Gwyddoniaeth Gofal Iechyd (Ffiseg Ymbelydredd), BSc (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Radiationphysics

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd ein cwrs BSc mewn Ffiseg Ymbelydredd yn rhoi'r hyfforddiant arbenigol sydd ei angen arnoch i ddechrau gyrfa fedrus, gwerth chweil yn y proffesiwn gofal iechyd fel ffisegydd ymbelydredd.

Byddwch yn dysgu am y ffordd y defnyddir pelydrau-x, deunyddiau ymbelydrol, laserau ac ymbelydredd uwch-fioled mewn cyd-destun clinigol i gymryd delweddau o gleifion, diagnosio a thrin clefydau a monitro ymateb cleifion i driniaeth.

Byddwch hefyd yn meithrin dealltwriaeth glir o'r cyfreithiau a'r rheoliadau sy'n ymwneud â defnyddio ymbelydredd mewn cyd-destun clinigol ac egwyddorion asesu a rheoli risg.

Mae strwythur y cwrs yn golygu y byddwch yn cyfuno gwaith academaidd manwl â sgiliau ymarferol mewn amrywiaeth o leoliadau gofal iechyd arbenigol.

Mae Ffiseg Ymbelydredd yn faes hollbwysig i feddygaeth sy'n gofyn am lefel uchel o gyfrifoldeb a sgiliau technegol.  Fel ffisegydd ymbelydredd, byddwch yn defnyddio offer soffistigedig i fesur a chyfrifo'r dognau o ymbelydredd a dderbynnir gan gleifion yn ystod triniaeth a chan y staff sy'n ei rhoi.

Wrth i'ch gyrfa ddatblygu, byddwch yn gallu manteisio ar gyfleoedd ardderchog i ddatblygu eich ymarfer ac astudio ymhellach hyd at lefel gradd Meistr neu radd ddoethur.

Pam Gwyddoniaeth Gofal Iechyd (Ffiseg Ymbelydredd) yn Abertawe?

Rydym yn un o ddim ond llond llaw o brifysgolion yn y DU sy'n cynnig BSc mewn Ffiseg Ymbelydredd a'r unig brifysgol yng Nghymru.

Caiff ein cwrs ei achredu gan yr Ysgol Genedlaethol Gwyddorau Gofal Iechyd a Chofrestr y Technolegwyr Clinigol.

Mae llawer o'n staff academaidd yn gweithio fel gwyddonwyr gofal iechyd hefyd, gan gynnig cyfuniad heb ei ail o drylwyredd gwyddonol ac arbenigedd proffesiynol.

Mae lleoedd ar gael hefyd os ydych yn cael nawdd gan gyflogwr gofal iechyd ac, mewn rhai amgylchiadau, gallwn dderbyn lleoedd a hunanariennir gyda ffioedd dysgu safonol os gallwch ddod o hyd i'ch lleoliad gwaith eich hun.

Eich Profiad Gwyddoniaeth Gofal Iechyd (Ffiseg Ymbelydredd)

Mae ein cyfleusterau ardderchog yn yr ysgol iechyd a gofal cymdeithasol yn cynnwys ystafell glinigol realistig sy'n eich galluogi i roi eich gwybodaeth ddamcaniaethol ar waith mewn amgylchedd sy'n adlewyrchu'r amodau gwirioneddol y byddwch yn eu hwynebu pan fyddwch yn mynd ar leoliad, mor agos â phosibl.

Caiff hanner eich cwrs ei addysgu ar gampws Parc Singleton, nid nepell o ardal hardd Penrhyn Gŵyr, a byddwch yn cwblhau'r hanner arall mewn lleoliadau gofal iechyd. 

Mae gennym gysylltiadau cryf iawn â darparwyr gofal iechyd a byrddau iechyd yng Nghymru, sy'n golygu y gallwch fanteisio ar amrywiaeth eang o leoliadau clinigol.

Gyrfaoedd mewn Ffiseg Ymbelydredd

Cyflog cychwynnol y GIG ar gyfer Technolegwyr Ffiseg Feddygol yw tua £28,407, yn codi i £50,056. Mae llawer o gyfleoedd hefyd i weithio ym maes ymchwil, addysg, rheoli a'r sector preifat.

Ar ôl graddio, gallwch wneud cais i fod yn aelod o'r corff rheoleiddio, y Sefydliad Ffiseg a Pheirianneg mewn Meddygaeth, a dechrau gweithio fel ymarferydd annibynnol.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Gwyddoniaeth Gofal Iechyd (Ffiseg Ymbelydredd), BSc (Anrh)