Arddull o gyfweliad yw Cyfweliad Byr Lluosog neu’n fyr, MMI, a ddefnyddir yn aml mewn cyrsiau clinigol fel Fferylliaeth, Meddygaeth, Meddyg Cysylltiol a Nyrsio ymhlith eraill.
Yn syml, dull o gyfweld mewn cyfweliad yw MMI. Byddwch yn cael 5 gorsaf, mae pob un o'r gorsafoedd wedi'u cynllunio i asesu sgil, cymhwysedd neu wybodaeth allweddol. Yn y gorsafoedd hyn rhoddir cryn dipyn o amser i chi gwblhau tasg neu ateb cwestiwn. Cewch eich gwerthuso ym mhob gorsaf a bydd y sgorau hyn yn cael eu defnyddio i helpu i benderfynu a ddylid cynnig lle i rywun ar y cwrs MPharm.
Ar gyfer Fferylliaeth yn Abertawe, rydym wedi dewis defnyddio'r dull MMI gan y bydd yn rhoi cyfle i chi arddangos amrywiaeth o sgiliau i ystod amrywiol o staff, gan roi'r cyfle i chi ddangos i ni beth sy'n eich cyffroi.