Trosolwg o'r Cwrs
Caiff gofal iechyd modern ei ddarparu gan dîm rhyngddisgyblaethol ac, yn gynyddol, mae fferyllwyr yn darparu gwasanaethau clinigol ehangach a newydd ar draws lleoliadau gofal iechyd, gan gynnwys fel rhagnodwyr. Mae ein gradd Fferylliaeth yn cydnabod y rolau newydd ac uwch hyn ac yn integreiddio'r gwyddorau ac ymarfer er mwyn paratoi myfyrwyr i fodloni'r heriau ynghlwm wrth arwyneb newidiol fferylliaeth.
Yn ystod eich gradd Meistr integredig (MPharm) pedair blynedd mewn Fferylliaeth, byddwch yn dilyn cwricwlwm wedi'i gynllunio i adlewyrchu'r ffordd y mae fferyllwyr yn ymdrin â chleifion a sut mae cleifion yn cyflwyno eu symptomau i fferyllwyr. Rydym yn cyfuno egwyddorion gwyddonol sylfaenol a chymhleth â'r ffordd y cânt eu rhoi ar waith er mwyn rhoi dealltwriaeth eglur i chi o'r ffordd y caiff fferylliaeth ei hymarfer.
Ar y cyd â phwyslais cryf ar sgiliau clinigol a chyfathrebu a thechnoleg digidol, byddwch yn datblygu'r rhinweddau academaidd, ymarferol a phersonol i fod yn gymwys ac yn hyderus wrth ymarfer fferylliaeth.