Meddygaeth (i Raddedigion), MBBCH

Y 15 Uchaf yn y DU ar gyfer Meddygaeth - Complete Univeristy Guide 2026

Medical Student

Trosolwg o'r Cwrs

Ydych chi'n chwilio am radd feddygol sy'n cyflymu eich dysgu ac yn eich paratoi i gamu'n hyderus i ymarfer clinigol? 

 Mae ein gradd feddygol llwybr carlam, sy'n para 4 blynedd, wedi'i dylunio i adlewyrchu'r ffordd y mae clinigwyr yn ymdrin â chleifion a sut mae cleifion yn cyflwyno eu symptomau i feddygon. Byddwch yn ennill profiad clinigol ar leoliad gwaith o'r tymor cyntaf. 

 Drwy gydol y radd Meddygaeth (Mynediad i Raddedigion), MBBCH, byddwch yn astudio'r gwyddorau biofeddygol sylfaenol yng nghyd-destun meddygaeth glinigol, iechyd cyhoeddus, patholeg, therapiwteg, moeseg a’r materion seico-gymdeithasol sydd ynghlwm wrth reoli cleifion. 

 Ar y cyd â phwyslais cryf ar sgiliau clinigol a chyfathrebu, byddwch yn datblygu'r rhinweddau academaidd, ymarferol a phersonol i fod yn gymwys ac yn hyderus wrth ymarfer meddygaeth. 

 Mae ein proses gyfweld wedi'i strwythuro er mwyn ystyried y rhinweddau hyn sydd eu hangen ar feddyg, fel y’u  nodir yn Good Medical Practice  (Professional Standards, GMC), a'r gallu i fodloni gofynion Outcomes for Graduates  (GMC) a hyrwyddo rhagoriaeth: safonau ar gyfer addysg a hyfforddiant meddygol.  

 Fel myfyriwr meddygaeth yn Abertawe, byddwch chi'n datblygu'r rhinweddau a'r ymddygiadau a ddisgwylir gan feddyg diogel, effeithiol a thosturiol. 

  • Sgiliau cyfathrebu 
  • Sgiliau datrys problemau 
  • Ymdopi dan bwysau 
  • Craffter ac uniondeb 
  • Angerdd am feddygaeth/gwydnwch i lwyddo 
  • Trefnu ac ymchwilio 
  • Moeseg a gwerthoedd 

Pam Meddygaeth ym Mhrifysgol Abertawe?

  • Ymhlith y 15 prifysgol orau yn y DU am Feddygaeth (Complete University Guide 2026) 
  • Yn y 9fed safle yn y DU (Guardian University Guide 2026) 

Caiff Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ei hadnabod yn gyson fel un o'r lleoedd gorau yn y DU i astudio meddygaeth, lle rydym yn ymroddedig i hyfforddi meddygon yfory i fynd i'r afael â heriau meddygaeth mewn amgylchedd byd-eang sy'n newid. Mae ein sylfaeni cryf mewn arloesi ac ymchwil ar draws Iechyd a’r Gwyddorau Bywyd yn llywio ac yn gwella ein haddysgu meddygol yn uniongyrchol. 

Mae ein rhaglen Meddygaeth i Raddedigion (GEM) yn unigryw yng Nghymru ac yn un o lond llaw yn unig o raglenni tebyg ym maes astudio meddygaeth yn y DU sydd ar agor i raddedigion o unrhyw ddisgyblaeth o'r DU, yr UE a thramor. 

Fel ysgol feddygaeth fach a chefnogol, rydym yn gallu sicrhau eich bod chi'n elwa o gysylltiad agos â staff addysgu, ymdeimlad cryf o gymuned, a chyfleoedd i cael cysylltiad â chleifion yn gynnar, o'r tymor cyntaf. 

