An aerial view of Singleton Campus and the bay opposite
Dr Sian Rees

Yr Athro Sian Rees

Dirprwy Ddeon Gweithredol, Criminology, Sociology and Social Policy

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602636

Cyfeiriad ebost

107
Llawr Cyntaf
Adeilad Keir Hardie
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Sian Rees yn Athro ym Mhrifysgol Abertawe sy’n arbenigo mewn cysylltiadau cyhoeddus, marchnata a brandio. Hi yw Pennaeth adran academaidd y Cyfryngau a Chyfathrebu a Chyfarwyddwr Rhaglen MA Cyfathrebu, Arferion y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus. Mae Sian yn Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch, yn gyn-enillydd Gwobr Addysgu Nodedig y Brifysgol ac mae wedi bod yn falch iawn o arwain y tîm Cyfryngau a Chyfathrebu i wella sgoriau’r Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Yn ystod ei gyrfa yn y diwydiant yn Llundain, gweithiodd Sian i sefydliad Haymarket Publishing Michael Heseltine fel Cyfarwyddwr Cyhoeddi grŵp cylchgronau Stuff a What Hi-Fi?, a bu’n rheolwr gyfarwyddwr ei chwmni ymgynghori marchnata a chysylltiadau cyhoeddus ei hun. Mae ei phrofiad o’r diwydiant wedi cynnwys datblygu a rhedeg ymgyrchoedd cysylltiadau cyhoeddus a marchnata strategol ar gyfer y sectorau Nwyddau Defnyddwyr sy’n Symud yn Gyflym, manwerthu, adloniant, meddygaeth, addysg a thechnoleg. Cyn dechrau darlithio, bu Sian yn gweithio fel Rheolwr Marchnata Strategol yma ym Mhrifysgol Abertawe hefyd.

 

Meysydd Arbenigedd

  • Cysylltiadau Cyhoeddus
  • Brandio
  • Cyfathrebu Corfforaethol
  • Rheoli Enw Da
  • Cyflogadwyedd mewn Addysg Uwch

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae ffocws addysgu Sian wedi bod ar ymgorffori sgiliau cyflogadwyedd a dysgu o fewn y cwricwlwm ac mae’n parhau i weithio gydag amrywiaeth o sefydliadau yn y sector masnachol a’r sector cyhoeddus i hwyluso profiad lleoliad gwaith a chyfleoedd i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig. Mae hi wedi cyflwyno a datblygu ontoleg cyflogadwyedd o fewn addysg uwch.

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau