Dylan Thomas: gwella gwybodaeth y cyhoedd, ysgogi allgymorth addysgol a llywio strategaeth gelfyddydol

Rydym yn archwilio lle Cymru yn y Byd trwy lenyddiaeth Dylan Thomas

Rydym yn archwilio lle Cymru yn y Byd trwy lenyddiaeth Dylan Thomas

Yr Her

Ar ddechrau The Bell Jar, mae Sylvia Plath yn dwyn Dylan Thomas i gof. Olrheiniodd y bardd Kenneth Rexroth darddiad y mudiad Beat yn yr 1950au i Thomas, ac anelodd Jack Kerouac (awdur On the Road) at efelychu Dylan Thomas yn ei recordiadau o farddoniaeth. Bu John Berryman, a fyddai’n tywys i mewn gyfnod newydd o arbrofi barddol, yn cadw gwylnos wrth erchwyn gwely Thomas yn Ysbyty St Vincent, Efrog Newydd, lle bu farw’r Cymro ar 9 Tachwedd 1953, ac yn fuan wedyn, trawsnewidiodd Robert Zimmerman ei hun i fod yn Bob Dylan yn nrych barddoniaeth Thomas.

Pam y cafodd pedwar ymweliad Dylan Thomas â’r Unol Daleithiau ar ddechrau’r 1950au gymaint o effaith? Beth yng ngwaith Thomas a'i gwnaeth yn ffigwr mor ganolog yn niwylliant llenyddol America yn yr 1950au? Mae’r cwestiynau hyn yn berthnasol i faterion sy’n ymwneud ag enw da llenyddol, dylanwad llenyddol a throsglwyddo diwylliannol, ac yn golygu bod angen ystod o ddulliau i geisio eu hateb.

Y Dull

Yn 2014, canmlwyddiant geni Thomas, comisiynodd Llenyddiaeth Cymru, gyda chefnogaeth y British Council, 'Dylan Live', sef perfformiad amlgyfrwng teithiol sy'n seiliedig ar ymchwil yr Athro Daniel Williams i'r cwestiynau hyn. Yn fwy diweddar, mae Williams a Phrifysgol Abertawe wedi cydweithio â Chanolfan Harry Ransom yn Austin Texas i ddigideiddio papurau Thomas a gedwir yn y ddau sefydliad, gan sicrhau bod y gweithiau ar gael i gynulleidfa fyd-eang.

Mae prosiect diweddaraf yr Athro Daniel Williams wedi ceisio defnyddio’r deunyddiau hyn sydd newydd eu digideiddio i fapio’r rhwydweithiau llenyddol rhyngwladol a sefydlodd Thomas yn ystod ei oes. Mae’r gwaith hwn yn tynnu ar arbenigwyr ym maes dadansoddi rhwydweithiau cyfrifiadurol er mwyn ein helpu i ddeall y ffyrdd y mae enw da llenyddol yn cael ei sefydlu mewn marchnad lenyddol fyd-eang.

Mae gwaith yr Athro Williams wedi esgor ar erthyglau a llyfrau cyhoeddedig ar gyfer cynulleidfa academaidd, sioe amlgyfrwng o fri rhyngwladol, a digideiddio daliadau archif a deunydd addysgol ar gyfer Cyfnodau Allweddol 4 a 5 mewn ysgolion uwchradd a oedd yn anhygyrch yn flaenorol.

Yr Effaith

Mae 'Dylan Live' wedi cyfoethogi arfer artistig, wedi gwella gwybodaeth y cyhoedd, wedi dylanwadu ar strategaeth gelfyddydol, ac wedi arwain at allgymorth addysgol.

Yr Effaith ar Artistiaid

Mae arfer diwylliannol fel arfer yn cael ei rannu'n ieithyddol yng Nghymru. Torrodd 'Dylan Live' y mowld hwn, gan ganiatáu i feirdd siarad ag etholaethau gwahanol a chyrraedd cynulleidfaoedd ehangach. Mae’r bardd Cymreig a Llydewig, Karadog, wedi pwysleisio'r modd ‘y dyfnhaodd fy nealltwriaeth a’m gwybodaeth o fywyd a gwaith Thomas trwy weithio ar 'Dylan Live'', gan gadarnhau bod 'hyn, yn ei dro, wedi dylanwadu ar fy ysgrifennu'. Roedd rhan yr artist a'r dinesydd Martin Daws yn y sioe wedi hyrwyddo ymdeimlad o integreiddio yng Nghymru iddo: 'A minnau'n fewnfudwr o Sais i Gymru, mae hyn wedi bod o werth personol a phroffesiynol mawr i mi. Mae llawer o’r budd yr wyf wedi bod yn ddigon ffodus i dynnu arno o’n gwaith cydweithredol i'w weld yn amlwg yn fy nghasgliad o gerddi am Ogledd Cymru, Geiriau Gogs (2016)'. I'r bardd dwyieithog, Zaru Jonson, roedd gweithio ar 'Dylan Live' 'wedi rhoi i mi ymdeimlad cyffyrddadwy a dwfn iawn o'r etifeddiaeth ddiwylliannol a'r dynged ehangach yr oeddwn yn syrthio iddynt trwy wneud yr hyn rwy'n ei wneud yng Nghymru'. Mae'r pwyslais ar 'groesi', 'dyfnder' ac 'etifeddiaeth ddiwylliannol' yn siarad â phroses greadigol a drawsnewidiodd hunanadnabyddiaeth ac arferion barddonol.

