Trosolwg o'r Cwrs
Lansiwch eich gyrfa yn y diwydiant awyrofod dynamig gyda'n gradd BEng Peirianneg Awyrofod ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae Peirianneg Awyrofod ym Mhrifysgol Abertawe'n rhoi i chi hyfforddiant arbenigol mewn damcaniaeth a gweithrediad cerbydau awyrenegol ac astronotegol, o awyrennau wedi'u pweru gan injan jet i leidwyr a hofrenyddion wedi’u gyrru gan bropelor.
Bydd ein rhaglen yn rhoi i chi sylfaen gadarn mewn mathemateg, mecaneg, deunyddiau, thermohylifau, peirianneg ddigidol ac ymarfer proffesiynol, a gefnogir ymhellach gan ddysgu damcaniaethol ac yn y labordy.
P'un a oes gennych ddiddordeb mewn dylunio, dadansoddi neu hedfan, bydd ein rhaglen yn rhoi i chi'r cymhwysedd technegol, yr ymwybyddiaeth feirniadol a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen i gyfrannu at ddyfodol y sector awyrofod a llwyddo ynddo.
Mae'r Flwyddyn Sylfaen ddewisol sy'n rhan o'r rhaglen hon yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i addysg uwch, ac yn sicrhau bod gennych y sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch chi i lwyddo yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig fwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd i fyd addysg ar ôl seibiant. Ar ôl i chi gwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch chi'n symud ymlaen i Flwyddyn 1 eich gradd BEng.
Mae'r rhaglen hon ar gael hefyd fel MEng 4 blynedd, sef gradd israddedig uwch, gan ychwanegu blwyddyn sy'n canolbwyntio ar ymchwil at eich gradd. Mae ein rhaglen MEng yn arwain at gymhwyster lefel meistr, yn ogystal â'ch gradd israddedig, gan roi i chi hyfforddiant gan arbenigwyr a llwybr at amrywiaeth o yrfaoedd arbenigol.