Ein Harbenigedd Ymchwil

Bloodhound SSC

Ein Harbenigedd Strwythurol A Chyfrifiadol

Mae ein hymchwilwyr yn defnyddio cymysgedd o ddulliau cyfrifiadol a dulliau arbrofol (e.e. ein twnnel gwynt dolen gaeedig is-sonig o'r radd flaenaf) i archwilio atebion i broblemau megis rhyngweithiadau rhwng strwythur a hylif ar adenydd, rheoli awyrennau gan ddefnyddio 'morffio' i 'gasglu ynni' o ddirgryniadau strwythurol.

plane engine

Ein Harbenigedd Deunyddiau A Gyriad

Mae ein hymchwilwyr yn bartneriaid â rhai ym myd diwydiant fel Rolls-Royce i ddeall perfformiad deunyddiau newydd (cyfansoddion ac aloion) i'w defnyddio mewn peiriannau jet modern. Hefyd, mae gennym ymchwilwyr sy'n datblygu dulliau modelu newydd ar gyfer y prosesau hylosgi sy'n ymwneud â gyriad awyrofod, gan gynnwys perfformiad hydrogen fel tanwydd amgen. Cynhelir yr holl waith hwn mewn cydweithrediad ag ymchwilwyr ar draws y Gyfadran sy'n archwilio dulliau 'Diwydiant 4.0' o ran gweithgynhyrchu.

Space shuttle launching

EIN HARBENIGEDD MEWN TECHNOLEG GOFOD

Mae ein hymchwilwyr yn archwilio datblygiadau mewn technolegau gofod sy’n amrywio o ddylunio strwythurau gofod a systemau lloeren y gellir eu rhoi ar waith i wthwyr gofod arloesol ag injan ïon, dulliau ynni solar sy'n seiliedig ar ofod, a modelu aerodynamig hypersonig.

simulation

Ein Harbenigedd Erodynameg

Gan ddefnyddio ein twnnel gwynt issonig dolen gaeedig o'r radd flaenaf a chyfres o efelychwyr hedfan mae ein hymchwilwyr yn edrych ar ddyluniadau aerodynamig newydd ar gyfer popeth o lafnau tyrbinau gwynt hyd at awyrennau lifft fertigol newydd gyda rotorau codi lluosog.  Mae gennym hefyd ymchwilwyr sy'n datblygu dulliau cyfrifiadurol newydd ar gyfer dylunio ac optimeiddio awyrennau ac efelychu hedfan cerbydau symudedd awyr trefol.