IP CYMRU® - YN CEFNOGI ARLOESI

IP CYMRU® - YN CEFNOGI ARLOESI

Yn aelod cyfansoddol o'r Sefydliad Cyfraith Llongau a Masnachol Ryngwladol, mae gan IP Cymru agenda ymchwil weithgar i gynyddu dealltwriaeth o faterion cenedlaethol a rhyngwladol ym maes Eiddo Deallusol ac i gyfeirio penderfyniadau ar bolisi.

Mae IP Cymru® yn fenter cefnogi busnes arobryn gwerth £4m. I gydnabod ei lwyddiant wrth gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o Eiddo Deallusol ymhlith busnesau Cymru, gwahoddwyd Cyfarwyddwr IP Cymru i weithio gyda Sefydliad Eiddo Deallusol y Byd (WIPO).  I gydnabod ei wasanaethau i eiddo deallusol a busnes, dyfarnwyd OBE iddo yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2009.

Yn ystod cam cyntaf ein menter a ariannwyd gan yr Undeb Ewropeaidd, ein cenhadaeth oedd darparu'r wybodaeth a'r adnoddau ariannol i alluogi busnesau bach a chanolig (BBaCH) Cymru i fasnacheiddio eu hasedau deallusol. Ein nod oedd cynyddu lefelau ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o asedau deallusol, caniatáu i fusnesau wneud penderfyniadau masnachol gwybodus ynghylch gwarchod yr asedau hyn, a helpu BBaCh Cymru i gynnal a thyfu eu busnesau drwy integreiddio strategaeth eiddo deallusol wrth wraidd eu cynlluniau busnes. Ers i IP Cymru gael ei lansio ym mis Mehefin 2002, rydym wedi darparu cyngor strategol i dros 750 o gleientiaid, wedi helpu i sicrhau a gwarchod 205 o batentau, 60 o nodau masnach a 12 dyluniad diwydiannol ledled y byd, gan ddarparu cymorth ariannol i sicrhau 25 o drwyddedau eiddo deallusol.

Yn ein profiad ni, yr elfennau hanfodol i sicrhau llwyddiant busnesau sy'n seiliedig ar wybodaeth yw mynediad i dechnoleg a gwybodaeth uwch, rheolaeth dda a chyllid. Rydym wedi canfod bod timau rheoli da yn gwneud defnydd masnachol gwell o dechnoleg israddol na thimau rheoli gwael yn defnyddio technoleg dda, a bod timau rheoli da yn denu cyllid. Felly, rydym wedi canolbwyntio ar ymchwilio i'r gyfraith sy'n ymwneud â rheolaeth a thrafodion asedau deallusol.

Yn y Llun: Andrew Beale OBE (Cyfarwyddwr IP Cymru) [ar y dde yn y llun] yn derbyn Gwobr Arbennig y Beirniaid gan Kenneth Adamo (Partner, Jones Day) yng Ngwobrau Eiddo Deallusol Ewrop Arweinwyr y Byd

MENTER AR-LEIN IP CYMRU (2017 - 2020)

Y syniad traddodiadol am droseddau eiddo deallusol yw eu bod yn ymwneud â ffugio a lladrad (copïo anghyfreithlon); serch hynny, mae seiber-droseddwyr (a rhai gwladwriaethau hefyd) yn fwyfwy ymwybodol o werth y data cyfrinachol sydd gan fusnesau, boed hynny'n ddata sensitif am weithrediad y busnes (cyfrinachau a gwybodaeth fasnachol), neu wybodaeth am gwsmeriaid fel cyfrineiriau a manylion cardiau credyd (thema sydd hyd yn oed yn fwy perthnasol wrth i Reoliad Diogelu Data Cyffredinol 2016 yr UE ddod i rym).

Mae'r ymosodiadau hyn ar ddata cyfrinachol yn digwydd ledled y byd, â chyflymder a chymhlethdod cynyddol. Mae gwendidau diwrnod Sero (lle mae hacwyr wedi darganfod gwendid mewn diogelwch meddalwedd ac wedi manteisio arno cyn bod modd ei atgyweirio) yn cynyddu y tu hwnt i reolaeth.

I ymateb i hyn, mae IP Cymru (menter cefnogi busnes arobryn a weithredir gan academyddion yng Nghymru) wedi lansio menter ar-lein 2017-2020 newydd, â'r nod o helpu busnesau bach a chanolig i warchod eu heiddo deallusol ar-lein.