Eich profiad o Feddygaeth

Mae'r rhaglen Meddygaeth i Raddedigion yn gyfuniad dwys ac amrywiol o addysgu ar y campws sy'n cynnwys: 

  • Darlithoedd a Thiwtorialau
  • Dysgu ar sail achosion
  • Dulliau Clinigol Integredig
  • Anatomeg a Sgiliau Clinigol

Drwy gydol ein gradd Meddygaeth (Mynediad i Raddedigion), MBBCH, byddwch chi'n rhan o ymagwedd gynhwysol, dysgu drwy brofiad at addysg feddygol, sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr. Mae hyn yn rhoi'r lle a'r cymorth i chi ddatblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r ymddygiadau sydd eu hangen i fod yn feddyg sy'n medru addasu i realiti gofal iechyd modern.  

Gan fod y rhaglen hon yn cael ei harwain gan ymchwil, byddwch chi'n elwa o ddysgu’n uniongyrchol gan arbenigedd staff academaidd a chlinigol sy'n ymchwilwyr ac yn gyfranwyr gweithgar at ysgolheictod meddygol. Mae'r ymagwedd hon yn meithrin chwilfrydedd deallusol, llythrennedd gwyddonol ac ymrwymiad i ymarfer ar sail tystiolaeth.  

Byddwch chi'n cael cyfleoedd cynyddol i gymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol i gyd-destunau clinigol cymhleth, gan adlewyrchu'r newid o fod yn fyfyriwr i glinigwr wrth ei waith. Erbyn diwedd eich astudiaethau, bydd gennych sylfaen wyddonol gadarn, byddwch chi'n gymwys yn glinigol, ond byddwch hefyd yn cael eich arwain gan foeseg, yn fyfyriol ac yn barod ar gyfer gyrfa sy'n cael ei diffinio gan ddysgu gydol oes. 

Cynhelir lleoliadau gwaith clinigol ar safleoedd y GIG gan gynnwys ysbytai, meddygfeydd, a chyfleusterau iechyd cymunedol. Mae hyn yn sicrhau eich bod chi'n profi penderfynyddion cymdeithasol iechyd yn uniongyrchol, ac yn gwerthfawrogi pwysigrwydd gofal sylfaenol a meddygaeth ataliol wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd. 

Cyfleoedd Cyflogaeth Meddygaeth (i Raddedigion)

Pan fyddwch yn cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus, byddwch chi'n graddio â gradd MBBCh o Brifysgol Abertawe, gan eich galluogi i symud ymlaen at yr UK Foundation Programme ar gyfer meddygon newydd gymhwyso, lle byddwch yn dechrau hyfforddi mewn amgylchedd clinigol. 

Mae'r rhaglen Meddygaeth i Raddedigion wedi'i dylunio i ddatblygu amrywiaeth eang o sgiliau a phriodoleddau trosglwyddadwy sy'n cefnogi meddylfryd entrepreneuraidd ac sy'n gwella rhagolygon gyrfa ar draws llwybrau clinigol ac anghlinigol. Drwy gwricwlwm sydd wedi'i seilio ar ddatrys problemau, meddwl yn feirniadol, arloesi, arweinyddiaeth a chyfathrebu, bydd gennych chi'r hyn sydd ei angen i gyfrannu'n rhagweithiol at ddyfodol darparu gofal iechyd, ailgynllunio gwasanaethau, a gofal sy'n canolbwyntio ar y claf. 

Byddwch hefyd yn datblygu'r gallu i weithio'n greadigol ac yn gydweithredol mewn systemau cymhleth, gan ennill profiad mewn arloesi ar sail tystiolaeth, iechyd digidol, cynaliadwyedd mewn gofal iechyd a gwella ansawdd. Mae'r meysydd hyn yn darparu sylfaen gref ar gyfer entrepreneuriaeth glinigol yn y dyfodol, dylanwadu ar bolisïau ac arweinyddiaeth academaidd. Mae ymwneud â phrosiectau ymchwil, archwilio, a Chyfleoedd Dysgu mewn Ymchwil ac Ysgolheictod (LORS) yn meithrin sgiliau dadansoddol ac ymchwilio ymhellach, sy'n berthnasol ar draws amrywiaeth eang o gyd-destunau proffesiynol.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Meddygaeth (i Raddedigion), MBBCH