Rhaglen ar gyfer Gwella Sgiliau Digidol ac Iaith

Rydym yn helpu pobl i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu ac iaith digidol

Rydym yn helpu pobl i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu ac iaith digidol

Yr Her

Yng Nghymru, mae'r sgiliau digidol y mae eu hangen ar gyfer yr economi newydd ar ei hôl hi o’u cymharu â gweddill y DU gyda grwpiau ar y cyrion gan gynnwys pobl ifanc, mewnfudwyr, ffoaduriaid a cheiswyr lloches, yn wynebu nifer o broblemau a rhwystrau sy'n effeithio ar eu sgiliau cyfathrebu digidol.

Drwy ddarparu hyfforddiant datblygu sgiliau digidol ar gyfer unigolion a sefydliadau yn Abertawe, mae prosiect PEDALS (Rhaglen ar gyfer Gwella Sgiliau Digidol ac Iaith) yn mynd i'r afael â'r heriau a wynebir gan bobl ar y cyrion yn y gymuned ac yn gwella bywydau pobl sy'n byw ac yn gweithio yn y ddinas.

Y Dull

Gan ddefnyddio ystod eang o arbenigedd yn y Celfyddydau a'r Dyniaethau, mae prosiect PEDALS yn gweithio i ddiwallu anghenion gwahanol y gymuned ac yn meithrin cyfnewid gwybodaeth, datblygu yn y gweithle, ymgysylltu â’r cyhoedd wrth hefyd wella cysylltiadau â diwydiant.

Mae ar gyfer cwmnïau newydd, mentrau cymdeithasol a'r sector gwirfoddol y mae eu hadnoddau ariannol yn aml yn brin er mwyn diweddaru eu sgiliau, ac ar gyfer dysgwyr ar y cyrion hefyd, felly mae'r prosiect wedi canolbwyntio ar bedwar maes allweddol o gymorth cymunedol:

1. Sgiliau Digidol yn y Gweithle

Mae'r prosiect yn helpu cwmnïau newydd, mentrau cymdeithasol a grwpiau nid er elw yn ardal Abertawe i wella sgiliau cyfathrebu digidol eu gweithlu.

Ar y cyd ag ymgynghorwyr cyfryngau digidol, Seren Global Media, gwnaeth myfyrwyr sy’n astudio’r Cyfryngau a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Abertawe lunio a chyflwyno cyfres o fodiwlau hyfforddiant DPP yn y gweithle byr a oedd yn canolbwyntio ar sgiliau'r cyfryngau cymdeithasol, strwythuro gwefan, ysgrifennu digidol a graffigwaith digidol.

2. Sgiliau Digidol drwy Greu Ffilmiau

Ar y cyd â'r Ganolfan ar gyfer Ymchwil a Hyfforddiant Treftadaeth (CHART), Canolfan y Celfyddydau TaliesinLeonard Cheshire a Choleg Gŵyr Abertawe, mae’r prosiect wedi darparu hyfforddiant cyfathrebu drwy ffilm, ffotograffiaeth ac animeiddio i wella llythrennedd a sgiliau digidol ymhlith pobl ifanc 16 i 18 oed sy’n fyfyrwyr ar y cwrs Sgiliau Byw’n Annibynnol yng Ngholeg Gŵyr.

Gweithiodd myfyrwyr gyda thîm o artistiaid a gwneuthurwyr ffilm proffesiynol i greu eu ffilm ddogfen eu hunain am Abertawe, yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol. Cymeron nhw ran mewn amrywiaeth o ymweliadau â safleoedd i archwilio etifeddiaeth, diwydiant ac arloesi amgylcheddol, gan gynnwys y Bioburfa Algae ym Mhurfa Nicel Vale, sy’n rhan o brosiect RICE (Lleihau Allyriadau Carbon Diwydiannol).

Nod yr hyfforddiant mewn technoleg ddigidol yw helpu i ddatblygu hyder, sgiliau digidol ac ymlyniad dinesig pobl ifanc.

3. Sgiliau Iaith ac Addysgu

Dan arweiniad tîm Gwasanaethau Hyfforddiant Iaith Saesneg (ELTS) yn Academi Llwyddiant Academaidd Prifysgol Abertawe (SAAS) gan ddefnyddio cysylltiadau a phartneriaethau â grwpiau ac elusennau cymunedol lleol, bydd y prosiect yn mynd i'r afael â rhwystrau ieithyddol i gyflogaeth.

Darperir dosbarthiadau iaith Saesneg achrededig am ddim i ddysgwyr newydd i lefel canolradd er mwyn eu helpu i gael eu cynnwys yn well yn y gymuned ac i gael mynediad yn fwy effeithiol at addysg bellach, hyfforddiant a gwaith.

Caiff y dosbarthiadau eu cyflwyno ar-lein gan alluogi dysgwyr na fyddent fel arfer yn gallu mynd i ddosbarthiadau rheolaidd oherwydd cyfrifoldebau gofalu, teithio etc. i gymryd rhan.

4. Cymorth gyda Sgiliau Cyflogaeth i Ffoaduriaid

Mewn cydweithrediad ag Unity in Diversity a Chyngor Ffoaduriaid Cymru, darparwyd hyfforddiant i baratoi ffoaduriaid a cheiswyr lloches am waith. Nod y gweithdai oedd mynd i’r afael â rhwystrau diwylliannol i gyflogaeth ac allgau ieithyddol a digidol, gan gyflwyno cyfranogwyr i sefydliadau lleol sy’n cefnogi cyflogaeth. Cynhaliwyd yr hyfforddiant dros ddau ddiwrnod llawn, ac ad-dalwyd cludiant a darparwyd gofal plant ar y safle i ddileu rhwystrau i gyfranogiad. Trefnwyd sesiwn ddilynol gyda Gyrfaoedd Cymru, gan gysylltu’r bobl a ddaeth â ffynhonnell gynaliadwy leol o gymorth.

Yr Effaith

Mae gwaith PEDALS yn cyfrannu at greu cymdeithas fwy cyfartal, cydlynol a chadarn ac mae'n cefnogi statws Abertawe fel Dinas Noddfa.

Mae'r prosiect eisoes wedi gweld nifer o lwyddiannau:

  • 8 sefydliad wedi cofrestru ar gyfer y rhaglen Sgiliau Digidol yn y Gweithle;
  • 9 dysgwr wedi cwblhau'r rhaglen Sgiliau Iaith ac Addysgu wrth i 2 athro newydd gymhwyso gwirfoddol ddatblygu eu hymarfer proffesiynol ymhellach;
  • Derbyniodd 26 o gyfranogwyr gymorth gyda Sgiliau Cyflogaeth i Ffoaduriaid.

Nod y prosiect bellach yw:

  • profi potensial prosiectau mawr i dargedu Cyllid o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin;
  • meithrin partneriaethau i ddatblygu gwaith;
  • datblygu platfform ar gyfer sgiliau digidol a chyfathrebu i ddangos gwerth arbenigedd yn y Celfyddydau a'r Dyniaethau wrth ddatblygu sgiliau unigolion, cymunedau a busnesau ar draws y rhanbarth.
Text reads themau ymchwil prifysgol abertawe