(Ail)Darganfod Gweledigaethau Ewropeaid o Gymru

Rydym yn cyfoethogi arferion addysgol a chreadigol Cymru

Rydym yn cyfoethogi arferion addysgol a chreadigol Cymru

Yr Her

Mae ysgrifennu taith am Gymru yn aml wedi’i guddio mewn adroddiadau am deithio i ‘Loegr’ neu’n cael ei anwybyddu oherwydd ei fod yn gweithredu fel parth tramwy i deithwyr ar eu ffordd i Iwerddon. Mae hyn yn adlewyrchu mater ehangach mewn perthynas ag ‘anweledigrwydd’ diwylliannol Cymru fel cenedl leiafrifol. Hyd yn oed lle mae diddordeb mewn cenhedloedd ‘Celtaidd’, mae Cymru yn aml wedi cael ei hanwybyddu yn y dychymyg artistig a beirniadol o blaid yr Alban ac Iwerddon. Mae'r anweledigrwydd sy’n dilyn yn y cyd-destun diwylliannol Ewropeaidd ehangach ac mewn ysgrifennu taith yn arbennig yn gadael Cymru fel rhywbeth o genedl drychedig, wedi'i chuddio rhwng Lloegr ac Iwerddon.

Mae’r ymchwil hwn yn archwilio ac yn herio’r canfyddiadau blaenorol hyn o Gymru fel gwlad ‘anhysbys’ ac ‘anweledig’ mewn ysgrifennu taith Ewropeaidd drwy ddatgelu safbwyntiau Ewrop gyfandirol am Gymru ers 1750.

Y Dull

Mae 'Teithwyr Ewropeaidd i Gymru: 1750-2010' yn brosiect ymchwil ar y cyd gan Brifysgol Bangor (Yr Athro Carol Tully - Prif Ymchwilydd), Prifysgol Abertawe (Dr Kathryn Jones - Cyd-Ymchwilydd) a'r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig ac Astudiaethau Celtaidd (Yr Athro Heather Williams - Cyd-Ymchwilydd).

Dyfarnwyd cyllid prosiect AHRC (£420,000) iddo i ymchwilio i gynrychiolaeth Cymru a ‘Chymreictod’ mewn testunau gan deithwyr Ewropeaidd o 1750 hyd heddiw.

Mae’r prosiect hefyd wedi cydweithio gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru; Amgueddfa Abertawe; Amgueddfa Ceredigion; Storiel Bangor; ysgolion cynradd yn ne Cymru ac addysg oedolion; rhwydwaith Seren; Dinas Noddfa Abertawe; Sefydliad Materion Cymreig; a Wales PEN Cymru.

Gan weithio mewn archifau ar draws Ewrop, datgelodd y tîm gorpws cyfoethog o dros 500 o hanesion teithio i Gymru nas darganfuwyd yn flaenorol wedi eu hysgrifennu mewn 15 o ieithoedd, a 450 o arweinlyfrau eraill yn Ffrangeg, Almaeneg ac Iseldireg. Mae cronfa ddata ddigidol y prosiect yn mapio pob taith a gall defnyddwyr chwilio am nodweddion gan gynnwys cyfnodau, cyrchfannau, cenedligrwydd, a rhesymau dros deithio.

Mae'r cyfraniad gwreiddiol hwn i Astudiaethau Cymreig yn golygu bod canfyddiadau rhyngwladol o Gymru ar gael o'r newydd mewn cyfieithiadau dethol. Mae’r astudiaeth hon o genedl lai a gafodd ei bychanu hyd yn hyn o fewn astudiaethau ysgrifennu taith yn baradigmatig ar gyfer ymchwilio i ganfyddiadau esblygol cenhedloedd llai ‘gweladwy’ yn hanesyddol, e.e. Llydaw, Catalonia.

Canmolodd y Times Higher Education [23/02/2017] y dull arloesol o ddefnyddio prism ymchwil sy’n seiliedig ar Ieithoedd Modern ym maes Astudiaethau Celtaidd, ‘gan ddangos sut mae ieithoedd modern yn gynyddol yn ein helpu i ddeall ein diwylliant ein hunain.’

Yr Effaith

Mae canfyddiadau blaenorol o Gymru fel ‘anhysbys’ ac ‘anweledig’ mewn ysgrifennu taith Ewropeaidd wedi’u trawsnewid gan ein hymchwil a ddatgelodd safbwyntiau Ewropeaid cyfandirol am Gymru ers 1750. Arweiniodd rhannu’r canfyddiadau hyn â chynulleidfaoedd rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol newydd ym meysydd addysg, treftadaeth, arfer creadigol a pholisi diwylliannol at nifer o fanteision.

Mae gan ein hymchwil gyrhaeddiad byd-eang oherwydd datblygiad offer ymchwil treftadaeth ddigidol: mae buddiolwyr ein cronfa ddata yn byw ar draws 6 chyfandir a 70 o wledydd, ac mae Sefydliadau Addysg Uwch rhyngwladol wedi ei mabwysiadu fel offer ymchwil (e.e. cwrs ôl-raddedig Prifysgol Leipzig ar 'Cymru mewn Ysgrifennu Taith').

Mae buddiolwyr addysgol yn cynnwys disgyblion ysgolion cynradd ac athrawon a ddefnyddiodd ein e-lyfrau gweithgareddau dwyieithog, rhwydwaith arloesol o ysgolion uwchradd llywodraeth Cymru (Seren) a dysgwyr sy’n oedolion. Arweiniodd gwaith allgymorth Prifysgol Abertawe at fwy o ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a newid arferion addysgol. Mae’r adnoddau a’r safbwyntiau newydd hyn yn llywio mentrau polisi cenedlaethol sy’n rhoi gwerth ar ddinasyddiaeth foesegol wybodus ac amrywiaeth ddiwylliannol (e.e. pedwar diben Adolygiad Donaldson), ac maent wedi newid dealltwriaeth o brofiadau ffoaduriaid ac alltudion yng Nghymru.

Bu ein hymchwil ar destunau teithio a chelf weledol o fudd i amgueddfeydd ac orielau trwy gynhyrchu cynnwys arddangos newydd yn arddangosfa ryngweithiol EwrOlwg gyda sgyrsiau a gweithdai cyhoeddus, ac mae ymatebion ymwelwyr yn dangos ei budd cymdeithasol-ddiwylliannol o wella dealltwriaeth y cyhoedd o berthynas Cymru ag Ewrop.

Mae’r prosiect wedi bod o fudd i ddiwydiannau creadigol a thrafodaethau gwleidyddol yng Nghymru a thu hwnt drwy ysbrydoli a chomisiynu ysgrifennu taith newydd, a gweithio gyda sefydliadau dielw allanol gan gynnwys Wales PEN Cymru. Prosiect Teithwyr Ewropeaidd i Gymru a ysbrydolodd y gyfres ‘Perthyn i Gymru’ yng nghylchgrawn the Welsh Agenda y felin drafod annibynnol Sefydliad Materion Cymreig. Mae ein hymchwil a’r gweithiau llenyddol amlieithog newydd hyn am Gymru felly wedi rhoi llwyfan i leisiau sydd wedi’u tangynrychioli a’u hymyleiddio, sydd yn eu tro yn helpu eraill, gan gynnwys pobl ifanc, i feddwl a gweithredu’n fwy hyderus fel dinasyddion creadigol a moesegol wybodus.

Text reads themau ymchwil prifysgol abertawe