Gwyddor Barafeddygol, BSc (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
myfyriwr parafeddyg gyda darlithydd

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd astudio ar gyfer BSc mewn Gwyddor Barafeddygol yn rhoi'r sgiliau, yr wybodaeth a'r priodoleddau hanfodol i chi ddechrau gyrfa gyffrous a gwobrwyol fel Parafeddyg Cofrestredig. 

Byddwch yn dysgu am anatomeg a ffisioleg, prif systemau'r corff a'r cyflyrau sy'n effeithio arnynt, sut i asesu cleifion a nodi cyflyrau sy'n peryglu bywyd, a sut i roi cynhaliaeth bywyd. 

Byddwch hefyd yn datblygu dealltwriaeth o rôl a pherthnasedd ymchwil, cysyniadau gofal cleifion, a'r egwyddorion cyfreithiol a moesegol sy'n ymwneud â gofal iechyd. 

Byddwch yn astudio themâu craidd fel y gwyddorau ffisegol, bywyd a chlinigol, gwyddorau cymdeithasol ac ymddygiadol, moeseg a'r gyfraith, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd y cyhoedd, asesu a rheoli cleifion, arweinyddiaeth, ac ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth.  Mae'r pynciau hyn wedi'u plethu drwy ddysgu yn yr ystafell ddosbarth a lleoliadau ymarferol, gan eich helpu i gysylltu damcaniaeth yn uniongyrchol â gofal cleifion yn y byd go iawn. 

Erbyn i chi raddio, byddwch yn barod i ddarparu gofal diogel, effeithiol, sy'n canolbwyntio ar y person ar draws ystod o leoliadau;  gweithio'n gynhwysol gyda chleifion, teuluoedd a thimau gofal iechyd; cymhwyso tystiolaeth i wella gofal; a pharhau i ddatblygu fel ymarferydd myfyriol drwy gydol eich gyrfa. 

Fel siaradwr Cymraeg, efallai byddwch yn gallu cwblhau eich lleoliadau gwaith a'ch asesiadau yn Gymraeg.

Pam Gwyddor Parafeddygol ym Mhrifysgol Abertawe?

  • 1af yn y DU (Guardian University guide 2026)
  • 8fed yn y DU am Pynciau sy'n berthynol i Feddygaeth (Guardian University Guide 2026)
  • Mae 97% o raddedigion Gwyddor Barafeddygol yn mewn gwaith ac/neu astudio, neu'n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio 15 mis ar ôl gadael Prifysgol Abertawe (Arolwg Canlyniadau Graddedigion 2025).

Mae gennym dros ddeng mlynedd o brofiad yn cefnogi parafeddygon sy’n dysgu trwy eu taith addysgol.

Mae ein cwrs yn cael ei gymeradwyo gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal, sy'n eich galluogi i wneud cais am statws cofrestredig ar ôl cwblhau'r cwrs. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol i unrhyw un sy'n dymuno ymarfer fel parafeddyg.

Mae llawer o'n staff addysgu hefyd yn barafeddygon cofrestredig sy'n parhau i weithio, gan gynnig cyfuniad heb ei ail o drylwyredd academaidd ac arbenigedd proffesiynol.

Os gallwch chi ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio, fe allech chi gael eich ffioedd dysgu wedi eu talu’n llawn fesul Cynllun Bwrsariaeth GIG Cymru, yn ogystal â chyllid cynhaliaeth a benthyciad cyfradd is gan Gyllid Myfyrwyr.

Gwelwch ein tudalen Nawdd GIG i wirio eich cymhwyster am gyllid cyn gwneud cais.

Eich Profiad ym maes Gwyddor Parafeddygol

Ym Mhrifysgol Abertawe, byddwch yn dysgu mewn amgylcheddau rhagorol, ymarferol sydd wedi'u cynllunio i'ch helpu i fagu hyder o'r diwrnod cyntaf. Mae ein cyfleusterau rhagorol yn cynnwys y Ganolfan Efelychu a Dysgu Ymdrochol (SUSIM), sy'n cynnwys ystafelloedd clinigol realistig lle gallwch ddatblygu sgiliau ymarferol mewn lleoliad diogel, dan oruchwyliaeth. Byddwch hefyd yn elwa o brofiadau ymdrochol yn y gweithle yng nghanolfan hyfforddi gwasanaeth Ambiwlans Cenedlaethol Cymru. 

Ochr yn ochr ag addysgu wyneb yn wyneb, byddwch yn defnyddio offer digidol arloesol fel Learning Space ar gyfer efelychiadau clinigol, gan roi adborth drwy fideo ar unwaith i chi i atgyfnerthu eich dysgu. Mae realiti rhithwir yn cefnogi eich addysgu anatomeg ymhellach, gan eich helpu i ddeall organau a systemau'r corff mewn ffordd hynod ryngweithiol. 

Byddwch yn ymuno â charfan agos ag ymdeimlad cryf o gymuned, gyda chymorth drwy addysgu mewn grwpiau bach, lleoliadau gwaith, a gofal bugeiliol hygyrch. Mae myfyrwyr hefyd yn elwa o ddysgu rhyngbroffesiynol a chyfleoedd i gymryd rhan mewn prosiectau cyd-greu ac ymgysylltu â'r cyhoedd. Mae ein Cymdeithas Barafeddygol fywiog yn ychwanegu at y profiad drwy ddigwyddiadau fel y Ddawns Haf flynyddol, gweithgareddau codi arian, siaradwyr gwadd, a gwirfoddoli mewn ymarferion digwyddiadau mawr. Mae myfyrwyr hefyd yn chwarae rhan weithredol o ran cynrychiolaeth, gan gael eu penodi'n ddiweddar i gyrff parafeddygol y Brifysgol a rhai cenedlaethol. 

Mae hanner eich cwrs yn cael ei addysgu ar ein campws ym Mharc Singleton ar gyrion ardal brydferth Penrhyn Gŵyr, ac mae'r gweddill yn cael ei dreulio ar leoliadau gwaith allweddol yn y GIG a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, gan gynnwys ar ambiwlansys gweithredol ac mewn mannau yn yr ysbyty fel theatrau ac adrannau brys. 

Gyrfaoedd Gwyddor Parafeddygol

Mae'r rhan fwyaf o'n graddedigion Gwyddor Barafeddygol yn mynd ymlaen i rolau clinigol, naill ai yn y GIG neu yn y sector preifat. Mae cyflog cychwynnol y GIG ar gyfer parafeddygon cofrestredig tua £31,409 (www.nhsbands.co.uk) ynghyd â thaliad gwerth hyd at 25% ar gyfer oriau anghymdeithasol (www.nhsemployers.org). Gall cyflogau yn y sector preifat fod yn sylweddol uwch, gan ddibynnu ar y lleoliad. 

Mae cyfleoedd i barafeddygon sydd â'r profiad clinigol priodol a'r proffil addysgol fynd ymlaen i fod yn Ymarferwyr Arbenigol, Ymarferwyr Parafeddygol Uwch, neu Barafeddygon Ymgynghorol. Mae yna hefyd gyfleoedd i symud i reolaeth neu addysg.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Gwyddor Barafeddygol, BSc (Anrh)