Chwaraeon Ieuenctid

Rydyn ni’n gwella chwaraeon ieuenctid

Rydyn ni’n gwella chwaraeon ieuenctid

Yr Her

Gall cyfranogiad neu ymddygiad amhriodol ar ran rhieni mewn chwaraeon ieuenctid ddylanwadu ar brofiadau chwaraeon plant mewn ffordd negyddol a gall gyfrannu at eu hatal rhag cyfranogi. Yn anffodus, gellir gweld digwyddiadau o ymddygiad drwg rhieni ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol.

Gan fod gan chwaraeon y potensial i ddylanwadu’n gadarnhaol ar iechyd corfforol, seicolegol a chymdeithasol plant, mae’n bwysig helpu plant i fwynhau chwaraeon a pharhau i gyfranogi.

Y DULL

Mae'r Athro Camilla Knight a’i thîm wedi bod yn gweithio gyda rhieni, sefydliadau chwaraeon a thimau ledled y byd, ynghyd ag Uned Diogelu Plant mewn Chwaraeon yr NSPCC, i archwilio’r ffactorau unigol, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol sy’n dylanwadu ar ymddygiad rhieni mewn chwaraeon.

Yr Effaith

  • Mae ymchwil yr Athro Knight wedi annog newid byd-eang yn y ffordd mae rhieni a gweithwyr proffesiynol mewn chwaraeon ieuenctid yn gweithio gyda’i gilydd, gan wella perthnasoedd a rhyngweithiadau.
  • Mabwysiadwyd argymhellion gan sefydliadau chwaraeon lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae’r rhain yn cynnwys:
    • Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe,
    • Academi Tennis Abertawe,
    • Chwaraeon Cymru,
    • Undeb Rygbi Cymru,
    • Undeb Rygbi a Phêl-droed,
    • British Cycling,
    • Uned Diogelu Plant mewn Chwaraeon yr NSPCC,
    • Active for Life yng Nghanada,
    • Canada Soccer,
    • a Sport New Zealand.
  • Mewn cydweithrediad â’r Uned Diogelu Plant mewn Chwaraeon, mae gwaith yr Athro Knight wedi tanategu ymgyrch genedlaethol ar y cyfryngau cymdeithasol “Wythnos Rhieni mewn Chwaraeon”, sydd wedi hwyluso polisi ac ymarfer cenedlaethol a rhyngwladol ac mae wedi cyfrannu at ddechrau ymgysylltu â rhieni pobl ifanc sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon. Mae’r ymgyrch hon wedi dylanwadu’n gadarnhaol ar ymgysylltu â thros 20,000 o rieni a’u plant ledled y byd dros y tair blynedd diwethaf.
Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe