A view of singleton campus including singleton park and the beach, with the sea stretching into the horizon.
Dr Kathryn Jones

Dr Kathryn Jones

Athro Cyswllt, Modern Languages

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Rhugl
112
Llawr Cyntaf
Adeilad Keir Hardie
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Kathryn Jones yn Athro Cysylltiol yn Ffrangeg yn yr Adran Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd. Mae hi'n Gyd-ymchwilydd ar gyfer y prosiect ymchwil a ariennir gan yr AHRC, Teithwyr Ewropeaidd i Gymru: 1750-2010, ac yn un o awduron Hidden Texts, Hidden Nation: (Re)Discoveries of Wales in French and German Travel Writing (1780-2018) (Liverpool University Press, 2020). Yn ei hymchwil mae hi'n mabwysiadu ymagwedd drawswladol, gan ddechrau gyda'i monograff, Journeys of Rememberance: Memories of the Second World War in French and German Literature, 1960-1980 (Legenda, 2007). Mae hi wedi cyhoeddi'n helaeth ym meysydd ysgrifennu teithio, astudiaethau gwrthdaro ac astudiaethau cof.

Dr Jones yw Cyfarwyddwr Ymchwil Ôl-raddedig Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau. Mae hi wedi goruchwylio myfyrwyr ymchwil mewn amrywiaeth o feysydd pwnc y mae hi hefyd yn mwynhau eu haddysgu, gan gynnwys Ffrangeg, llenyddiaeth a diwylliant Ffrangeg ac Almaeneg, astudiaethau rhywedd, astudiaethau cof, astudiaethau ôl-drefedigaethol, cyfieithu, twristiaeth, ysgrifennu teithio, astudiaethau Cymreig.

Mae Dr Jones yn chwarae rôl flaenllaw wrth ddatblygu darpariaeth addysgu cyfrwng Cymraeg ym maes Ieithoedd  Modern. Ar hyn o bryd, hi yw Cadeirydd y Panel Cenedlaethol ar gyfer Ieithoedd Modern drwy gyfrwng y Gymraeg.

Meysydd Arbenigedd

  • Ffrangeg a Diwylliant Ffrangeg yn yr 20fed a'r 21ain ganrif
  • Diwylliant Almaeneg yn yr 20fed a'r 21ain ganrif
  • Ysgrifennu teithio
  • Astudiaethau Cof
  • Astudiaethau Gwrthdaro
  • Astudiaethau Rhywedd
  • Astudiaethau ôl-drefedigaethol a mudo
  • Astudiaethau trawswladol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae Dr Jones yn addysgu mewn amrywiaeth eang o feysydd, gan gynnwys Ffrangeg, llenyddiaeth a diwylliant Ffrangeg ac Almaeneg, astudiaethau rhywedd, astudiaethau cof, astudiaethau ôl-drefedigaethol, cyfieithu, ysgrifennu teithio ac astudiaethau Cymreig. Mae hi hefyd yn addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae hi'n mwynhau cyflwyno diwylliannau Ffrangeg i fyfyrwyr, addysgu testunau a ffilmiau o Algeria, Camerŵn, Senegal Guadeloupe a Quebec yn ogystal ag o Ffrainc. Mae ei meysydd arbenigol eraill yn cynnwys gweithdai cyfieithu a phortreadau ac atgofion o Ffrainc a’r Ail Ryfel Byd a Rhyfel Algeria.

Rwy’n falch iawn o’r modiwlau iaith a diwylliannol Ffrangeg drwy’r Gymraeg i mi eu datblygu a dysgu dros y pymtheg mlynedd diwethaf, gan gynnwys modiwlau astudiaethau cyfieithu, ffilm, llenyddiaeth ac iaith.

Ymchwil Cydweithrediadau