Trosolwg o'r Cwrs
Os ydych chi'n weithiwr gofal iechyd proffesiynol sy'n addysgu mewn lleoliad academaidd neu glinigol ac yn awyddus i atgyfnerthu eich sgiliau, mae'r rhaglen hon yn berffaith i chi! Byddwch yn archwilio'r egwyddorion sy'n sail i addysgu, dysgu ac asesu effeithiol ac yn dysgu sut i gymhwyso damcaniaeth addysgol i sefyllfaoedd go iawn ar draws y proffesiynau iechyd.
Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn magu hyder wrth ddylunio a chyflwyno profiadau dysgu, gan werthuso eich ymarfer eich hun a gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth am addysgu ac asesu. Byddwch yn datblygu sgiliau meddwl yn feirniadol a myfyriol cryf a fydd yn eich helpu i ddeall eich ymagwedd eich hun fel addysgwyr a nodi meysydd ar gyfer twf parhaus.
Byddwch hefyd yn atgyfnerthu eich sgiliau cyfathrebu rhyngbersonol, gan eich galluogi i weithio'n effeithiol gyda chydweithwyr a dysgwyr i hyrwyddo amgylcheddau dysgu cynhwysol a difyr. Wrth i chi symud ymlaen, byddwch yn dysgu sut i gydweithio ar draws ffiniau proffesiynol a sefydliadol a sut gall addysg ddylanwadu ar ymarfer ehangach, polisi a datblygu'r cwricwlwm mewn gofal iechyd.
Ar lefel Meistr, cewch gyfle i ymgymryd ag ymchwil annibynnol sy'n dyfnhau eich dealltwriaeth o addysg gofal iechyd ac yn cyfrannu at ddealltwriaeth newydd yn y maes. Mae'r profiad hwn yn cefnogi eich datblygiad fel arweinydd addysgol ac yn eich paratoi i sbarduno newid cadarnhaol sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn eich gweithle.
Ar draws pob lefel, mae'r rhaglen yn annog dysgu gydol oes myfyriol. Byddwch yn graddio gyda'r sgiliau, y ddealltwriaeth a'r hyder proffesiynol sydd eu hangen i gyfoethogi addysgu, cefnogi dysgwyr yn effeithiol a helpu i lunio dyfodol addysg gofal iechyd.