Dyddiad cau: 31 Gorffennaf 2026
Gwybodaeth Allweddol
Ar agor i: Ymgeiswyr sy’n gymwys i dalu ffioedd y DU yn unig
Darparwyr y cyllid: Awdurdod Ynni Atomig y Deyrnas Unedig (Rhaglenni Foster)
Y meysydd pwnc: MSc mewn Peirianneg Ymasiad
Dyddiadau dechrau'r prosiect: Medi 2026
Dull astudio: Amser llawn
Man Astudio: Prifysgol Abertawe (Campus Y Bae)
Cymhwyster
I wneud cais am yr ysgoloriaeth hon, mae'n rhaid i ymgeiswyr fodloni'r meini prawf canlynol:
- Yn gwneud cais am y rhaglen MSc mewn Peirianneg Ymasiad
- Â'r hawl i weithio yn y DU, nad yw’n ddibynnol ar fisa myfyriwr neu gwblhau'r cwrs MSc
- Wedi ennill, neu’n disgwyl ennill, radd israddedig dosbarth 1af neu 2:1 yn y DU (neu gymhwyster rhyngwladol cyfwerth)
- Yn dechrau eu cwrs MSc yn hydref 2026. Ni fydd myfyrwyr sy'n cyflwyno cais yn 2026/27 am fynediad wedi'i ohirio yn gymwys ar gyfer y dyfarniad hwn ond byddant yn cael gwybod am yr ysgoloriaethau sydd ar gael iddynt yn eu blwyddyn mynediad.
- I fod yn gymwys am yr ysgoloriaeth ehangu mynediad, mae'n rhaid i chi fodloni o leiaf un o'r meini prawf ar gyfer grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Gall y diffiniad o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol gyfeirio at: rywedd, oedran, treftadaeth ethnig, myfyrwyr ag anableddau, neu sydd angen cyllid ychwanegol i gefnogi dysgu cynhwysol, myfyrwyr LHDTC+, a myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig a allai gael trafferth dod o hyd i'r lefelau o gyllid sydd eu hangen i gwblhau eu hastudiaethau. Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr. Sylwer, gallem ofyn am ragor o wybodaeth i gefnogi rhai o'r meini prawf.
Cyllid
Gwerth pob ysgoloriaeth yw £11,500, sy'n cael ei dyfarnu fel bwrsariaeth fisol. Mae cyfanswm o saith dyfarniad ar gyfer 2026/27. Yn ogystal, rydym yn cynnig tair ysgoloriaeth gwerth £21,500 i ehangu mynediad i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Gall y diffiniad o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol gyfeirio at: rywedd, oedran, treftadaeth ethnig, myfyrwyr ag anableddau, neu sydd angen cyllid ychwanegol i gefnogi dysgu cynhwysol, myfyrwyr LHDTC+, a myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig a allai gael trafferth dod o hyd i'r lefelau o gyllid sydd eu hangen i gwblhau eu hastudiaethau. Nid yw hon yn rhestr gynhwys
Sut i Wneud Cais
I wneud cais, cwblhewch y ffurflen gais gyfan, gan ddilyn y ddolen hon:
Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi uwchlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain trwy e-bost):
- CV
- Tystysgrifau gradd a thrawsgrifiadau (os ydych chi'n astudio ar gyfer gradd ar hyn o bryd, mae sgrinluniau o'ch graddau hyd yma yn ddigonol)
- Llythyr eclawrol sy'n cynnwys datganiad o ddiddordeb mewn peirianneg ymasiad ac profiad a sgiliau perthnasol
- Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (os yw'n berthnasol – nodwch gall unrhyw gynnig a wneir fod yn amodol ar y lefel briodol o Saesneg. Mae rhestr lawn o brofion Saesneg derbyniol i'w gweld yma).
- Copi o fisa preswyl y DU (os yw'n berthnasol)
- Tystiolaeth o fodloni'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y ysgoloriaeth ehangu mynediad (os yw'n berthnasol)
Croesewir ymholiadau anffurfiol; cysylltwch â: Dr Alison Williams - alison.j.williams@swansea.ac.uk
*Rhannu Data Cais Partner Allanol – Sylwer, fel rhan o'r broses dethol ceisiadau am ysgoloriaeth, y gall rhannu data cais ddigwydd gyda phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan fo cyd-ariannu prosiect ysgoloriaeth yn berthnasol.