Geneteg, BSc (Anrh) / BSc / MSci (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Students in Lab

Trosolwg o'r Cwrs

Mae geneteg yn faes cyffrous sy'n symud yn gyflym, yn trawsnewid ein dealltwriaeth o fywyd ac yn ysgogi arloesi ar draws gwyddoniaeth a meddygaeth.  O ddiagnosis a thrin clefydau i ddatblygu deunyddiau fferyllol newydd, therapïau personol, peirianneg genynnau, biotechnoleg ac astudio esblygiad, bioamrywiaeth a phathogenau, bellach, geneteg yw sylfaen llawer o ddatblygiadau gwyddonol pwysicaf ein hoes. 

Mae ein gradd BSc (Anrh) /MSci (Anrh) mewn Geneteg yn darparu dealltwriaeth fanwl o flociau adeiladu sylfaenol bywyd ar y ddaear. Byddwch yn cael profiad ymarferol o dechnegau a ddefnyddir i ddadansoddi mynegiadau genynnol, rhyngweithiadau protein, strwythur a niwed DNA, a delweddu biofoleciwlaidd a chellol, ochr yn ochr â dulliau cyfrifiadura uwch a ddefnyddir mewn ymchwil geneteg fodern. 

Trwy gydol y rhaglen, byddwch yn meithrin sgiliau dadansoddol, datrys problemau a rheoli prosiect cryf, gan ddysgu sut i ddylunio arbrofion a chynllunio rhaglenni ymchwil effeithiol. 

Mae'r radd rhyngddisgyblaethol anrhydedd sengl hon, yn tynnu ar fodiwlau a rennir ar draws yr Adran a'r Ysgol yn ehangach, gan roi profiad dysgu eang ac amrywiol i chi. Bydd gennych chi hefyd y cyfle i wella eich datblygiad academaidd a phroffesiynol drwy flwyddyn dramor ryngosodol neu flwyddyn mewn diwydiant. 

Dyfarniadau a Safleoedd

* Wedi’i asesu o dan Geneteg. Yn seiliedig ar y sgôr gyfartalog ar gyfer agwedd gadarnhaol fesul pob thema yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2026 o'n cymharu â phrifysgolion eraill yn y Times Good University Guide.

Pam Geneteg ym Mhrifysgol Abertawe?

Trwy astudio yn Abertawe, byddwch yn dysgu gan staff academaidd sy'n ymgymryd yn weithredol ag ystod eang o ymchwil geneteg sy'n torri tir newydd. Mae eu harbenigedd yn cynnig cymysgedd arbennig o ragoriaeth academaidd ac ymarfer gwyddonol byd go iawn. Ochr yn ochr â'ch astudiaethau ffurfiol, bydd gennych chi'r cyfle i fynd i sgyrsiau ymchwil rheolaidd gan academyddion Prifysgol Abertawe a siaradwyr gwadd o brifysgolion eraill, y diwydiant, y GIG a sefydliadau ymchwil blaenllaw. 

Byddwch hefyd yn elwa o fynediad at gyfleusterau ymchwil o'r radd flaenaf yr Ysgol Feddygaeth, sy'n cefnogi astudiaethau moleciwlaidd a chellol uwch. Mae'r rhain yn cynnwys offer dadansoddi DNA a phroteinau, dadansoddwyr delweddau ar gyfrifiadur, a chyfleuster cyfrifiadurol perfformiad uchel pwerus ar gyfer dadansoddi data ar raddfa fawr. 

Eich profiad ym maes Geneteg

Trwy gydol eich BSc (Anrh) 3 blynedd, byddwch yn ymgymryd â chymysgedd o fodiwlau gorfodol a dewisol, gan roi'r hyblygrwydd i chi deilwra eich gradd i'ch diddordebau penodol, eich uchelgeisiau o ran gyrfa neu eich cynlluniau ar gyfer astudiaethau pellach.  

Bydd cyfle i chi gwblhau Blwyddyn Dramor gyda'n sefydliadau partner, a fydd yn cyfoethogi eich dysgu ac yn cynnig profiad bywyd amhrisiadwy. 

Mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnig y cyfle i chi dreulio Blwyddyn ym myd Diwydiant, yn y DU neu dramor, gan eich galluogi i gael profiad gwerthfawr yn y gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl yn unig, sydd â chyflog gwerth mwy nag £20,000 ar gyfartaledd. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos. 

Mae'r rhaglen hon ar gael hefyd fel MSci 4 blynedd, sef gradd israddedig uwch, gan ychwanegu blwyddyn sy'n canolbwyntio ar ymchwil at eich gradd. Mae ein rhaglen MSci yn arwain at gymhwyster meistr, yn ogystal â'ch gradd israddedig, gan roi i chi hyfforddiant gwyddonol gan arbenigwyr a llwybr at amrywiaeth o yrfaoedd arbenigol. 

Pa gymhwyster bynnag rydych chi'n ei ddewis, byddwch yn elwa o arbenigedd ein staff academaidd sy'n weithgar mewn amrywiaeth eang o feysydd ymchwil fiolegol foleciwlaidd, gan gynnig cymysgedd unigryw o ragoriaeth academaidd ac ymarfer arloesol. 

