Trosolwg o'r Cwrs
Ydych chi'n chwilio am radd feddygol sy'n cynnig addysgu clinigol arbenigol, dysgu cyflymach ac elfen bwrpasol o ymgynefino â’r GIG trwy flwyddyn â thâl yn gweithio gofal iechyd?
Mae cwrs MB BCh Meddygaeth Prifysgol Abertawe yn cynnig cyfle i fyfyrwyr Safon Uwch (neu lefel gyfwerth) astudio meddygaeth gyda blwyddyn gyflogedig bwrpasol. Byddwch yn treulio blwyddyn gyflogedig gychwynnol fel gweithiwr cymorth gofal iechyd, ac yna byddwch yn treulio 4 blynedd o'ch cwrs yn astudio ein rhaglen MB BCh ar ein campws ym Mharc Singleton.
Sylwer: Rhaid i ymgeiswyr fod yn astudio am eu cymwysterau Safon Uwch (neu gyfwerth) neu fod wedi cwblhau eu hastudiaethau ymhen y ddwy flynedd ddiwethaf ar adeg y cais. Hefyd, mae’n rhaid i ymgeiswyr fyw ar hyn o bryd ac wedi mynychu ysgol uwchradd yn un o'r ardaloedd awdurdod lleol canlynol: Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, neu Sir Benfro.
Mae ein gradd Meddygaeth wedi'i chynllunio i adlewyrchu'r ffordd y mae clinigwyr yn ymdrin â chleifion, a sut mae cleifion yn cyflwyno eu hunain i feddygon, a bydd yn cwmpasu ystod o bynciau mewn meddygaeth glinigol, iechyd y cyhoedd, patholeg, therapïau, moeseg a materion seicogymdeithasol, a addysgir trwy gwricwlwm sbiral.
Drwy’r cyfuniad hwn o flwyddyn bwrpasol mewn gofal iechyd, ac yna 4 blynedd o ddysgu carlam a lleoliadau clinigol amrywiol, byddwch yn datblygu’r rhinweddau academaidd, ymarferol a phersonol a ddisgwylir gan feddyg diogel, effeithiol a thosturiol:
- Sgiliau cyfathrebu
- Sgiliau datrys problemau
- Ymdopi dan bwysau
- Craffter ac uniondeb
- Angerdd am feddygaeth/gwydnwch i lwyddo
- Sgiliau trefnu ac ymchwilio
- Moeseg a gwerthoedd