Gofal Mamolaeth, Tystysgrif Addysg Uwch

Cydnabyddir gan UNICEF UK

matcare

Trosolwg o'r Cwrs

P'un a ydych chi'n dechrau arni, yn newid cyfeiriad neu'n dyfnhau eich arbenigedd, mae ein Tystysgrif Addysg Uwch arloesol mewn Gofal Mamolaeth yn cynnig man cychwyn pwerus i yrfa ystyrlon a gwobrwyol, neu astudiaethau academaidd pellach.

Mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio ar gyfer dysgwyr sydd â diddordeb mewn gofal mamolaeth neu ofal iechyd - neu ar gyfer y rhai hynny sydd eisoes yn gweithio yn y sector sydd am atgyfnerthu a ffurfioli eu sgiliau, ac mae wedi bod yn drywydd dibynadwy i lwybrau proffesiynol amrywiol ers 2014.

Hefyd ceir cyfle, ar ôl cwblhau'r llwybr hwn, i ddechrau Blwyddyn 2 o'r rhaglen BSc (Anrh.) mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn uniongyrchol, sy'n hwyluso dilyniant academaidd mewn ffordd ddidrafferth. Mae graddedigion hefyd wedi symud ymlaen i astudiaethau israddedig pellach ym meysydd Bydwreigiaeth, Nyrsio a disgyblaethau perthynol eraill â'r sgiliau a'r wybodaeth craidd ar gyfer ymarfer proffesiynol.

Mae'r rhaglen hon yn rhoi pwyslais cryf ar hunanymwybyddiaeth, cefnogaeth gyfannol a gofal cynhwysol. Byddwch chi hefyd yn meithrin gwybodaeth fanwl am:

  • Anatomeg, ffisioleg a newidiadau emosiynol wrth fod yn feichiog ac yn rhiant
  • Cyfathrebu, diwylliant ac amrywiaeth mewn gwasanaethau iechyd a mamolaeth
  • Cyd-destun cymdeithasol bywyd teuluol ac iechyd atgenhedlol yn y Deyrnas Unedig

Pam Astudio Gofal Mamolaeth ym Mhrifysgol Abertawe?

Byddwch yn astudio mewn adran sydd ag enw da yn rhyngwladol, ac mae ein haddysg bwydo babanod yn cyd-fynd â safonau Menter Cyfeillgar i Fabanod UNICEF y DU, a adlewyrchir yn yr achrediad Cam 1 a gyflawnwyd gan ein rhaglen fydwreigiaeth.

Mae gan ein Tîm Bydwreigiaeth ac Iechyd Atgenhedlol arbenigedd helaeth mewn gofal mamolaeth, gyda ffocws cryf ar roi grym i fenywod a theuluoedd drwy gydol beichiogrwydd, genedigaeth a chyfnod cynnar magu plant. Mae llawer o'r tîm yn ymchwilwyr gweithgar ym maes mamolaeth, ac maent oll wedi'u cymell i wella gwybodaeth a dealltwriaeth o gyrff, profiadau ac anghenion menywod yn ystod y broses bontio i fod yn fam.

Mae'r cwricwlwm hefyd wedi'i gynllunio mewn ymateb i'r galw cynyddol am rolau cymorth mewn gofal mamolaeth yn y DU. Mae ymwybyddiaeth gynyddol o rolau cymorth mamolaeth nad ydynt yn rhai bydwreigiaeth, gan gynnwys doulas ac addysgwyr cynenedigol, yn ogystal â chyfleoedd hyfforddi gwell ar gyfer Gweithwyr Cymorth Mamolaeth a nyrsys meithrinfa sy'n gweithio mewn lleoliadau ôl-enedigol. Mae'r rhaglen yn cefnogi'n uniongyrchol ddatblygiad y rolau hyn drwy ddarparu sylfaen wedi'i hachredu gan brifysgol mewn gofal mamolaeth, mynd i'r afael â bylchau mewn dilyniant proffesiynol a hyrwyddo mynediad hyblyg i fyfyrwyr at addysg uwch.

Mae addysg gynenedigol wedi'i chynnwys yn benodol yn y cwricwlwm fel canlyniad cyflogadwyedd allweddol, gan ganolbwyntio'n bennaf ar rôl addysg a pharatoi wrth gefnogi teuluoedd sy'n disgwyl yn ystod beichiogrwydd fel rhan o ofal mamolaeth ehangach.

