Sut Mae Cydweithio Artistig Ac Ymchwil Yn Llunio Hanesion Cwiar Newydd Ledled y DU
Ar draws y DU, mae llawer o bobl LHDTCRhA+ yn parhau i brofi unigrwydd, allgáu ac ymyleiddio, problemau sy'n cael eu dwysáu gan wahaniaethu, rhagfarn ddiwylliannol a dileu hanesion cwiar yn yr hirdymor.
Llywiodd hyn ymchwil gynharach Dr Charlotte Jones, sydd bellach yn gweithio ym Mhrifysgol Abertawe, y bu ei gwaith cymdeithasegol gyda'r hanesydd Dr Fred Cooper ym Mhrifysgol Caerwysg yn archwilio'r ffyrdd cymhleth y mae unigrwydd LHDTCRhA+ yn cael ei lunio gan ragfarn, diffyg cydnabyddiaeth, ac effeithiau parhaol trawma cymunedol. Roedd eu hymchwil yn cynnwys cyfarwyddeb Arsylwi Torfol, a gasglodd set ddata fawr ar unigrwydd ym Mhrydain ac a ddatgelodd fylchau cymdeithasol dybryd mewn dealltwriaeth a chefnogaeth, a phrosiect a gynhyrchwyd ar y cyd â myfyrwyr, yn mapio ac yn cofnodi unigrwydd.
Yr ymchwil hon wnaeth ysbrydoi The Beat of Our Hearts, prosiect creadigol dan arweiniad Dr Charlotte Jones a'i thîm ym Mhrifysgol Caerwysg, gan gynnwys y dramodydd Natalie McGrath mewn partneriaeth â Theatr Exeter Northcott a'r elusen LHDTC+, Intercom Trust. Mae'r ymchwil yn ganolog i'r profiadau byw o ynysu a chysylltiad. Arweiniodd y prosiect at gynhyrchiad llwyfan yn archwilio unigrwydd a pherthyn cwiar mewn tref arfordirol fach, a chreu archif gymunedol.
Creu Lleoedd Ar Gyfer Myfyrio A Thrafod
Gan adeiladu ar etifeddiaeth y prosiect gwreiddiol, aeth Dr Charlotte Jones a'r dramodydd Natalie McGrath ati i ehangu ei gyrhaeddiad a'i effaith a barhaodd ym Mhrifysgol Abertawe. Gyda chefnogaeth Cyfrif Cyflymu Effaith yr AHRC, archwiliodd eu menter newydd sut y gall creadigrwydd sbarduno sgyrsiau ynghylch perthyn i bobl LHDTCRhA+, a sut mae cymunedau'n ymateb pan fydd eu straeon yn cael eu rhoi ganol llwyfan a'u dathlu.
Gan ddefnyddio drama Natalie McGrath fel canolbwynt, roedd y prosiect yn gwahodd cyfranogwyr i gymryd rhan mewn gweithdai, dangosiadau ffilmiau a thrafodaethau agored ar draws tair rhanbarth, sef Cernyw, Caerdydd a Glasgow. Cynigiodd pob lleoliad syniadau ffres i dreftadaeth LHDTCRhA+, iechyd meddwl, a'r gwahanol ffyrdd y mae cymunedau'n deall unigrwydd.
Cernyw
Cynhaliwyd y cam cyntaf yn Kresen Kernow yn Redruth, a gyflwynwyd gyda phartneriaid lleol, Queer Kernow. Gwnaeth gweithdy creadigol caeedig i artistiaid LHDTCRhA+ a dangosiad cyhoeddus o The Beat of Our Hearts ddenu presenoldeb cryf ac adborth brwdfrydig.
Aeth yr effaith y tu hwnt i'r digwyddiadau eu hunain. Gwnaeth themâu absenoldeb archifol y ddrama sbardun trafodaethau am ddiffyg casgliad LHDTCRhA+ pwrpasol yng Nghernyw. Esblygodd y sgwrs hon yn gyflym i fod yn fenter yn y byd go iawn, lle cynhaliodd Queer Kernow ddigwyddiad ym mis Tachwedd 2024 i ddechrau datblygu archif gwiar ranbarthol newydd, gwaddol annisgwyl ac arwyddocaol o'r prosiect.
