Beth yw Blwyddyn Sylfaen?
Mae Blwyddyn Sylfaen yn raglen amser llawn, blwyddyn o hyd, sy’n rhoi’r arweiniad a’r sylfaen academaidd y bydd eu hangen arnoch i ddechrau blwyddyn gyntaf y radd o’ch dewis.
P’un a ydych heb gyflawni’r graddau yr oeddech yn eu gobeithio, neu efallai y byddech yn elwa ar ychydig o gymorth ychwanegol wrth bontio i astudio ar lefel prifysgol, mae Blwyddyn Sylfaen yn ffordd wych o ddechrau eich taith tuag at radd prifysgol.