Meddygon i Gymru

Myfyrwraig yn astudio gyda tiwtor

Ysgol Feddygaeth i Gymru Gyfan

Mae gennym strategaeth barhaus sy'n seiliedig ar dair blaenoriaeth allweddol, i sicrhau meddygon i Gymru. Un o nodau allweddol y strategaeth dair rhan hon yw bod yn "Ysgol Feddygaeth i Gymru gyfan". Cyflawnir y nod hwn drwy ein rhaglen Meddygon i Gymru.

Mae'r rhaglen hon yn anelu at sicrhau ein bod ar flaen y gad o ran cynllunio a sicrhau gweithlu gwyddorau meddygol a gwyddorau bywyd y dyfodol. Rydym yn cyflawni ein hymrwymiad i hyn drwy weithio gyda phartneriaid ym maes iechyd ledled Cymru er mwyn nodi, deall a diwallu eu hanghenion o ran gweithlu a galluogi gwasanaethau i newid drwy welliannau a ysgogir gan ymchwil ac arloesedd mewn triniaeth ac ymarfer.

Mae'r gweithlu meddygaeth yn wynebu heriau sylweddol yng Nghymru, gan gynnwys recriwtio a chadw meddygon. Yn 2017 comisiynodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru adroddiad gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. Dau o'r argymhellion a wnaed yn yr adroddiad hwn oedd

  1. "...sicrhau cynnydd cyson yn nifer y myfyrwyr o Gymru sy’n gwneud cais am le yn yr ysgolion meddygaeth yng Nghymru"
  2. "...datblygu rhaglen o gymorth a chyngor ar gyfer disgyblion yng Nghymru, ar drefniadau derbyn a chyfweld ysgolion meddygaeth"

Sut rydym yn sicrhau Meddygon i Gymru

Rydym wedi rhoi pecyn parhaus o fesurau ar waith i fodloni'r ddau argymhelliad hyn. Mae'r rhain yn cynnwys:

  1. Diwrnodau rhagflas a gweithdai paratoi i ddarpar fyfyrwyr meddygaeth
  2. Llwybr i Feddygaeth o gyrsiau BSc penodol a gynigir gan Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe*
  3. Cynyddu nifer y cyfweliadau
  4. Caiff cymhwysedd ar gyfer y lleoedd cyfweliad sy'n weddill ei bennu yn ôl ble mae'r myfyrwyr yn byw, i ba ysgol uwchradd yr aethant ac o ble y maent yn hanu. Rhoir blaenoriaeth ar gyfer y lleoedd sy'n weddill i fyfyrwyr o Gymru sy'n gwneud cais.

Nod y mesurau hyn yw cynyddu nifer y myfyrwyr sy'n byw yng Nghymru sy'n cael cyfweliad ar gyfer meddygaeth, heb leihau nifer y cyfweliadau sydd ar gael i ymgeiswyr nad ydynt yn byw yng Nghymru. Yn y cyfweliadau, caiff pob ymgeisydd ei drin yn gyfartal. Nid yw'r broses gyfweld yn ffafrio nac yn gwahaniaethu'n erbyn unrhyw ymgeisydd ar sail cefndir daearyddol, cymdeithasol neu economaidd, nac ar sail rhywedd, hil, crefydd neu dueddfryd rhywiol.

*Ymhlith Y Cyrsiau Sy'n Cynnig Y Cyfle Hwn Ar Hyn O Bryd Mae: