Mentrau Dadlau LLM a Llwyddiant

Mentrau Dadlau LLM

Yn ogystal â chynnig profiad addysgol o’r radd flaenaf mewn cyfraith fasnachol a morol, mae’r Adran Cyfraith Forio a Masnach yn Abertawe yn anelu at feithrin sgiliau trosglwyddadwy ei myfyrwyr LLM, sy’n hanfodol ar gyfer gyrfa fel ymarferwr cyfreithiol. Mae sgiliau o’r fath yn cynnwys y gallu i gynnal gwaith ymchwil, deall y maes perthnasol o’r gyfraith a llunio dadleuon credadwy yn seiliedig ar egwyddor gyfreithiol ac awdurdod, yn ogystal â’r hyder i siarad yn gyhoeddus a meddwl yn yr unfan.

I’r perwyl hwn, mae’r Adran yn trefnu nifer o fentrau dadlau drwy gydol y flwyddyn academaidd, gan gynnwys:

  • Hyfforddiant dadlau gan Gydgysylltydd Dadlau penodedig.
  • Sesiynau hyfforddiant wedi’u cyflwyno gan fargyfreithwyr.
  • Cystadleuaeth Ddadlau Fewnol LLM, sy’n rhoi’r cyfle i fyfyrwyr LLM brofi eu sgiliau eiriolaeth newydd. Er enghraifft, yn 2015-16, cynhaliwyd rownd derfynol y Cystadleuaeth Ddadlau Fewnol LLM yn y Goruchaf Lys gyda’r Arglwydd Clarke yn beirniadu.
  • Cystadleuaeth Ddadlau Genedlaethol Flynyddol mewn Cyfraith Fasnachol a Morol, wedi’i threfnu gan Gyfarwyddwr Dadlau LLM, Dr George Leloudas. Noddir y digwyddiad drwy garedigrwydd 7 King’s Bench Walk, siambr fasnachol flaenllaw, ac Informa Law, cyhoeddwr cyfreithiol blaenllaw (gweler isod am ragor o wybodaeth am y cystadlaethau dadlau blaenorol).
Y 3edd Ddadl Fasnachol a Morol Yr 2il Gystadleuaeth Ddadlau Masnachol a Morol Y Gystadleuaeth Ddadlau Masnachol a Morol Gychwynnol