Yr Effaith ar Gynulleidfaoedd

Cyrhaeddodd 'Dylan Live' 2,300 o bobl trwy 11 o berfformiadau yng Nghymru, Llundain ac Efrog Newydd (a chafwyd hefyd dros 700 o ymweliadau ar YouTube). Dewisodd y British Council 'Dylan Live' yn rhan o'i gyfraniad i'r PEN World Voices Festival yn Efrog Newydd (2014). Y bardd enwog o Wyddel, Paul Muldoon, a gyflwynodd y sioe, gan adlewyrchu ei statws yn yr ŵyl, a bu’r cast yn gweithio gyda Sarah Montague (Uwch-gynhyrchydd, WNYC Radio), a ganmolodd 'modd anturus ac arloesol' y perfformiad, gan nodi ei fod wedi ei hysgogi i fynd ar wefan Williams, 'i edrych am eich llyfrau'. Roedd yr adolygydd Laurie Muchnik ymhlith y gynulleidfa o 200 yn y perfformiad yn Efrog Newydd, a bu'n dathlu'r 'amlgyfrwng Dylan Thomas' ym mhrif gylchgrawn llyfrau America, Kirkus Reviews. Nododd fod y perfformiad wedi arwain at ddealltwriaeth ehangach o'r ffurfiau gwahanol y gallai llenyddiaeth gael ei chyflwyno ynddynt yn y byd cyfoes, gan felly baratoi'r tir ar gyfer testunau a chynulleidfaoedd newydd.

Yr Effaith ar y Strategaeth Gelfyddydol

Cafodd 'Dylan Live' effaith bellgyrhaeddol ar strategaeth gelfyddydol Llenyddiaeth Cymru. Mae’r Prif Weithredwr, Lleucu Siencyn, yn adrodd bod yr 'archwiliadau tairieithog (Saesneg-Cymraeg-Llydaweg) o 'Dylan Live' wedi ysbrydoli a thrwytho rhan Llenyddiaeth Cymru yn nigwyddiadau’r ieithoedd Celtaidd yn ystod Blwyddyn Ieithoedd Brodorol UNESCO (2019), a bod perfformiad Efrog Newydd o 'Dylan Live’ wedi 'galluogi Llenyddiaeth Cymru i sefydlu perthynas waith barhaus â'r ŵyl PEN, elfen a arweiniodd at gydweithio pellach ag awduron o Gymry, yn cynnwys cyn-Fardd Cenedlaethol Cymru, Gillian Clarke'.

At hyn, bu i'r profiad o gomisiynu 'Dylan Live' ddylanwadu ar gyfeiriad strategol Llenyddiaeth Cymru: 'Roedd 'Dylan Live' wedi addysgu Llenyddiaeth Cymru yn y broses o reoli a chynhyrchu cynyrchiadau trawsgelfyddydol arbrofol, a bu’n allweddol yn y newid yn ein rôl o fod yn gyllidwr digwyddiadau i fod yn hwylusydd ac yn arloeswr sy'n cefnogi ac yn galluogi prosiectau cydweithredol'. Roedd llwyddiant y sioe, 'ynghyd â'r newid mewn strategaeth' a ddeilliodd o'i llwyddiant, 'wedi arwain at ein hymgyrch lwyddiannus i ddathlu canmlwyddiant Roald Dahl ddwy flynedd yn ddiweddarach'.

Yr Effaith ar Addysg

Mae 'Dylan Live' yn cael gofod amlwg ar y llwyfan a'r ap gwe a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru (), lle darperir deunyddiau Dylan Thomas ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd (Cyfnodau Allweddol 2-4). Gweithredodd Williams yn rôl cynghorydd, ac mae enw'r safle wedi'i ysbrydoli gan ymchwil Williams. Mae'r cwmni cynhyrchu a greodd yr adnoddau, sef Telesgop, yn adrodd bod 'Williams wedi chwarae rhan fawr yn y digwyddiadau byw y buom yn eu ffilmio', gan gynnwys sawl cyfweliad ag ef yn y Gymraeg a'r Saesneg. Roedd Telesgop wedi 'ymgorffori rhannau o [Dylan Live]' er mwyn dangos cysylltiadau trawsiwerydd Thomas, ac roedd 'creadigrwydd a gallu Williams i gyfathrebu â’r gynulleidfa darged' wedi bod 'yn fantais aruthrol' i’r prosiect, sydd, oddi ar hynny, wedi darparu model ar gyfer rhagor o adnoddau addysg ar awduron Cymreig canonaidd, a gynhyrchwyd gan Telesgop.

Adroddodd papur newydd y Guardian am y brwdfrydedd a fynegodd yr addysgwr, Hannah Ellis – sydd hefyd yn wyres i Dylan Thomas ac yn Rheolwr Ymddiriedolaeth Dylan Thomas – ynghylch y sioe 'Dylan Live'. Mae’n nodi bod y sioe wedi 'darparu gwerthfawrogiad newydd o waith ysgrifennu fy nhad-cu ymhlith cenhedlaeth iau' ac wedi 'helpu i ddatblygu diddordeb cyhoeddus ac academaidd yn ei waith'.

Mae effaith 'Dylan Live' yn parhau. O ganlyniad i'r sioe, cafodd Daniel Williams wahoddiad gan yr Athro Kurt HeinzelmanPrifysgol Texas yn Austin i ddarlithio ac addysgu ar Dylan Thomas yn America ym mis Chwefror 2017, ac arweiniodd hyn at brosiect trawsiwerydd tirnod i ddigideiddio papurau Thomas a gedwir ym Mhrifysgol Abertawe a Chanolfan Harry Ransom, gan agor y deunydd hwn i gynulleidfa fyd-eang.

Text reads themau ymchwil prifysgol abertawe