Mentrau a Chanlyniadau Cyflogadwyedd Morio a Masnach

Mae cyflogadwyedd wedi bod yn flaenoriaeth gyson i Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe. Rydym yn cydnabod bod angen mwy na dim ond dysgu academaidd ar fyfyrwyr LLM i'w paratoi ar gyfer eu dyfodol proffesiynol ac i'r perwyl hwnnw, rydym yn cynnig nifer o fentrau wedi'u teilwra'n arbennig i sicrhau bod ein myfyrwyr yn barod i ymateb yn uniongyrchol i'r heriau gyrfaol sy'n eu hwynebu. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Cynnig modiwl dewisol na ddyfernir credydau ar ei gyfer (Sgiliau Cyflogadwyedd yn y Diwydiant Masnachol a Morol). Mae'r modiwl hwn yn cynnig arweiniad ymarferol yn y sgiliau ysgrifenedig a llafar sydd eu hangen ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus ar ôl cwblhau gradd LLM. Caiff myfyrwyr gyflwyniad i'r byd ceisiadau swydd gan ddysgu yr hyn y gallai fod ei angen arnynt i'w helpu i ffynnu a symud ymlaen ar hyd llwybr gyrfa, gan gynnwys sut i nodi profiadau, cyfleoedd dysgu a gwybodaeth a manteisio i'r eithaf arnynt, a sut i hyrwyddo eu hunain yn effeithiol, gan gynnwys ffyrdd o gymhwyso fel cyfreithiwr gweithredol.
  • Cyngor cyflogadwyedd arbenigol a gynigir gan ein Swyddogion Cyflogadwyedd penodedig, sydd hefyd yn cynnal cyrsiau hyfforddi rheolaidd drwy gydol y flwyddyn.
  • Cyfres o ddarlithoedd gwadd gan ysgolheigion ac ymarferwyr uchel eu parch sy'n ymweld â'r ysgol gan anelu at gynnig cipolwg o ymarfer i'n myfyrwyr, a rhannu eu harbenigedd o'r diwydiant a chyngor ar sut i lwyddo yn eich gyrfa.
  • Y cyfle unigryw i gymryd rhan mewn digwyddiadau dadlau, sy'n anelu at feithrin sgiliau trosglwyddadwy hanfodol ein myfyrwyr LLM drwy roi cyfleoedd iddynt ddefnyddio'r pynciau y maent wedi'u dysgu fel rhan o'r cwrs mewn ffordd ymarferol.
  • Cysylltiadau agos ag ymarfer cyfreithiol ac amrywiol elfennau o'r sectorau morio a busnes. Mae sawl un o'n darlithwyr (Mr Andrew Beale OBE, Dr George Leloudas a'r Athro Richard Williams, yr Athro Andrew Tettenborn a'r Athro Barış Soyer) naill ai wedi gweithio mewn cwmnïau cyfreithiol rhyngwladol neu wedi gweithio'n agos â chwmnïau o'r fath. Mae aelodau o'r tîm addysgu ôl-raddedig hefyd yn cyflwyno seminarau hyfforddi a darlithoedd rheolaidd sy'n cynnig cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol i gonsortiwm o gwmnïau cyfreithiol yn y ddinas, BIMCO, BP ac IATA.
  • Mae sesiynau adolygu CVs a Llythyrau Cyflwyno a gynigir drwy gydol y flwyddyn a'n clinig Sgiliau Cyfweliadau yn rhoi'r adborth a'r cyngor hanfodol sydd eu hangen ar fyfyrwyr i sicrhau eu bod mor barod â phosibl i wneud cais am swyddi.
  • Digwyddiadau rhwydweithio ac ymweliadau â chwmnïau blaenllaw yn Ninas Llundain gyda'r bwriad o wella dealltwriaeth ymarferol ein myfyrwyr o farchnadoedd morio ac yswiriant.

A hoffech ddysgu mwy am lwyddiannau ein myfyrwyr? Ewch i'r adran 'Cyrchfannau Myfyrwyr LLM' i gael rhagor o wybodaeth.

Interniaethau

 Interniaethau

Lleoliadau yn y DU

 Lleoliadau yn y DU

Lleoliadau yn Ne America

Lleoliadau mewn De Affrica