Ar ôl cwblhau'r rhaglen byddwch wedi datblygu'r hyder, y strategaethau cyfathrebu, a’r ddealltwriaeth addysgegol angenrheidiol i ddarparu addysg gynenedigol gynhwysol, yn seiliedig ar dystiolaeth, mewn lleoliadau cymunedol neu wirfoddol. Bydd hyn yn cryfhau eich darpariaeth gwasanaethau a hefyd yn ehangu eich opsiynau llwybr gyrfa eich hun. Byddwch yn cael eich sefydlu fel ymarferydd annibynnol neu byddwch wedi gwella eich cyfleoedd cyflogadwyedd mewn rolau yn y GIG a'r trydydd sector.

Eich Profiad ym maes Gofal Mamolaeth

Mae'r Dystysgrif Addysg Uwch hon mewn Gofal Mamolaeth yn cynnwys 120 credyd gorfodol (pedwar modiwl 30 credyd) ar lefel 4.   Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno yn ystod semesterau prifysgol safonol, ar sail amser llawn neu ran-amser, a bydd myfyrwyr yn astudio ar y campws/drwy Zoom un diwrnod yr wythnos dros flwyddyn ar sail amser llawn ac un diwrnod bob pythefnos dros ddwy flynedd ar sail ran-amser. Bydd gweddill y dysgu yn cael ei ddarparu drwy ddysgu dan gyfarwyddyd.      

Mae'r rhaglen hon yn cael ei chyflwyno drwy ddull dysgu cyfunol, gan gynnig y gorau o'r ddau fyd i chi: strwythur a chymorth yn sgîl addysgu byw gyda'r rhyddid i ddysgu mewn ffordd sy'n gweddu i'ch bywyd chi. P'un a ydych chi'n cydbwyso gwaith, teulu, neu gyfrifoldebau eraill, mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i fod mor hygyrch ac addasadwy ag y mae ei angen arnoch.

Gallwch ddewis mynychu ar y safle neu ymgysylltu o bell drwy ddysgu o bell, a bydd cymorth pwrpasol, pa lwybr bynnag rydych chi'n ei gymryd. Cynhelir yr holl addysgu byw (wyneb yn wyneb neu drwy Zoom) ar ddiwrnod penodol i ddarparu amserlen gyson a rhagweladwy i chi. Caiff sesiynau eu recordio ac maent ar gael ar alw, gan roi hyblygrwydd llwyr i chi ddal i fyny neu ail-weld cynnwys ar adeg sy'n gweithio i chi.

Mae rhai elfennau dysgu wyneb yn wyneb wedi'u cynnwys i'ch helpu i feithrin sgiliau ymarferol a rhyngbersonol hanfodol. Mae'r rhain wedi'u trefnu'n ystyriol a'u cefnogi'n llawn i sicrhau bod pob dysgwr yn gallu cymryd rhan ac ymgysylltu. Gyda'r model cyflwyno hyblyg hwn, nid oes rhaid i chi ddewis rhwng eich uchelgeisiau a'ch ymrwymiadau presennol.

Gyrfaoedd gofal mamolaeth

Mae'r rhaglen yn ymgorffori sgiliau cyflogadwyedd allweddol, priodoleddau proffesiynol, ac ymwybyddiaeth entrepreneuraidd drwy bob modiwl, gan sicrhau eich bod wedi'ch paratoi'n dda ar gyfer eich datblygiad gyrfa yn y dyfodol, dilyniant academaidd, neu astudiaethau pellach.

Ar ôl cwblhau'r rhaglen mae nifer o gyfleoedd gyrfa ar gael i chi:

  • Doula hunangyflogedig
  • Addysgwr Cynenedigol
  • Gweithiwr Cymorth Mamolaeth/Cynorthwy-ydd Gofal Mamolaeth
  • Astudiaethau pellach: mae rhaglenni ar gael i'n myfyrwyr llwyddiannus a all ymgeisio i astudio graddau Bydwreigiaeth, Nyrsio ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys mynediad at Flwyddyn 2 o'r radd BSc (Anrh.) Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Gofal Mamolaeth, Tystysgrif Addysg Uwch

Gofal Mamolaeth, Tystysgrif Addysg Uwch