Trosolwg o'r Cwrs
Mae ein cwrs gradd Llenyddiaeth Saesneg ac Almaeneg gyda Blwyddyn Dramor yn un cyffrous a heriol sy'n cynnig amrywiaeth o bosibiliadau gyrfa drwy eich helpu i feithrin sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn rhoi gwerth arnynt.
Gallwch astudio llenyddiaeth genedlaethol a byd-eang, gan gynnwys gweithiau'r Dadeni, ffuglen Gothig a phoblogaidd, llenyddiaeth y 19eg ganrif, ffuglen gyfoes, rhywedd a diwylliant, ysgrifennu creadigol a phroffesiynol ynghyd ag iaith, diwylliant, hanes, sinema a llenyddiaeth yr Almaen, Awstria a'r Swistir yn yr oes fodern.
Gallwch wella eich rhagolygon gyrfa ymhellach drwy dreulio blwyddyn yn yr Almaen.