Dr Alexander Shaw

Dr Alexander Shaw

Uwch-ddarlithydd, Aerospace Engineering

Cyfeiriad ebost

328
Trydydd Llawr
Adeilad Gogleddol Peirianneg
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Shaw yn Uwch-ddarlithydd yn y portffolio Awyrofod ym Mhrifysgol Abertawe ac mae’n rhan o’r grŵp Peirianneg Awyrofod a Strwythurau yng Nghanolfan Peirianneg Gyfrifiadol Zienkiewicz. Mae’n addysgu cyrsiau mewn dadansoddi strwythurol a dylunio awyrennau.

Mae diddordebau ymchwil Dr Shaw yn cynnwys dirgryniad strwythurol a strwythurau addasol. Ym maes dirgryniad strwythurol, mae ei ymchwil yn ymwneud yn bennaf ag aflinoledd, sy’n cyflwyno rhai ffenomena tra diddorol a chain, gan gynnwys ymatebion anhrefnus a lled-gyfnodol. Mae diwydiant yn ymdrin â dirgryniad mewn modd llinol yn bennaf, felly mae’n colli ffiseg hanfodol a gall hyn roi rhagfynegiadau gwael. Drwy ddulliau arbrofol a dadansoddol, y nod yw cyflawni offer a fydd yn caniatáu modelu aflinoldeb yn effeithlon a’i ddefnyddio mwn strwythurau statig a pheirianwaith sy’n cylchdroi.

Mae awyrennau addasol yn gallu addasu eu siâp allanol i ymateb i newid mewn gofynion hedfan ac felly wella effeithlonrwydd cyffredinol y genhadaeth. Fodd bynnag, maent yn peri heriau sylweddol i strwythurau awyrennau. Ar hyn o bryd, mae Dr Shaw yn ymchwilydd ar y rhaglen H2020, Shape Adaptive Blades for Rotorcraft Efficiency (SABRE) sy’n cymhwyso cysyniadau addasu i lafnau rotorau hofrennydd.

Meysydd Arbenigedd

  • Dynameg strwythurol
  • Dirgryniad aflinol
  • Awyrennau addasol
  • Strwythurau cyfansawdd
  • Dynameg cylchdroi