Gwneud hanes a chyfraniadau menywod o leiafrifoedd ethnig yn fwy gweladwy

Rydym yn gwneud hanes/chyfraniadau menywod lleiafrifoedd ethnig yn fwy gweladwy

Rydym yn gwneud hanes a chyfraniadau menywod lleiafrifoedd ethnig yn fwy gweladwy

Yr Her

Yn hanesyddol, mae cyfraniad menywod, yn enwedig menywod o blith lleiafrifoedd ethnig, wedi cael ei anwybyddu neu ei golli. Trwy ei hymchwil feirniadol a chreadigol, mae’r Athro Jasmine Donahaye wedi ceisio adennill naratifau cymunedol a theuluol a hanesion bywyd sydd wedi cael eu mygu, a thynnu sylw at brofiadau menywod a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru sydd wedi cael eu hesgeuluso, yn enwedig yn achos y gymuned Gymreig Iddewig.

Yn ei hymchwil gyfredol, mae'r Athro Donahaye yn canolbwyntio ar brofiad menywod a phobl a chanddynt liw o gael eu hallgáu o fyd natur, ac ar ymyleiddio menywod ym maes ysgrifennu am natur.

Y Dull

Bu’r Athro Donahaye yn ymchwilio i lenyddiaeth gyhoeddedig a heb ei chyhoeddi, yn adfer tystiolaeth ddogfennol gudd, ac yn casglu hanes llafar a naratifau teuluol yng Nghymru, Lloegr ac Israel, gan gyfuno ymchwil academaidd ac archifol draddodiadol â gwaith ffeithiol greadigol a ffurfiau eraill ar ysgrifennu creadigol.

Yr Effaith

Adferodd yr Athro Donahaye hanes a llenyddiaeth menywod Cymreig-Iddewig coll, gan newid canfyddiadau cymunedol a dyfnhau ymwybyddiaeth y cyhoedd o hanes amlddiwylliannol Cymru, ynghyd ag amlygu anweledigrwydd menywod Cymru yng nghoffadwriaeth y cyhoedd, yn enwedig menywod o blith lleiafrifoedd ethnig.

Mae ei gwaith cyhoeddedig wedi cynnwys cyfrol sy'n torri tir newydd, sef cofiant yr awdur Cymreig Iddewig, Lily Tobias, The Greatest Need, ynghyd â'r cofiant arobryn, Losing Israel, a enillodd Wobr Llyfr y Flwyddyn Cymru yn y categori Ffeithiol Greadigol, a chael ei gynnwys yn rhestr y Telegraph o'r llyfrau teithio gorau ar gyfer 2015.

Cyfrannodd y cwestiynau a fynegwyd gan yr Athro Donahaye ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn y wasg brint a phapurau newydd safonol ynghylch anweledigrwydd menywod, absenoldeb cerfluniau o fenywod, ac esgeuluso profiad y lleiafrifoedd Cymreig, at gomisiynu'r cerflun cyntaf o fenyw hanesyddol yng Nghymru, tra arweiniodd ei hymwneud ag astudiaethau Iddewig at sefydlu Cymdeithas Astudiaethau Iddewig Cymru.

Enillodd casgliad o draethodau cydgysylltiedig yn archwilio'r cyfyngiadau a'r ffiniau a roddwyd ar brofiad menywod o fyd natur Wobr Rheidol 2021 am Ysgrifennu ac iddo Thema neu Leoliad Cymreig, a bydd yn cael ei gyhoeddi yn 2023.

Yn 2017, darlledodd S4C raglen ddogfen yn seiliedig ar gofiant Lily Tobias yr Athro Donahaye, a chafodd ei rhaglen ddogfen Statue No.1 ar fenywod anweledig a'r cerflun cyntaf o fenyw hanesyddol yng Nghymru ei chomisiynu a'i darlledu gan BBC Radio 4 yn 2019.

Text reads themau ymchwil prifysgol abertawe