  • Peiriannydd Gweithgynhyrchu
  • Peiriannydd Ynni Adnewyddadwy
  • Peiriannydd Roboteg
  • Peiriannydd Datblygu Cynnyrch
  • Peiriannydd Strwythurol
  • Arbenigwr Ymchwil a Datblygu
  • Peiriannydd Systemau
  • Rolau Ymgynghori a Rheoli Prosiectau

Mae graddedigion ein rhaglen yn cychwyn ar yrfaoedd amrywiol mewn diwydiannau sy'n amrywio o awyrofod i foduro, ynni i roboteg, gyda chyflogwyr blaenllaw fel:

  • Tata Steel
  • Rolls-Royce
  • Jaguar Land Rover
  • BP
  • GE Aviation
  • Ford
  • Babcock International Group

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.