Yi-Cheng Chen (Taiwan, LLM mewn Cyfraith Fasnachol a Morwrol Ryngwladol)

A headshot of LLM student Yi-Cheng Chen

Mae Yi-Cheng yn gweithio fel uwch-reolwr yn Taiwan International Ports Corp., Ltd. Fel rhan o’i swydd, mae’n rhoi cymorth i benaethiaid adrannau amrywiol wrth nodi materion cyfreithiol mewn trafodion y mae’r cwmni’n cynnig i’w cychwyn. Mae hefyd yn darparu cyngor a chymorth mewn trafodaethau, a negodiadau ac wrth lunio contractau masnachol perthnasol.

Evans Fei (Tsieina, LLM mewn Cyfraith Fasnachol a Morwrol Ryngwladol)

Evans Fei

Cwblhaodd Evans ei LLM yn Abertawe yn 2019 ac mae bellach yn gweithio yn Shanghai gydag Ince & Co. Mae'n cynghori cleientiaid y diwydiant morgludiant yn rheolaidd ar faterion dadleuol ac annadleuol o ran y fasnach nwyddau, adeiladu llongau, hurio llongau a chludo nwyddau. Cyn hynny, cafodd brofiadau o fod yn intern gyda Chymdeithas Yswiriant Cydfuddiannol Tsieina, Chubb a Clyde & Co.   

Shengyi Jiang (Tsieina - LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol)

Shengyi Jiang

Yn ystod ei gwrs LLM ym Mhrifysgol Abertawe, cafodd Shengyi y cyfle i ymgymryd ag interniaethau â Holman Fenwick Willan LLP a Willis, un o gwmnïau gwasanaethau proffesiynol mwyaf y byd yn arbenigo mewn broceru yswiriant a rheoli risg. Gwellodd ei gyfleoedd interniaeth ei ddealltwriaeth ymarferol o gyfraith morio ac yswiriant ac yn sicr, gwnaethant eu helpu i gael swydd gyda COSCO De-ddwyrain Asia yn Singapôr fel Gweithredwr Morio.

Siddharth Mahajan (India, LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol)

A headshot of LLM student Siddharth Mahajan

Mae Siddharth yn Feistr Forwr gyda mwy nag 20 mlynedd o brofiad ar y môr ac ar y tir yn y diwydiant morol. Enillodd ei LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol (gyda theilyngdod) yn 2015, ac yn dilyn hynny, dechreuodd weithio fel DPA ar gyfer perchennog llong cludo yng Ngwlad y Thai am dair blynedd pan fu’n gyfrifol am faterion a oedd yn gysylltiedig ag IMA a TMSA.

Bellach mae’n gweithio yn Singapôr gyda GARD AS, sy’n yswiriwr morol blaenllaw, fel Swyddog Gweithredol Atal Colledion ar gyfer rhanbarth Asia. Mae ei rôl bresennol yn cynnwys gweini aelodau a chleientiaid drwy weithdai, seminarau ac adolygiadau mewnol, gan gyflwyno mewn fforymau diwydiant, ysgrifennu erthyglau, cynnal gwaith dadansoddi hawliadau, darparu cyngor technegol ac asesu addasrwydd llongau i’w hyswirio.

Munhak Pahk (De Korea - LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol)

Munhak Pak

Mae Munhak wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan mewn nifer o interniaethau â chwmnïau cyfraith forol ryngwladol yn Llundain (Stephenson Harwood, Mays & Brown Solicitors, Tatham Macinnes LLP) a Newcastle (Mills & Co) yn ystod yr haf ac wedi hynny. Bydd yr interniaethau hyn yn cynnig y cyfle i Munhak weithio’n agos â chyfreithwyr sy’n ymdrin â gwahanol achosion morol. Yn ddiau, bydd yn cael profiad uniongyrchol gwerthfawr o faterion sy’n gysylltiedig ag yswiriant morol, cludo nwyddau, siarteri llogi llongau a chyfraith morlys, sef rhai o’r pynciau a astudiwyd ganddo fel rhan o’i LLM morol ym Mhrifysgol Abertawe.

Mayank Suri (India - LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol)

Mayank Suri

Gweithiodd Mayank am bythefnos o dan oruchwyliaeth Athro Soyer fel intern ymchwil yn y Sefydliad Cyfraith Morio a Masnach Ryngwladol.  Bu o gymorth mawr i brosiect ymchwil y Sefydliad ar faterion cyfreithiol mewn perthynas â llongau di-griw, ac fel rhan o’i interniaeth, cyflwynodd ei ganfyddiadau mewn ffordd hynod broffesiynol i aelodau’r Sefydliad ym mis Gorffennaf. O ganlyniad i hynny, cafodd hefyd y cyfle i gyflwyno papur pellach ym mis Medi yn y Gynhadledd Seiberddiogelwch a drefnwyd gan fyfyrwyr PhD ym Mhrifysgol Abertawe. Nododd ei ganfyddiadau ar y defnydd arfaethedig o ddeallusrwydd artiffisial i awtomeiddio swyddogaethau llongau fod angen llunio strategaethau i drechu risgiau seiber mewn cyd-destun gweithredol. Roedd y gwaith ymchwil yn anelu at ganfod datblygiadau masnachol cyfredol ym maes adeiladu llongau sy’n defnyddio deallusrwydd artiffisial yn lle cyfranogiad dynol. Mae Mayank yn eiriolwr cofrestredig yn India a gafodd ei alw i’r bar yn 2015. Mae wedi gweithio gydag amrywiol gwmnïau cyfreithiol yn ardal New Delhi ac mae bellach yn arbenigo mewn cyfraith forol a chyfraith olew a nwy alltraeth.

Rusen Zhao (Tsieina - LLM mewn Cyfraith Fasnachol a Morol Ryngwladol)

Rusen Zhao

Cynigiwyd cyfle unigryw i Rusen ymgymryd ag interniaeth yn Aon PLC, y darparwr byd-eang blaenllaw ym maes rheoli risg, yswiriant a broceriaeth ailyswirio. Ymgymerodd ag interniaeth yn swyddfeydd y cwmni yn Beijing, lle y cafodd y cyfle i weld sut mae’r sector yswirio ac ailyswirio yn gweithredu, yn ogystal â phrofiad o swydd brocer. Mae’r cyfle hwn i ymgymryd ag interniaeth wedi gwella rhagolygon cyflogadwyedd Rusen ac mae’n hyderus y bydd yn ased ychwanegol wrth chwilio am swydd yn y sector yswiriant ar ôl graddio.