Peirianneg y Gofod, MSc

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Space craft launch

Trosolwg o'r Cwrs

Dechreuwch ar daith gyffrous i'r bydysawd gyda'n MSc mewn Peirianneg y Gofod. Mae'r radd hon, sydd ar gael fel gradd amser llawn dros 12 mis neu radd ran-amser dros 2 flynedd, wedi'i llunio i gyd-fynd â’ch uchelgeisiau.

Drwy gydol ein rhaglen, byddwch chi'n archwilio cymhlethdodau'r gofod wrth i chi ddatblygu dealltwriaeth ddofn ar gyfer byd diwydiant o ddyluniad llongau gofod, egwyddorion peirianneg uwch a chysyniadau sy'n dod i'r amlwg o archwiliad dwfn o'r gofod.

Mae'r MSc mewn Peirianneg y Gofod yn Abertawe yn radd beirianneg heb ei ail. Byddwch yn ennill addysg drwyadl sy'n edrych tua'r dyfodol drwy gwricwlwm sydd wedi'i lunio'n ofalus ac sy'n cyfuno arbenigedd systemau gofod arbenigol gyda pheirianneg draws-ddisgyblaethol arloesol, gan sicrhau bod gennych chi'r wybodaeth a'r ymwybyddiaeth feirniadol sydd eu hangen i ffynnu fel peiriannydd gofod hyderus.

Bydd eich astudiaethau'n cwmpasu dysgu damcaniaethol ac ymarferol, wedi'u arwain gan ein tîm academaidd arbenigol. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o beirianneg llongau gofod, dadansoddi cenhadaeth, systemau gwthio, systemau lawnsio, technolegau cylchdroi, a gweithrediadau systemau gofod. Bydd eich dysgu'n cael ei gyfoethogi ymhellach gan gyfleoedd i ymgymryd ag ymchwil annibynnol ac ymchwil mewn grŵp, gan gydweithredu ag arbenigwyr o fyd diwydiant wrth i chi fynd i'r afael â heriau peirianneg o'r byd go iawn.

Mewn sector lle mae archwilio'n digwydd yn barhaus, byddwch yn ymuno â'r genhedlaeth nesaf o beirianwyr sy'n llunio dyfodol y gofod ac archwilio gydag MSc mewn Peirianneg y Gofod o Abertawe. 

Pam Peirianneg Awyrofod ym Mhrifysgol Abertawe?

Mae Peirianneg Awyrofod yn Abertawe yn adran o fri rhyngwladol sydd wedi'i chydnabod am ei rhagoriaeth ymchwil a'i heffaith ar fyd diwydiant.

Mae ein henw da wedi'i seilio ar addysgu o safon fyd-eang, cyfleusterau o'r radd flaenaf ac amgylchedd ymchwil arloesol.

  • Yn y 131ain safle yn y byd ar gyfer Peirianneg Fecanyddol, Awyrenneg a Gweithgynhyrchu  (Tablau Prifysgolion y Byd QS 2025)
  • 100% o'n hamgylchedd ymchwil yn arwain y ffordd yn fyd-eang neu'n rhagorol yn rhyngwladol (REF 2021).

Fel aelod o'r Consortiwm Ymchwil Awyrofod (ARC) o fri, ac yn gyfrannwr allweddol i Rwydwaith UK Vertical Lift, mae Abertawe'n rhan bwysig o'r rhwydweithiau hyn wrth lywio dyfodol technolegau awyrofod a gofod.

Mae ein hymchwil yn cwmpasu rhai o'r meysydd mwyaf datblygedig yn y maes, gan gynnwys trawsffurfio llongau gofod, gefeilliaid digidol, gwthio datblygedig, aerodynameg, deinameg strwythurol a rheoli dirgryniadau, a strwythurau cyfansawdd. Mae'r arbenigedd hwn yn llywio ein haddysgu'n uniongyrchol, gan sicrhau bod eich dysgu wedi'i seilio ar y darganfyddiadau gwyddonol a pheirianyddol diweddaraf.

Eich profiad ym maes Peirianneg Awyrofod

Mae MSc mewn Peirianneg y Gofod yn Abertawe yn cynnig amgylchedd dysgu ymdrochol, sydd wedi'i lunio a'i lywio gan ein hymchwil awyrofod o safon fyd-eang, a chaiff ei gyfoethogi ymhellach gan ein cyfleusterau awyrofod o'r radd flaenaf a'n tîm academaidd arbenigol.

Mae gennym gysylltiadau cryf yn y sector Awyrennu ledled y byd, a gall myfyrwyr MSc mewn Peirianneg y Gofod yn Abertawe elwa o berthnasoedd gweithio agos gydag arbenigwyr o fyd diwydiant, megis:

  • MBDA
  • Airbus
  • Rolls-Royce
  • Leonardo
  • GKNs

Bydd eich astudiaethau'n cael eu cefnogi trwy ein hamgylchedd dysgu cefnogol. Byddwch chi'n ymuno â'n cymuned ryngwladol o fyfyrwyr ôl-raddedig sy'n ffynnu, ac yn cael cymorth astudio ar ffurf mynediad 24 awr y dydd i'n llyfrgell ar y safle, labordai datblygedig, rhaglen o ddarlithoedd gwadd drwy gydol y flwyddyn, ac ystafelloedd gwaith penodedig i fyfyrwyr ôl-raddedig.

Cyfleoedd cyflogaeth ym maes Awyrofod

Gall graddedigion ein rhaglen MSc mewn Peirianneg y Gofod ddisgwyl gadael gyda'r arbenigedd technegol uwch, y gallu dadansoddol a'r ymddygiadau proffesiynol sydd eu hangen i ffynnu yn y diwydiant gofod.

Fel myfyriwr graddedig, byddwch mewn sefyllfa dda ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd ar draws y sectorau gofod a pheirianneg datblygedig ledled y byd, a allai gynnwys:

  • Peiriannydd Dylunio Llongau Gofod
  • Peiriannydd Cerbydau Lansio
  • Peiriannydd Systemau Cyrchoedd
  • Peiriannydd Strwythurau Gofod
  • Peiriannydd Profi
  • Peiriannydd Amddiffyn neu Wthio

Gall cyrchfannau gyrfa gynnwys sefydliadau megis:

  • MBDA, Reaction Engines, Black Arrow, Space Structures, Asiantaeth Ofod y Deyrnas Unedig

Mae ein MSc mewn Peirianneg y Gofod yn meithrin meddylfryd entrepreneuraidd, gan greu graddedigion sy'n barod ar gyfer cyfleoedd cyflogaeth ychwanegol mewn ymchwil, ymgynghoriaeth, dechrau busnesau a datblygu technoleg.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.