Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r MSc mewn Peirianneg Fecanyddol yn cynnig dealltwriaeth gynhwysfawr o dechnegau peirianneg fecanyddol modern, gan gyflwyno enghreifftiau o wahanol ddisgyblaethau a diwydiannau.
Mae'r cwrs hwn yn cynnig rhagolygon ardderchog ar gyfer y dyfodol ac yn ddelfrydol os ydych wedi cwblhau gradd israddedig ac yn awyddus i ddatblygu eich gwybodaeth cyn chwilio am waith.
Byddwch yn ymdrin â phynciau sy'n cynnwys adnoddau peirianneg fecanyddol, technegau datrys problemau, llunio data arbrofol a chymwysiadau go iawn. Bydd eich prosiect ymchwil yn hynod berthnasol i ddiwydiant.
Mae'r cwrs hwn yn cynnig cyfle i chi wneud ail flwyddyn ychwanegol ar gyfer Prosiect neu Leoliad Gwaith ym myd diwydiant, gan roi profiad gwaith gwerthfawr i chi a'r cyfle i wella sgiliau technegol a rhyngbersonol.
Mae cymorth ac arweiniad ar gael i helpu i sicrhau eich lleoliad gwaith ond nid yw hyn wedi'i warantu. Ffioedd cwrs yr ail flwyddyn yw £3120 i fyfyrwyr rhyngwladol a £1800 i fyfyrwyr cartref. Gweler rhagor o fanylion am Sut i Gyflwyno Cais am yr MSc gyda Diwydiant isod.