Mae blwyddyn sylfaen ddewisol hefyd ar gael. Mae'r Flwyddyn Sylfaen hon yn rhoi cyflwyniad ardderchog i chi i addysg uwch, yn rhoi'r sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth y mae eu hangen arnoch chi i fod yn llwyddiannus yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig mwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd i fyd addysg ar ôl seibiant. Ar ôl i chi gwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch chi'n symud ymlaen i Flwyddyn 1 eich gradd BSc (Anrh) / MSci (Anrh). 

Modiwlau

Rydym wedi gwella ein modiwlau i ddarparu profiad dysgu deniadol, wedi'i gynllunio i'ch helpu i ddatblygu'r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Darganfyddwch beth sydd ar gael a chael eich hysbrydoli gan y modiwlau y gallwch eu hastudio.

Gofynion Mynediad

Mae gennym ni leoedd ar draws ystod eang o bynciau ar gyfer mynediad ym Medi 2026 - cysylltwch â'n Llinell Gymorth Clirio i drafod eich opsiynau.

0808 175 3071

Rydym hefyd yn croesawu ymholiadau gan ymgeiswyr sy’n ymchwilio i ddechrau cwrs yn 2027 - gweler ein Tudalen Gofynion Mynediad i gael gwybod am ystodau cynnig nodweddiadol, e-bostiwch ni neu ffoniwch 01792 295111.

A ydych yn fyfyriwr rhyngwladol sy'n aros am ganlyniadau arholiad neu sgôr prawf Iaith Saesneg? Os felly, byddem yn eich annog i gyflwyno cais drwy ein system ymgeisio uniongyrchol gan efallai na fyddwch yn gymwys am gynnig amodol.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Egwyddor gyffredinol y rhaglen hon yw hyfforddi gwyddonwyr sydd â'r wybodaeth graidd angenrheidiol a'r sgiliau ymarferol a chyflogadwyedd y bydd eu hangen arnynt i lwyddo yn amgylcheddau byd-eang newidiol y gwyddorau meddygol a bywyd. Felly, bydd pob myfyriwr yn meithrin y sgiliau sylfaenol sydd eu hangen ar bob gwyddonydd biofoleciwlaidd. Mae sgiliau cyflogadwyedd yn thema yn y rhan fwyaf o fodiwlau.  

  • Mae graddedigion gwyddor biofoleciwlaidd yn mynd ymlaen i ystod o gyrchfannau posibl i raddedigion, gan gynnwys:  
  • Y sector gwyddorau meddygol a bywyd – er enghraifft ym maes ymchwil, gwerthu a marchnata i gwmnïau fferyllol, technegwyr labordy.  
  • Ymchwil yn y gwyddorau meddygol a gwyddorau bywyd – er enghraifft, fel myfyriwr PhD neu dechnegydd yn y byd academaidd neu yn y sector ymchwil nid-er-elw.  
  • Rheoleiddio’r gwydorau meddygol a bywyd e.e.  Yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, Yr Asiantaeth Safonau Bwyd. 
  • Cymhwyster fel gweithiwr iechyd proffesiynol (ar ôl astudiaethau pellach), er enghraifft, meddygaeth i raddedigion, cymdeithion meddygol, cymhwyster milfeddygol neu ddeintyddol.  
  • Cymhwyster fel gweithiwr proffesiynol ym maes y gyfraith (ar ôl astudiaethau pellach), y gyfraith i raddedigion (yn enwedig eiddo deallusol, patentau).  
  • Addysgu gwyddoniaeth a thechnoleg mewn ysgolion a sefydliadau addysg bellach (ar ôl astudiaethau pellach). 
  • Mae gyrfaoedd perthnasol trwy gyrsiau trosi yn cynnwys y gyfraith a chyllid 

O ganlyniad, bydd ystod eang o yrfaoedd ar gael i raddedigion y rhaglen oherwydd bod galw mawr am eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u cymwyseddau. Bydd ein graddedigion hefyd wedi cael cyfleoedd unigryw i rwydweithio ag academyddion, ymchwilwyr, ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol sefydledig, fel rhan o'u modiwlau, eu prosiectau blwyddyn olaf, lleoliadau gwaith a /neu interniaethau, a all hefyd gynnig nifer o gyfleoedd gyrfa amhrisiadwy iddyn nhw. 

Geneteg, BSc (Anrh)

Geneteg gyda Blwyddyn Dramor, BSc (Anrh)

Geneteg gyda Blwyddyn Sylfaen ac gyda Blwyddyn Dramor, BSc (Anrh)

Genetics with a Foundation Year and Placement Year, BSc

Geneteg gyda Blwyddyn Sylfaen, BSc (Anrh)

Geneteg gyda Blwyddyn ar Leoliad, BSc (Anrh)

Geneteg, MSci (Anrh)

Genetics with a Foundation Year, MSci (Anrh)

Genetics with a Year Abroad, MSci (Anrh)

Genetics with a Placement Year, MSci (Anrh)