Politics, Governance and Public Policy, MA

Students outside Parliament

Trosolwg o'r Cwrs

Mae gwrthdaro, datblygu a hawliau dynol yn themâu rhyng-gysylltiedig iawn sy'n llunio cymdeithasau, yn enwedig yn Ne'r Byd.  Mae gwrthdaro, boed hynny'n arfog, yn wleidyddol neu'n gymdeithasol;  yn aml yn tarfu ar ddatblygiad, gan amharu ar dwf economaidd, llywodraethu a chydlyniant cymdeithasol. I'r gwrthwyneb, gall datblygiad cynhwysol liniaru gwrthdaro drwy fynd i'r afael ag anghydraddoldeb ac ymyleiddio.  Mae hawliau dynol yn gweithredu fel fframwaith sylfaenol, gan sicrhau urddas, cyfiawnder a rhyddid i bawb. 

Bydd ein gradd MA mewn Gwrthdaro, Datblygu a Hawliau Dynol yn eich helpu i ddeall a dadansoddi'r ddynameg hon, sy’n hanfodol er mwyn archwilio heriau byd-eang, llunio polisi a hyrwyddo heddwch a datblygu cynaliadwy. Mae'r maes rhyngddisgyblaethol hwn yn galw am ymwybyddiaeth feirniadol o gyd-destunau hanesyddol, offer cyfreithiol ac astudiaethau achos cyfoes i archwilio sut gall cymdeithasau fynd i'r afael â thensiynau wrth hyrwyddo datblygiad teg sy’n seiliedig ar hawliau.  

Pam Politics, Governance and Public Policy yn Abertawe?

Mae Prifysgol Abertawe'n gorwedd ym mharcdir godidog Parc Singleton, gan edrych dros Fae Abertawe hardd ar gyrion Penrhyn Gŵyr, ac mae'n cynnig amgylchedd heb ei ail ar gyfer astudio. Byddwch yn ymgysylltu ag academyddion blaenllaw sy'n mynd i'r afael â rhai o faterion mwyaf dybryd y byd o safbwynt beirniadol.  Mae ein haddysgu a arweinir gan ymchwil yn eich grymuso i archwilio'r systemau pŵer cymhleth sy'n llunio'r byd sydd ohoni.

Yn Abertawe, byddwch yn mynd y tu hwnt i'r penawdau, gan archwilio dylanwad gweithredwyr byd-eang ac arferion gweithredwyr lleol ar ddatblygiad. Byddwch yn dadansoddi’r drefn ryngwladol sy’n newid drwy’r amser ac yn meistroli dulliau ymchwil uwch i archwilio'r grymoedd sy'n sbarduno gwrthdaro, hawliau dynol a datblygu cynaliadwy.

Mae ein cymuned ôl-raddedig ddeinamig yn ffynnu ar gydweithio a chwilfrydedd, ac fe'i cefnogir gan gymdeithasau myfyrwyr gweithgar ym meysydd gwleidyddiaeth, cysylltiadau rhyngwladol ac athroniaeth, yn ogystal â rhwydweithiau pwrpasol ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol ac amrywiaeth o grwpiau ymchwil i sbarduno eich taith academaidd a phroffesiynol.

Eich Profiad Politics, Governance and Public Policy

Yn eich tymor cyntaf, byddwch yn dilyn modiwlau sy'n gosod y sylfeini ar gyfer eich astudiaethau; un sy'n canolbwyntio ar ddatblygu cynaliadwy a'r llall sy'n canolbwyntio ar ddadleuon cysyniadol allweddol yn y gwyddorau cymdeithasol. Nod y modiwlau hyn yw rhoi i chi'r offer academaidd hanfodol a'r safbwyntiau beirniadol sydd eu hangen i ymgysylltu â datblygu rhyngwladol, gwrthdaro a hawliau dynol, p'un a ydych yn newydd i'r maes neu'n adeiladu ar wybodaeth flaenorol.

Yn yr ail dymor, byddwch yn dyfnhau eich dealltwriaeth drwy fodiwlau sy'n seiliedig ar faterion dyngarol ac ymagweddau at ddatblygu sy'n seiliedig ar hawliau.   Bydd y modiwlau cyntaf yn archwilio'r berthynas gymhleth rhwng gwrthdaro a datblygu yn nhirwedd fyd-eang heddiw, wrth i'r modiwlau eraill archwilio sut mae fframweithiau hawliau dynol yn cefnogi prosesau datblygu. Byddwch hefyd yn dechrau gweithio ar eich traethawd hir, prosiect ymchwil annibynnol o'ch dewis, dan arweiniad goruchwyliwr academaidd.

Ochr yn ochr â'r modiwlau canolog hyn, byddwch yn cael cyfle i deilwra'ch dysgu. Yn y tymor cyntaf, gallwch ddewis pwnc o amrediad eang o fodiwlau difyr a gynigir gan adran y Gyfraith. Yn yr ail dymor, cynigir y cyfle i chi gymryd rhan mewn modiwl dewisol a gyflwynir gan ein Hadran Gwleidyddiaeth, Athroniaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol. 

Cyfleoedd Cyflogaeth Politics, Governance and Public Policy

Ni waeth beth fo'ch cefndir academaidd, mae'r rhaglen hon yn cynnig sylfaen gadarn mewn damcaniaeth ac ymarfer ym maes datblygu cynaliadwy, gan archwilio'r croestoriad rhwng y maes a gwrthdaro, a'i sylfaen mewn fframweithiau hawliau dynol.   Byddwch yn datblygu sgiliau hanfodol mewn ymchwil, dadansoddi, cyflwyno, meddwl yn feirniadol ac ysgrifennu academaidd, sydd oll yn rhinweddau a fydd yn eich grymuso i gynnal ymchwil annibynnol. 

Mae galw mawr am y cymwyseddau hyn ar draws pob sector ac mae graddedigion ein MA mewn Gwrthdaro, Datblygu a Hawliau Dynol yn dilyn gyrfaoedd llawn effaith mewn amrywiaeth eang o sefydliadau rhyngwladol megis y Cenhedloedd Unedig, llywodraeth a gwleidyddiaeth, sefydliadau dyngarol ac anllywodraethol, yn ogystal â byd busnes, y cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.