Caerdydd
Ym mis Chwefror 2025, symudodd y prosiect i Amgueddfa Caerdydd, lle gwnaeth yr awdur a'r hanesydd LHDTC+ lleol Norena Shopland hwyluso gweithdy ysgrifennu creadigol ochr yn ochr â dangosiad ffilm o'r ddrama. Gyda phresenoldeb llawn ar gyfer y ddau ddigwyddiad, cafodd Dr Jones a'r tîm eu cyffwrdd gan ba mor ddwfn oedd y cysylltiad rhwng y gynulleidfa a'r ddrama. Arweiniodd eu hymatebion at sgyrsiau am sut mae bywydau cwiar yng Nghymru yn cael eu cynrychioli, straeon gan unigolion, a pha naratifau sydd ar goll o hanes diwylliannol y genedl.
Arweiniodd y gweithdai hyn at flodeugerdd newydd o ysgrifennu Cymreig LHDTC+, LGBTQ+ Proud Writing in Wales: A new collection Inspired by The Beat of Our Hearts, sy'n dwyn ynghyd straeon, cerddi a myfyrdodau a gyflwynwyd gan y cyfranogwyr hyn. Ers hynny mae'r llyfr wedi cael ei ddosbarthu ar draws llyfrgelloedd, amgueddfeydd a sefydliadau cymunedol, ac mae wedi cael sylw yn y cyfryngau ledled Cymru. Mae’n etifeddiaeth barhaol arall o'r prosiect dan arweiniad y gymuned.
Gwnaeth y cyfnod yng Nghaerdydd ysbrydoli gweithgarwch annibynnol pellach hefyd: Cynhaliodd Llanelli Queer Collective ei ddangosiad a'i weithdy ei hun ar ôl dod i'r digwyddiad, gan ehangu cyrhaeddiad y prosiect ymhellach fyth.
Glasgow
Cynhaliwyd y cam olaf yn Llyfrgell Menywod Glasgow ym mis Mai 2025. Daeth y cynulliad agos atoch hwn â dramodwyr, archifwyr, academyddion a gweithwyr diwylliannol LHDTCRhA+ ynghyd, ac roedd llawer ohonynt yn llywio effaith emosiynol dyfarniad diweddar Goruchaf Lys y DU ar y Ddeddf Cydraddoldeb.
Wedi'i gynllunio fel gweithdy ysgafn a myfyriol, darparodd y digwyddiad ofod prin ar gyfer sgyrsiau traws-sector. Archwiliodd y cyfranogwyr ddeunyddiau archifol, rhannodd wrthrychau personol, a thrafododd yr heriau o gadw hanesion cwiar a ffeministaidd. Daeth sawl cydweithrediad newydd i’r amlwg o’r digwyddiad, ac roedd y cynulliad yn cynnig cadarnhad o waith sydd yn aml yn ynysig, gan gryfhau’r rhwydweithiau anffurfiol sy’n cynnal cymunedau LHDTC+ yn yr Alban a thu hwnt.
Nid yn unig oedd y digwyddiad yn Glasgow yn ddiweddglo addas i gam ffurfiol y prosiect, roedd hefyd yn atgof teimladwy o bwysigrwydd creu mannau lle gall pobl LHDTC+, yn enwedig y rhai hynny sydd dan bwysau gwleidyddol presennol, ddod at ei gilydd, cefnogi ei gilydd, a dychmygu posibiliadau newydd.
Rhwydwaith Sy'n Tyfu, Etifeddiaeth Barhaol
Ar draws y tri rhanbarth, dangosodd y prosiect botensial trawsnewidiol creadigrwydd wrth feithrin cysylltiad, dealltwriaeth a pherthyn. Gwnaeth y prosiect gryfhau partneriaethau, cefnogi awduron ac artistiaid LHDTCRhA+ sy'n dod i'r amlwg, a sbarduno mentrau treftadaeth newydd, gan gynnwys archif gwiar sy'n datblygu yng Nghernyw ac antholeg LHDTCRhA+ newydd Cymru.
Yn bwysicaf oll, creodd y prosiect fannau lle roedd pobl LHDTCRhA+ yn teimlo eu bod yn cael eu clywed, eu gwerthfawrogi a'u cysylltu, mannau y disgrifiodd llawer o gyfranogwyr fel rhai prin neu ar goll yn eu bywydau pob dydd.
Mae gwaith Dr Charlotte Jones yn parhau i adeiladu ar y momentwm hwn, gan lunio sgyrsiau newydd ynghylch unigrwydd cwiar a sicrhau bod hanesion LHDTCRhA+ yn cael eu cadw, eu dathlu a'u rhannu.