Gwyddor Barafeddygol ar gyfer Technegwyr Argyfwng Meddygol, BSc (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
EMT

Trosolwg o'r Cwrs

I gyflwyno cais am y cwrs hwn, rhaid i chi fod yn gweithio i Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, yn gweithio fel Technegydd Meddygol Brys ac yn bodloni'r gofynion mynediad a nodir isod.** 

Bydd y radd hon yn rhoi'r sgiliau, yr wybodaeth a'r priodoleddau hanfodol i chi ddechrau ar yrfa gyffrous a gwobrwyol fel Parafeddyg Cofrestredig. 

Byddwch yn dysgu am anatomeg a ffisioleg, systemau pennaf y corff a'r cyflyrau sy'n effeithio arnynt, sut i asesu cleifion ac adnabod cyflyrau sy'n peryglu bywyd a gallu rhoi cymorth bywyd. 

Byddwch hefyd yn datblygu dealltwriaeth o'r rôl a pherthnasedd ymchwil, cysyniadau o ofal cleifion ac egwyddorion cyfreithiol a moesegol gofal iechyd. 

Byddwch yn astudio meysydd craidd megis y gwyddorau ffisegol, bywyd a chlinigol, y gwyddorau cymdeithasol ac ymddygiadol, moeseg a'r gyfraith, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd y cyhoedd, asesu a rheoli cleifion, arweinyddiaeth ac ymarfer ar sail tystiolaeth. Mae'r pynciau hyn yn cael eu cysylltu drwy ddysgu yn yr ystafell ddosbarth a lleoliadau gwaith ymarferol, gan eich helpu i gysylltu damcaniaeth yn uniongyrchol â gofal cleifion yn y byd go iawn.  

Erbyn i chi raddio, byddwch yn barod i roi gofal diogel, effeithiol sy'n canolbwyntio ar bobl ar draws ystod o leoliadau; gweithio'n gynhwysol gyda chleifion, teuluoedd a thimau gofal iechyd; cymhwyso tystiolaeth i wella gofal; a pharhau i ddatblygu fel ymarferwr myfyriol drwy gydol eich gyrfa. 

Fel siaradwr Cymraeg, efallai y byddwch yn gallu cwblhau eich lleoliadau a'ch asesiadau yn Gymraeg. 

Pam Gwyddor Barafeddygol ar gyfer Technegwyr Argyfwng Meddygol yn Abertawe?

  • Yn 1af yn y DU (Guardian University Guide 2026) 
  • Yn yr 8fed safle yn y DU am Bynciau sy'n Berthynol i Feddygaeth (Times Good University Guide 2026)  
  • Mae 97% o raddedigion Gwyddor Barafeddygol yn gweithio a/neu'n astudio neu'n ymgymryd â gweithgareddau eraill megis teithio 15 mis ar ôl gadael Prifysgol Abertawe (Arolwg Hynt Graddedigion 2025) 

Mae gennym dros ddeng mlynedd o brofiad yn cefnogi darpar barafeddygon drwy eu taith addysgol. 

Mae ein cwrs wedi'i gymeradwyo gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal, gan eich galluogi chi i gyflwyno cais am statws cofrestredig ar ôl cwblhau'r cwrs.  Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol i unrhyw un sy'n dymuno gweithio fel parafeddyg. 

Mae llawer o'n staff addysgu hefyd yn barafeddygon cofrestredig sy'n dal i weithio yn y maes, gan gynnig cyfuniad digymar o fanylrwydd academaidd ac arbenigedd proffesiynol. 

Eich Profiad Gwyddor Barafeddygol ar gyfer Technegwyr Argyfwng Meddygol

Ym Mhrifysgol Abertawe, byddwch yn dysgu mewn amgylcheddau ymarferol, rhagorol sy'n eich helpu i feithrin hyder o'r diwrnod cyntaf. Mae ein cyfleusterau rhagorol yn cynnwys y Ganolfan Efelychu a Dysgu Ymdrochol (SUSIM), sy'n cynnwys ystafelloedd clinigol realistig lle gallwch feithrin sgiliau ymarferol mewn lleoliad diogel dan oruchwyliaeth. Byddwch hefyd yn elwa o brofiadau ymdrochol yn y gweithle yng nghanolfan hyfforddiant Gwasanaethau Ambiwlans Cenedlaethol Cymru.

Ynghyd ag addysgu wyneb yn wyneb, byddwch yn defnyddio offer digidol arloesol megis y Gofod Dysgu ar gyfer efelychiadau clinigol, gan roi adborth fideo'n uniongyrchol i chi er mwyn cryfhau eich dysgu. Mae realiti rhithwir yn cefnogi eich addysgu anatomeg ymhellach, gan eich helpu i ddeall yr organau a systemau'r corff mewn ffordd hynod ryngweithiol. 

Byddwch yn ymuno â charfan glos gydag ymdeimlad cryf o gymuned, a gefnogir drwy addysgu mewn grwpiau bach, lleoliadau gwaith a gofal bugeiliol hygyrch. Mae myfyrwyr hefyd yn elwa o ddysgu rhyngbroffesiynol a chyfleoedd i gymryd rhan mewn prosiectau wedi'u cyd-greu ac ymgysylltu â'r cyhoedd. Mae ein Cymdeithas Parafeddygon fywiog yn ychwanegu at y profiad gyda digwyddiadau megis Dawns yr Haf flynyddol, gweithgareddau codi arian, siaradwyr gwadd a gwirfoddoli mewn ymarferion argyfyngau mawr. Mae gan fyfyrwyr rôl weithgar wrth gynrychioli'r gwasanaeth, gyda phenodiadau diweddar i gyrff y brifysgol a pharafeddygon cenedlaethol. 

Caiff hanner y cwrs ei addysgu ar Gampws Parc Singleton ar ymyl tirwedd hyfryd Penrhyn Gŵyr, gyda gweddill yr amser yn cael ei dreulio ar leoliadau gwaith allweddol gyda'r GIG a Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, gan gynnwys mewn ambiwlansys ac mewn ysbytai megis theatrau llawdriniaeth ac adrannau achosion brys.

Cyfleoedd Cyflogaeth Gwyddor Barafeddygol ar gyfer Technegwyr Argyfwng Meddygol

Mae'r rhan fwyaf o'n graddedigion Gwyddor Barafeddygol yn cael rolau clinigol naill ai gyda'r GIG neu yn y sector preifat. Y cyflog cychwynnol ar gyfer parafeddygon cofrestredig gyda'r GIG yw oddeutu £31,409 (www.nhsbands.co.uk) ynghyd â thaliad o hyd at 25% am weithio oriau anghymdeithasol (www.nhsemployers.org). Gall cyflogau yn y sector preifat fod yn sylweddol uwch gan ddibynnu ar y lleoliad. 

Mae cyfleoedd i barafeddygon sydd â phrofiad clinigol a phroffil addysgol priodol fynd ymlaen i fod yn Ymarferwyr Parafeddygol arbenigol, yn Ymarferwyr Parafeddygol Uwch neu'n Barafeddygon Ymgynghorol. Mae cyfleoedd hefyd i symud i feysydd rheolaeth neu addysg. 

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Gwyddor Barafeddygol ar gyfer Technegwyr Argyfwng Meddygol, BSc (Anrh)