Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r radd MSc mewn Peirianneg Ymasiad wedi'i chynllunio fel rhaglen ryngddisgyblaethol sy'n trafod agweddau ar wyddor a thechnoleg ymasiad, peirianneg thermo-hylifau tymheredd uchel, deunyddiau perfformiad uchel, cadernid adeileddol, efelychu a modelu cyfrifiadol uwch, ochr yn ochr â'r sgiliau rheoli peirianneg sy'n ofynnol ar gyfer prosiectau cymhleth o'r fath.
Mae'r radd wedi’i chynllunio ar y cyd gan Abertawe a sector ymasiad niwclear datblygol y DU a'i chydlynu drwy Awdurdod Ynni Atomig y DU (UKAEA). Mae'r rhaglen yn ddelfrydol i fyfyrwyr sydd am gyfuno eu gwybodaeth academaidd sylfaenol mewn Peirianneg neu yn y Gwyddorau Ffisegol â heriau trawsddisgyblaethol sylweddol o'r byd go iawn.
Mae ein rhaglen yn canolbwyntio'n gryf ar ddatblygu'r sgiliau a'r priodoleddau sy'n angenrheidiol ar gyfer gyrfa broffesiynol mewn peirianneg, gan gynnwys gwaith tîm, dylunio, sgiliau ymarferol a chyfathrebu, rheoli prosiectau, arweinyddiaeth a dysgu hunangyfeiriedig.
Mae ein cydweithredu agos ag UKAEA a'r sector ymasiad ehangach yn cynnwys darlithoedd gwadd wedi'u traddodi gan weithwyr proffesiynol UKAEA a phrosiectau cydweithredol, sy’n rhoi i ddysgwyr ddealltwriaeth gyfoes o ymarfer presennol y diwydiant a datblygiadau newydd yn y maes.