Enw byd-eang ym maes cyfraith llongau a masnach

Sefydlwyd y Sefydliad Cyfraith Llongau a Masnach Ryngwladol yn 2000 i fod yn ganolfan ymchwil a hyfforddiant proffesiynol yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe.

Mae'n  hyrwyddo ymchwil ac addysgu o'r safon uchaf ym meysydd cyfraith llongau a masnach ryngwladol; ac mae’n meithrin cydweithio â sefydliadau academaidd eraill a chyrff proffesiynol, cwmnïau masnachol, llongau, yswiriant a busnes.

Yn ystod y degawd diwethaf, mae'r IISTL wedi magu enw da byd-eang am ei gyfraniad at ymchwil, llunio polisïau, hyfforddiant ac addysgu proffesiynol yn y meysydd hyn.

Mae'r Gynhadledd Flynyddol, a gynhaliwyd gyntaf yn 2005, yn uchafbwynt y flwyddyn academaidd ym maes cyfraith forwrol yn Ewrop a'r tu hwnt. Mae wedi ymdrin â'r materion canlynol dros y blynyddoedd:

Mae gan yr IISTL gysylltiadau agos â sefydliadau morwrol a rhyngwladol blaenllaw, gan gynnwys canolfannau ymchwil morwrol yn Dalian, Oslo, Rotterdam, Shanghai ac yn Tromsø ac â’r:

  • Sefydliad Morwrol Rhyngwladol
  • Sefydliad Cyfraith Yswiriant Prydain
  • Sefydliad Cyfraith Forwrol Prydain
  • Comité Maritime International

Mae nifer o aelodau IISTL wedi cyfrannu at y drafodaeth ar ddiwygio agweddau ar gyfraith llongau ac yswiriant, ar lefelau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae rhai wedi gwasanaethu ar weithgorau sefydliadau rhynglywodraethol neu wedi darparu cyngor cyfreithiol i sefydliadau anllywodraethol a sefydliadau allweddol.          

Mae'r IISTL yn cynnal amrywiaeth eang o gyrsiau proffesiynol ar gyfer cyfarwyddwyr, rheolwyr a staff corfforaethau llongau, yn ogystal â rhaglen hyfforddiant pwrpasol ar gyfer cyfreithwyr ifanc sy'n gweithio mewn cwmnïau yn y Ddinas. Mae'r IISTL hefyd yn gweithio'n agos gyda sefydliadau llongau, megis y BIMCO, i drefnu cyrsiau hyfforddiant proffesiynol.

Mae nifer o'n haelodau'n cynnig gwasanaethau ymgynghori ar agweddau amrywiol ar gyfraith forwrol a llongau, neu'n helpu i gyflwyno rhaglenni LLM yr Ysgol mewn Cyfraith Fasnachol, Forwrol, Masnach, Olew a Nwy ac Eiddo Deallusol.                

Mae aelodaeth yr IISTL wedi tyfu'n sylweddol ac mae'n ymfalchïo yn y ffaith ei fod yn un o'r canolfannau ymchwil arbenigol mwyaf yn Ewrop sy'n arbenigo mewn cyfraith llongau a masnach. Mae ganddo lyfrgell ymchwil sylweddol o ddeunyddiau arbenigol sydd ar gael i aelodau'r IISTL, myfyrwyr PhD ac ysgolheigion gwadd.

Mae'r fenter arobryn, IP Wales, sy'n cynyddu dealltwriaeth o eiddo deallusol ymhlith busnesau Cymru, yn gweithredu fel aelod o IISTL.