Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r cwrs MSc Arwain a Rheoli Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe wedi cael ei ddylunio i weithwyr proffesiynol uchelgeisiol, ac unigolion sydd eisiau datblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth mewn arwain a rheoli, gyda ffocws penodol ar y sector peirianneg.
Bydd y rhaglen hon yn rhoi'r sgiliau hanfodol sydd eu hangen arnoch er mwyn llwyddo mewn rolau rheoli peirianneg, gan archwilio dulliau a phrosesau arweinyddiaeth, a'r ffocws cynyddol ar sgiliau meddal. Byddwch yn cael y cyfle i ddatblygu'r wybodaeth ddamcaniaethol a'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus yn y maes, gan bontio'r bwlch rhwng y byd academaidd a defnydd ymarferol drwy gydol y rhaglen.
Wrth i'ch astudiaethau fynd rhagddynt, byddwch yn datblygu eich gwybodaeth mewn strategaeth arweinyddiaeth allweddol, ochr yn ochr â dysgu sut i reoli prosiectau'n effeithlon ac yn effeithiol. Byddwch hefyd yn dysgu sut i lywio pynciau ac amgylcheddau peirianneg cymhleth, gan gynnwys meysydd megis gweithgynhyrchu clyfar, yr economi gylchol a thechnolegau cynaliadwy, a fydd yn eich galluogi i gyfuno gwybodaeth am feysydd technegol ac arferion rheoli, er mwyn arwain yn effeithiol mewn meysydd peirianneg cymhleth.
Datblygwyd y rhaglen mewn ymgynghoriad uniongyrchol â byd busnes a diwydiant, er mwyn sicrhau eich bod chi'n dysgu am y themâu mwyaf cyfredol yn y maes hwn. Drwy weithio ochr yn ochr â’n partner diwydiant, Tata Steel, byddwch yn medru rhoi'r gwybodaeth y gwnaethoch chi ei dysgu yn yr ystafell ddosbarth ar waith yn uniongyrchol. Bydd hyn yn eich helpu i ddeall materion sy'n wynebu byd diwydiant ar hyn o bryd mewn manylder, a bydd yn eich galluogi i ddarparu atebion posib sydd â phwysigrwydd strategol uchel i fusnesau, gan sicrhau eich bod yn datblygu'n unigolyn graddedig sy'n barod i feddu ar rolau arweinyddiaeth yn hyderus.

