Trosolwg o'r Cwrs
Ydych chi'n fedrus wrth ymdrin â ffigurau, ac yn awyddus i ddilyn gyrfa mewn cyfrifeg gyda chyflog hael? Mae Cyfrifeg yn broffesiwn y mae galw mawr amdano, ond nid yw busnesau'r unfed ganrif ar hugain eisiau pobl sy'n gallu gweithio gyda rhifau yn unig, maen nhw eisiau cyfrifwyr â meddwl strategol er mwyn cynyddu gwerth a thwf.
Nod ein rhaglen MSc mewn Cyfrifeg Strategol ym Mhrifysgol Abertawe yw gwella eich cyfleoedd gyrfa a'ch rhoi ar lwybr carlam i yrfa wych unrhyw le yn y byd.
Byddwch eisoes yn meddu ar radd gyntaf berthnasol a byddwch wedi llwyddo yn elfennau sylfaenol Cymdeithas y Cyfrifwyr Siartredig (ACCA) neu wedi cael eithriadau. Fel rhan o'r rhaglen hon, addysgir y damcaniaethau a'r arferion diweddaraf i chi a sut i'w cymhwyso fel cyfrifydd proffesiynol, wrth i ni eich paratoi ar gyfer arholiadau proffesiynol yr ACCA*.
Rhaid i fyfyrwyr sydd am sefyll arholiadau’r ACCA ar yr un pryd â’r MSc, neu wedi hynny, gofrestru gyda’r ACCA er mwyn bod yn gymwys ar gyfer arholiadau proffesiynol yr ACCA. Bydd ffïoedd ychwanegol yn berthnasol i'r arholiadau hyn - gweler yr adran 'Costau Ychwanegol' isod am fwy o wybodaeth.
Byddwch yn rhan o gorff proffesiynol byd-eang sydd ag enw da am arwain safonau proffesiynoldeb, moeseg, uniondeb ac atebolrwydd. Ar ôl i chi gymhwyso a gweithio am dair blynedd, gallwch ddefnyddio'r llythrennau ACCA ar ôl eich enw.
*Mae'r Ysgol Reolaeth ym Mhrifysgol Abertawe'n cadw'r hawl i wneud addasiadau rhesymol i'r rhaglen MSc mewn Cyfrifeg Strategol yn unol â chanllawiau a safonau diweddaraf yr ACCA.Rydym yn ymrwymedig i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y diwydiant i fyfyrwyr, a digon o amser i baratoi ar gyfer papurau proffesiynol yr ACCA.