Callistus Ojukwu (Nigeria - LLM mewn Cyfraith Fasnachol a Morol Ryngwladol)

Callistus Ojukwu

Cynigiwyd profiad gwaith i Callistus â Holman Fenwick Willan “HFW” (Llundain), Cwmni Cyfreithiol blaenllaw ag enw da a sefydlwyd yn 1883 â phencadlys yn Llundain a swyddfeydd ledled y byd. Mae’r cwmni yn arbenigo mewn masnach ryngwladol gan weithredu ar ran sefydliadau morio, cwmnïau yswiriant, cwmnïau nwyddau ac ynni, cwmnïau awyrennau, banciau buddsoddi ymhlith eraill. Yn ystod ei gyfnod yn HFW, gweithiodd Callistus yn yr Adran Morio a chafodd y cyfle i helpu rhai o’r partneriaid â barn gyfreithiol ar amrywiol faterion cyfoes, megis: y sefyllfa yn ôl Cyfraith Lloegr pe byddai llong yn achosi difrod sylweddol i fraich lwytho mewn terminws alltraeth yr ystyrir ei bod wedi dibrisio dros y blynyddoedd i werth o sero; dulliau cael gwared yn fwriadol ar long (yr ystyrir ei bod yn ddryll llwyr) yn y môr yn unol â Chonfensiwn Llundain 1972 ymhlith eraill. Rhoddodd y profiad gwaith y cyfle iddo gymhwyso cyfraith Lloegr i sefyllfaoedd go iawn ac i feithrin cysylltiadau personol a phroffesiynol gwerthfawr.